Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfarwydd

cyfarwydd

Yna o dipyn i beth fe werthwyd amball dþ rhes, a'r pris o fewn cyrraedd teuluoedd yr oedd eu henwau'n llai cyfarwydd o dipyn.

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Yr englyn yn Gymraeg, fel y gŵyr y cyfarwydd, yw: Adeiladwyd gan Dlodi; - nid cerrig Ond cariad yw'r meini; Cydernes yw'r coed arni, Cyd- ddyheu a'i cododd hi.

Cydnebydd Tegla i'r gyfrol gael "canmol mawr arni gan wyr cyfarwydd a chondemnio mawr arni gan wyr cyfarwydd, yn ôl eu dehongliad gwahanol ohoni%.

Beth a allai ei wneud ond yr un peth â'r pregethwr,--dianc i fysg pethau cyfarwydd iddo ac ohonynt greu cartref iddo'i hun y gallai fyw'n ddedwydd a diogel ynddo .

Cyrff mewn parlyrau Sulaidd eu naws: roedd Cymry dechrau'r ganrif yn ddigon cyfarwydd â hynny.

Doedd y Cymry yn yr ardal lle y cafodd hi ei magu ddim yn gwrthwynebu tai haf, ac roedd nifer go lew ohonyn nhw o gwmpas: rhai'n perthyn i enwau cyfarwydd megis Mackintosh, Dunlop, a Rowntree, teuluoedd a oedd yn berchenogion ar geir crand a chychod hwylio.

Fe gofir bod y mynach anllad yn gymeriad cyfarwydd mewn llenyddiaeth fasweddus trwy'r oesoedd.

Bydd y Llyfr Mawr y Plant newydd yn cynnwys straeon cyfarwydd (yr awduron gwreiddiol, J O Williams a Jennie Thomas) am gymeriadau bythwyrdd megis Wil Cwac Cwac a Siôocirc;n Blewyn Coch, posau hen a newydd a lluniau o'r llyfr gwreiddiol.

Ganwyd ef yn Y Rhyl ond y mae ei enw yn un cyfarwydd yn y fro heddiw.

Ar wahan i'r adar cyfarwydd fel y gog a'r wennol fydd yn cyrraedd yma yn y Gwanwyn, mae miliynau o adar eraill yn cyrraedd yr un pryd, e.e.

Daeth nodweddion cyfarwydd eraill i'r amlwg yn fuan.

Mae colli darn cyfarwydd o ddodrefn yn gwneud i bawb deimlo ychydig yn chwithig, hyd yn oed i'r rhai oedd wedi bygwth rhoi bwyell trwyddo ers blynyddoedd.

Er eu trwyddedu, fodd bynnag, 'roedd cryn wrthwynebiad i'r Beiblau Saesneg hyn, gan eu bod yn cefnu'n aml ar destun cyfarwydd y Fwlgat, a chan fod eu Saesneg cartrefol yn taro'n chwithig onid yn gableddus ar glustiau a ymhyfrydai yn sŵn mawreddog, litwrgi%aidd y Fwlgat Lladin.

'Yn ddiweddar iawn, bid siŵr, oblegid masnach feunyddiol gyda'r Saeson, a'r ffaith fod ein dynion ieuainc yn cael eu haddysg yn Lloegr, a'u bod, o'u plentyndod (a siarad yn gyffredinol) yn fwy cyfarwydd a'r Saesneg nag a'u hiaith eu hunain, fe oresgynnwyd ein hiaith ni gan rai geiriau Saesneg, a chan ffurfiau Saesneg, ac y mae hynny yn digwydd fwyfwy bob dydd' meddai.

Mae hydrocsid sodiwm, neu soda costig i roi ei enw arall iddo, yn alcali cyfarwydd ond peryglus iawn.Gall ddinistrio croen dynol a dillad yn gyflym iawn.

Ond maen derm cyfarwydd o fewn cwmniau mawr.

Canodd a chanodd y gloch unwaith yn rhagor, ond ni ddaeth llais cyfarwydd Emyr i'w chlyw.

Roedd Keith Walker, rheolwr Merthyr, yn ffarwelio â phêl-droed Cymru a hynny ar faes cyfarwydd iddo - y Vetch lle bu'n chwarae i Abertawe - cyn dychwelyd i'r Alban.

Cyfres achlysurol newydd sy'n croesholi rhai o wynebau cyfarwydd y Gymdeithas. Yn gyntaf, rhowch groeso i Rocet, ugeinfed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Onid yw hwn yn bwynt cyfarwydd ac un a ail-adroddwyd gennym yn fynych.

Ond yn y cyfamser, mae'n weddol saff i haeru - saffach nag unrhyw sedd mae hi'n debyg o'i chipio yn San steffan - fod ei henw yn fwy cyfarwydd i bobol na'r un actores ffilmiau aral i Loegr ei chynhurchu yn ystod y chwarter canrif diwethaf.

Tanlinellir yn gyson fod y tebygrwydd rhwng Harri a i dad yn cryfhau o hyd (yn enwedig yn y dilyniant lle mae'r syniad cyfarwydd o linach a pharhad yn arf grymus i ddwysa/ u apêl emosiynol yr holl saga).

Yn yr un modd ag y bu ein hadran ddrama yn gosod sylfeini creadigol cryf ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi'n helaeth yn natblygiad dawn ysgrifennu, rydym hefyd wedi meithrin talent yn y byd adloniant, gan fuddsoddi'n helaeth mewn projectau comedi newydd ar gyfer radio a theledu ac, ar yr un pryd, yn denu cynulleidfaoedd anferth i berfformwyr cyfarwydd megis Max Boyce, Peter Karrie ac Owen Money.

Cynhyrchwyd hanes pwerus o gariad anghyfreithlon yn erbyn cefndir o gymuned glos, The Passion, ar ran BBC Cymru gan First Choice gyda Gina McKee (wyneb cyfarwydd o Our Friends in the North). Cafwyd edmygaeth gyffredinol i'r cynhyrchiad cymhellol hwn.

'Cer i mo'yn rhywun i edrych ar ôl hwn,' ebe llais cyfarwydd y tu ôl iddo, 'a dwed mai fel'na cest ti e, ar y llawr.'

Fe grynhoir goblygiadau'r syniadau hyn yn yr ymadrodd cyfarwydd, 'Y Fro Gymraeg'.

Mae'n wastad yn fy synnu sut mae plant yn hapus i ddarllen yr un hanesion cyfarwydd dro ar ôl tro mewn diwyg a geiriau gwahanol.

Y mae hyn i gyd yn ddigon cyfarwydd inni yng Nghymru.

Ers y dyddiau hynny hefyd mae arfer o weithio mewn mwy nac un iaith yn fwy cyfarwydd ac mae'r cyd-destun gwleidyddol Ewropeaidd a byd-eang yn caniatáu i ni elwa o brofiadau gwledydd eraill yn hwylus.

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

Roedd Jim yn wyneb cyfarwydd gyda'i bartner, Wil yn gwerthu glo oddiar lori o gwmpas yr ardal.

Fydd pawb yn nabod rhywun mewn swydd bwysig, fe fydd llawer yn perthyn iddyn nhw -- fe fydd yn rhaid bod yn barod i wynebu, nid y di-wyneb, ond y wynebau cyfarwydd sy'n anodd eu pechu.

Bydd nifer o wynebau cyfarwydd fel Cerys Matthews, Rhys Ifans a Ioan Gruffydd yn talu teyrnged iddo, nid yn unig fel cerddor, ond hefyd am ei waith arloesol fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu.

Esgorodd y polisi hwn ar ganlyniadau cymdeithasol, seicolegol a diwylliannol sy'n ddigon cyfarwydd mewn gwledydd sydd wedi eu concro gan wlad arall neu eu corffori mewn gwlad arall.

Maen nhw'n eiriau cyfarwydd iawn i'r rhai a welodd ddyddiau olaf y llywodraeth Geidwadol ddiwethaf.

Fe ŵyw y cyfarwydd am ymchwil Neil Wright a'i gyd-weithwyr i ddirgelion traddodiad testunol Sieffre, a blaenffrwyth y gwaith hwnnw yw'r argraffiad gofalus hwn.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.

Am she has a cold coming on y mae hel annwyd yn fwy cyfarwydd na magu annwyd i rai ohonom.

Gwêl y cyfarwydd ar un waith mai aeddfedrwydd benthyg neu etifeddol sydd iddynt, trefn gaboledig y Piwritaniaid o'r cyfnod cynt.

I'r mwyafrif o leygwyr, efallai mai catalogau sioeau yw'r mwyaf cyfarwydd o'r cyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid y fferm.

Rhybuddiwyd y Dirprwywyr i ddal sylw manwl ar yr ysgolion Sul yng Nghymru, ac roedd yr ymraniadau enwadol yn siwr o fod yn eithaf cyfarwydd i Ysgrifennydd Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar addysg ...

Ymhlith enwau cyfarwydd fel Jess, Geraint Lovgreen a Mojo ceir rhai mwy anghyfarwydd megis Wil a'i Wallgofion a'r Beganifs!

Daeth Roy Noble, llais cyfarwydd ar BBC Radio Wales, âi ddigrifwch unigryw i'w wrandawyr bob bore, gyda llu o gystadlaethau a straeon i ddiddanu pawb.

Mae'r nofelydd yn sicr yn fwy cyfarwydd â'i fyd wrth drin crefydd.

O'r rhain ffurfiwyd tîm yn cynnwys cymysgedd o wynebau newydd yn ogystal â rhai cyfarwydd.

Gair cyfarwydd y dyddiau hyn yw 'cwota'.

Cafodd Gustavo Kuerten o Brazil brofiad cyfarwydd yn Ffrainc.

Fe fydd y cyfarwydd wedi sylwi fod merched yn rhyfeddol o brin.

Os edrychir ar astudiaethau Idris Foster neu Proinsias Mac Cana ar y chwedl, neu ar lyfr Kenneth Jackson ar The International Popular Tale and Early Welsh Tradition, fe geir llawer o ddadansoddiadau motifaidd, yn olrhain y themâu ystoriol sydd yn y gwaith, ac yn gwerthfawrogi dawn dweud y cyfarwydd(iaid) a'i lluniodd a'i goethi.

Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.

Nid oes alegori vma na vision splendid, dim ond John lones yn dianc rhag e/ i fethiant i fyd ffansi%ol, ond byd wedi ei greu o bethau cyfarwydd iddo.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.

"Castell yw cartref y Sais", meddai'r dywediad cyfarwydd Saesneg.