Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfartaledd

cyfartaledd

'Mae Jimmy Maher yn dod heddi - mae e wedi ca'l cyfartaledd o 70 dros y tymor yn Awstralia.

Maentumiai gwrthwynebwyr na ellid dibynnu ar yr enwau am fod cyfartaledd uchel ohonynt yn enwau plant, a phobl a oedd wedi arwyddo fwy nag unwaith.

Bydd datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar Trawsfynydd, oedd yn cyflogi nifer sylweddol ac yn nodedig am gyflogau uwch na'r cyfartaledd, yn cael effaith andwyol ar y ddau ffigwr yma.

Cyfartaledd cyflog yn £16.14.11 ( £16.75 ).

Ar y cyd felly yr oedd cyflogau - hynny yw, cyfartaledd enillion wythnosol - wedi cynyddu ryw dair gwaith.

Dengys cymhariaethau â Chymru a Phrydain fod lefelau incwm yng Ngwynedd dipyn yn is na'r cyfartaledd dros Brydain a Chymru gyfan.

Cyfartaledd cyflogau wythnosol gros (œ) fel canran o'r cyfartaledd ym Mhrydain.

Unwaith eto mae'r cyfartaledd yn syndod o uchel o gofio'r son parhaus am dlodi addysgol Cymru yn ystod y ganrif.

Dros y blynyddoedd mae Senedd Ewrop wedi pasio sawl mesur yn datgan bod rhaid trin pob iaith swyddogol yn gyfartal er mwyn sicrhau cyfartaledd ymhlith yr aelodau.

Mae'r ffigwr hwn, fodd bynnag, yn dal islaw'r cyfartaledd cenedlaethol a chyfartaledd y sir.

Dylai arolygwyr gofnodi'r gymhariaeth gyda'r cyfartaledd cenedlaethol ond dylent hefyd ganolbwyntio'n arbennig ar asesu cyrhaeddiad y disgyblion ag AAA mewn perthynas â'u galluoedd.

Y mae cyfradd poblogaeth weithiol y pedwar dosbarth (hynny yw y cyfran o'r boblogaeth sydd ar gael i weithio) gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.

Ond er bod ffigyrau diweddar yn dangos fod lefelau cancr y fron, y stu~nog a'r groth yn uwch na'r cyfartaledd Prydeinig mewn rhannau o Wynedd, doedd y tri math yma ddim yn rhan o'r arolwg.

Mae'r rhan hon o Gymru hefyd yn dibynnuw dipyn mwy ar y sector wasanaethol am waith o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae graddfa'r gweithgaredd yn y sector gynhyrchu yng Ngwynedd gyda'r isaf ym Mhrydain.

Mae llawer, ond nid pob un, o'r disgyblion ag AAA yn debygol o gyrraedd safonau llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer eu hoedrannau hwy.

Cofnodir miloedd o achosion o drais yn y cartref gan yr heddlu bob blwyddyn - cyfartaledd fechan o'r rheini sy'n ceisio cymorth, fel arfer wedi iddynt gyrraedd pen eu tennyn ar ôl dioddef y naill ymosodiad ar ôl y llall.

Mewn rhyw ystyr, y mae'n syndod (o gofio agwedd y ganrif ddiwethaf at addysg) na fyddai'r cyfartaledd o estroniaid lawer iawn yn uwch.

Diddorol yw nodi fod cyfartaledd uwch o staff colegau'r Annibynwyr yn Aberhonddu a'r Bala wedi'u haddysgu yng Nghymru'n unig ac na chafodd unrhyw athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ei addysg yng Nghymru'n unig mwy na staff colegau'r Bedyddwyr yn y De ddwyrain.

Efallai fod perfformiad disgyblion ag AAA yn gymharol isel o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ond eto gall eu cyrhaeddiad fod yn uchel mewn perthynas â'u galluoedd gan adlewyrchu rhagoriaeth mewn perthynas â'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl ganddynt.

Yn ol cyfartaledd roedd y cynnydd mewn pwysau yn werth oddeutu hanner can punt i ffermr wrth werthu'r anifail gorffenedig, hanner can punt fyddai'n aml yn gwneud y gwahaniaeth rhwng elw a cholled.

Ond gan fod uwch cyfartaledd o'r Cymry Cymraeg yn mynd i'r ysgolion Sul nag oedd o Gymry di-Gymraeg i'w hysgolion hwy, byddem yn agos i'n lle pe dywedem fod rhywle o gwmpas hanner y boblogaeth Gymraeg yn eu mynychu.