Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfarwyddiadau

cyfarwyddiadau

Ond os cynhyrfwyd y protestwyr gan sylwadau'r offeiriaid lleol, gwelent hefyd fod y Dirprwywyr ar fai oherwydd cu dull o gasglu tystiolaeth a'r modd yr aethant ati i weithredu cyfarwyddiadau'r Llywodraeth.

Un duedd gyffredinol yw cyflwyno cyfarwyddiadau a chynnwys tudalennau o werslyfrau yn llafar i'r dosbarth gan fod hynny'n gyflymach ac yn sicrhau fod yr holl ddisgyblion wedi derbyn yr un wybodaeth.

Cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau, a'u dilyn yn ofalus.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

(b) Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol i ddefnyddio'i ddoethineb parthed cyfarwyddiadau ar arwyddion (ar wahân i enwau'r strydoedd).

Dadleuodd Frank Smith, a sgrifennodd gofiant i Kay-Shuttleworth, fod y gorchymyn i'r Dirprwywyr i ymchwilio i 'foesau'r' Cymry yn dod o ymyrraeth rhywun anhysbys â'r cyfarwyddiadau gwreiddiol yr oedd Kay-Shuttleworth wedi eu paratoi yn ei fraslun.

Bydd rhai cyfarwyddiadau ac esboniadau yn Saesneg yn y rhaglenni.

Fe'i penodwyd yn un o'r ymwelwyr brenhinol i fwrw golwg tros yr Eglwys a sicrhau fod yr esgobaethau a'r plwyfi'n dilyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth ac yn newid yr hen drefn babyddol.

Yn sydyn rhuthrais am un o'r giwed, ac wedi gafael ynddo a'i wasgu, yn ôl cyfarwyddiadau Capten, mi rois hergwd iddo â'm holl nerth, nes peri iddo syrthio ar ei hyd ar lawr.

cyfarwyddiadau mae'r cyfarwyddiadau i'r disgyblion at ei gilydd yn eglur ac yn ennyn hyder, gyda rhyw ychydig o amheuaeth ynghylch profion darllen haen a a b.

Yr elfen Loywi Iaith trwy gynhyrchu deunyddiau byrion ar gyfer dysgu, eu cywiro eu hunain a chynnig rhesymau dros eu cywiriadau; arddywediadau; profion byrion aml ar agweddau ar gywirdeb; llunio cyfarwyddiadau i ddisgyblion ar bwyntiau gramadegol a.y.y.b.

Os am wneud BBC CYMRU'R BYD y dudalen gyntaf a welwch wrth lansio eich porydd - browser - dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer eich porydd perthnasol chi.

b) Bydd staff yn derbyn cyfarwyddiadau o bryd i'w gilydd ynghylch sut i ddefnyddio'r offer diffodd tân.

Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.

Mae pob arbrawf yn beryglus os caiff ei wneud yn ddifeddwl neu heb ddarllen y cyfarwyddiadau, a'u dilyn un union.

I wneud yn siwr bod yr W^yl yn llwyddiant ymarferol mewn cyfeiriad arall y mae'r trefnwyr yn awyddus iawn i bawb sydd yn teithio i'r Eisteddfod ddilyn y cyfarwyddiadau traffig i Glynllifon yn ofalus iawn.