Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfandirol

cyfandirol

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Yn anffodus, er na fedrir gwadu na allai Dafydd ap Gwilym fod yn ddyledus i gorff o farddoniaeth werinaidd, nid yw'r fath gorff wedi ei gadw, tra cedwir corff o ganu cyfandirol yn ieithoedd Profens, Gogledd Ffrainc, yr Almaen, etc., sy'n cyfeirio at un ffynhonnell bosibl i'r dylanwadau a fu'n gweithio ar y bardd Cymraeg.

Pa wedd bynnag am hynny, yr oedd rahid i bawb deallus gydnabod nad oedd Dafydd ap Gwilym yn sui generis yn llenyddiaeth Ewrop, hyd yn oed os oedd yn ymddangos fellyn yn llenyddiaeth Cymru, ond fel yr oeddid yn dod yn fwy hysbys yn llenyddiaeth y cyfnod a flaenorodd ei gyfnod ef, deuai'n fwyfwy tebygol fod rhai o wreiddiau barddoniaeth serch a barddoniaeth natur Dafydd ym marddoniaeth ei flaenorwyr, sef ym marddoniaeth y Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion, ac y gallai fod y dylanwadau cyfandirol y mae'n bosibl dadlau eu bod i'w gweld yng ngwaith Dafydd, mwen gwirionedd, yn rhai a effeithiodd ar farddoniaeth ei flaenorwyr.

Ar un ystyr yr oedd y ffasiwn llenyddol a llenyddol-ysgolheigaidd yn Lloegr yn tueddu i gadarnahu barn llenorion a beirniad Cymru fod i Ddafydd ap Gwilym safle unigryw yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, ond ar yr un pryd yr oedd yn tueddu i gadarnhau'r argraff o chwilio'n ddigon manwl, ddod o hyd i effeithiau dylanwadau cyfandirol arno.

Eto i gyd, yr oedd prif elfennau fersiynau Cyfandirol hanes y cariadon yn bur hysbys y tu allan i lenyddiaeth ysgrifenedig.

Nid trwy lyfr yn unig yr ymledodd hanes Trystan ac Esyllt, ac o gofio poblogrwydd golygfa'r 'oed dan y pren' yn y cyfryngau gweledol, hynod yw nodi na adawodd yr elfen bwysig hon yn y fersiynau cyfandirol o'r hanes unrhyw ôl ar lenyddiaeth Gymraeg.