Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfanredol

cyfanredol

Yn ôl yr egwyddor hon, y mae'n ystyrlon i drin nwyddau traul (a hefyd, o ran hynny, nwyddau cyfalaf) fel cyfanred, os oes modd egluro'r galw cyfanredol am y nwyddau hyn heb ystyried na'r ffactorau sy'n pennu'r galw am nwyddau unigol nac ychwaith gymhellion treulwyr fel unigolion.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Arwyddocâd y ddwy dybiaeth gyntaf ydyw mai model dau sector yn unig a geir yn Ffigur I, sef sectorau unedau teuluol a chwmni%au busnes; a bod y galw cyfanredol, felly, yn cynnwys dwy gydran yn unig, sef y galw am nwyddau traul ar ran unedau teuluol (Treuliant), a'r galw am nwyddau cyfalaf ar ran cwmni%au (Buddsoddiant).