Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfansoddiadol

cyfansoddiadol

Teimlid bod Mulroney yn gyfrifol am nifer o fethiannau yn ystod y cyfnod: rhai economaidd yn bennaf ond hefyd cyfres o fethiannau cyfansoddiadol a oedd i fod i sicrhau cytundeb ynglŷn â statws Que/ bec o fewn Canada.

Addysgu a hyfforddi aelodau'r Blaid yn ei pholisi a'i dulliau o weithredu oedd yn bwysig yn awr Mabwysiadodd y Blaid ddulliau cyfansoddiadol a di-drais o weithredu, ac addysgodd ei haelodau i ddefnyddio'r dulliau hyn i gyflwyno ei pholisi a'i neges i'r etholwyr mewn etholiadau lleol a seneddol.

Nid na chredai mewn gweithredu cyfansoddiadol.

Ond fel pob gwleidydd da, ymddengys bod Jane wedi llunio rheolau cyfansoddiadol go bendant ar gyfer y digwyddiad.

Ymhellach, ydy'n rhaid dewis yn y cyfnod nesaf o ddatblygiad cyfansoddiadol rhwng Ysgrifennydd Cymru a Llywydd y Cynulliad?

Os symudwn ymlaen ddeng mlynedd i ail hanner y pumdegau gwelwn, er nifer o welliannau bach ond nid dibwys, mai'r un oedd y safle cyfansoddiadol.

Tanlinellodd boddi Tryweryn y gwir am safle cyfansoddiadol presennol Cymru, sef mai rhanbarth yn Lloegr yw hi sy'n drefedigaeth fewnol.

Rhoes gyfeiriad newydd i'r ymgyrch genedlaethol a gwae ni os barnwn y gellir cau'r adwy ar y cyfeiriad hwnnw yn y cyfnod cyfansoddiadol-gysurus hwn o Ddeddf Iaith newydd a Senedd i Gymru bosibl.

Efallai eich bod yn credu fod y Gymdeithas yn enghraifft o fudiad protest hynod lwyddiannus oedd yn llwyddo yn ei hamcanion drwy gyfuniad o ddulliau cyfansoddiadol ac anghyfansoddiadol.