Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfeddyf

cyfeddyf

Cyfeddyf hi 'fod ynddi bethau sy'n dal yn dywyll i mi, er pob ymdrech i'w deall yn iawn' ac meddai Gwenallt gynt, 'mae symboliaeth ei soned 'Mabon' dipyn yn dywyll i mi'.

Hyn, wedyn, a'i harweiniodd yn ddiweddarach, fel y cyfeddyf, i ddileu'r llinell wreiddiol wan, 'Wyneb yn wyneb gyda'r graig' oherwydd, chwedl yntau, 'y mae i'r graig hithau ei dannedd'.

Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.

Poeni'r oedd hefyd, fel y cyfeddyf yn ei hunangofiant ac fel y tystia dyneiddiaeth amrwd y fersiwn cyntaf o 'Iesu Grist', am wirionedd y ffydd Gristnogol.

'...' , Cyfeddyf fod Hridesh ar dir i gael ei ordeinio.

Cyfeddyf, er hynny, fod athrawiaeth Maurice Barres nad yw llawn dwf yn bosibl i'r unigolyn heb ymgymysgu a chymdeithas, 'yn deilwng o astudiaeth fanwl yn enwedig i ni genedlaetholwyr.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.