Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfeirio

cyfeirio

Parhewch i gadw golwg ar eich cynnydd a pheidiwch ag anghofio cyfeirio at y manylion cynnar yn eich cofnodion.

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio yn egluro nad oedd yn hollol eglur o'r cwestiwn os 'roeddynt yn cyfeirio at geisiadau tu fewn y rhiniogau neu at geisiadau y tu allan i'r ffîn neu'r rhiniog neu'r ddau.

Digon fydd cyfeirio yma at y nodyn a geir ar ddiwedd copi o Dares Phrygius a Brut y Brenhinedd a ddarganfuwyd yn gymharol ddiweddar: 'Y llyuyr hwnn a yscriuennwys Howel Vychan uab Howel Goch o Uuellt...

Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.

Gwelwn ar unwaith hen frawd o'r enw Wil Owen Hen Dy yn dyfod ataf yn gweiddi a gweddio, ac fe ddywedodd wrthyf: 'Fachgen, yr oeddwn yn meddwl mai cyfeirio at dy dad yr oeddet,' (am fod ef wedi ei ladd mewn gwaith heb fod ymhell oddi yno).

Yn y pennill sy'n dilyn, mae'n cyfeirio at arwyddocâd yr hyn y maent wedi ei weld.

Nid yw'r un o'r papurau ymgynghori yn cyfeirio at ddyfodol hyfforddiant mewn swydd, nac yn enwedig sut y gellir darparu digon o athrawon (a darlithwyr mewn colegau addysg bellach ac uwch) a fydd yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn medru cyflwyno'r Gymraeg fel ail iaith i'r holl ddisgyblion a myfyrwyr eraill yng Nghymru.

Yma ceir cyfeirio penodol at anghenion addysgol arbennig yn hytrach na'r categoreiddio blaenorol yn ôl natur a symptomau'r angen.

Meysydd ysgolheictod oedd y rheini, pan fynnid cyfeirio'r gwaith yn bennaf at gynulleidfa ryngwladol.

Gallaf glywed ei llais yn awr, a'r chwithdod o glywed rhywun yn cyfeirio at Mam fel 'Mami'.

Mae Brinley Richards hefyd yn cyfeirio at y problemau a oedd yn wynebu Cymru wedi'r Rhyfel.

Y mae'n cyfeirio at Brif Weinidog a geisiodd ei ladd ei hun cyn mynd i'w swydd ac am un arall a oedd yn ddibynnol ar gyffuriau ac ar alcohol.

ch) Hysbysu'r Cyfarwyddwr neu'r uwch aelod nesaf o'r staff am y digwyddiad gan gadw cofnod o'r holl fanylion er mwyn cyfeirio atynt.

Credir bellach fod yr enw Gloddaith - enw plasty ger Llandudno - yn cyfeirio at fan lle yr arferid cynhyrchu golosg.

Byddai'r Dug hwnnw'n cyfeirio at ei filwyr fel 'scurn of the earth' ac mae'r darlun yn ei gyfrol yn ategu hynny i'r eithaf.

* Dydi papurau newydd, cylchgronau, cyfarwyddiaduron ffon a llyfrau cyfeirio ddim bob amser ar gael yn hwylus ar dap neu mewn braille neu brint mawr.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y chwyldro diwylliannol yr ydym yn arfer cyfeirio ato fel y "Dadeni Dysg" i'w anterth.

Gwêl ef ôl straen cynllunio gofalus ar rai ohonynt, ac mae'n cyfeirio'n benodol at y stori 'Dwy Gwningen Fechan' lle ceir toreth o gymariaethau'n dilyn ei gilydd.

Cyfeirio'r ydoedd at dydd Gwener y Nadolig, Sadwrn gwyl San Steffan, ac wedyn y Sul go-iawn oedd yn dilyn.

Yn ei sgwrs radio â Saunders Lewis, mae'n cyfeirio at adolygydd o Sais a ddywedodd amdani - 'Mae ei thristwch fel ochenaid hir ar draws y dyfroedd' - gan ychwanegu bod 'rhywbeth mwy tu ôl i ochenaid wedi'r cwbl.' Cawn T.

Cyn manylu ar natur y cwricwlwm hwnnw, dylid cyfeirio at ddogfen mwyaf diweddar o stabal Cyngor Cwricwlwm Cymru Agweddau ar Addysg Gynradd yng Nghymru.

Yn anffodus, er na fedrir gwadu na allai Dafydd ap Gwilym fod yn ddyledus i gorff o farddoniaeth werinaidd, nid yw'r fath gorff wedi ei gadw, tra cedwir corff o ganu cyfandirol yn ieithoedd Profens, Gogledd Ffrainc, yr Almaen, etc., sy'n cyfeirio at un ffynhonnell bosibl i'r dylanwadau a fu'n gweithio ar y bardd Cymraeg.

Gellid cyfeirio, fel y clywais fy nghydathro Trefor Evans yn gwneud, at yr enwau Macabeaidd ymhlith y Deuddeg Disgybl - y mae mwy nag un Simon a mwy nag un Jwdas - ac ychwanegu fod enwau Groeg hefyd yn eu plith (sef Andreas a Philip).

Mae'r cwricwlwm dan bump yn cyfeirio at yr holl brofiadau a ddarperir gan ysgol, yn ymwybodol ac yn anymwybodol, ac sy'n hybu datblygiad y plentyn cyfan.

roedden ni'n eu cyfeirio nhw at bobl amheus, ac roedden nhw'n dod â gwybodaeth yn ôl inni.

Ni chawn fawr o son amdano'n anwesu Sarah, dim ond cyfeirio'n ddidaro ati'n 'ymnythu yng nghorff ei phriod yn y gwely mawr'.

Gellir galw'r gwaith yn fath o nofel hanes, gan mai adeg y Rhyfel Byd Cyntaf yr ysgrifennwyd ef, a'i fod yn cyfeirio'n ol at ddiwedd wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.

Ond y mae'r nofelydd y mae Hywel Teifi yn cyfeirio ato fel un allai greu y nofel lofaol fawr Gymreig wedi dweud wrth Y Cymro nad oes ganddo ef gynlluniau i gyhoeddi dim byd yn y dyfodol agos.

Cyfeirio mae'r sengl at agwedd besimistaidd y wasg gerddorol tuag at grwpiau llwyddiannus fel Stereophonics.

Ond wrth ein cyfeirio at "Dan.

Mae'r Swyddfa Gymreig wedi cyfeirio'r penderfyniad hwn ymlaen at y Cynulliad Cenedlaethol.

Y mae'n bosib fod yr enw hwn yn cyfeirio at bwll golosog.

Cyfeirio'r wyf at awdl 'Pwll Morgan', a gyfrgollwyd ar sail ei gwallau ieithyddol a' diffyg chwaeth.

Mae rhai gwyddonwyr, er hynny, wedi cyfeirio at y posibilrwydd y gall rhyw elfen arall, megis silicon, gyflawni yr un swyddogaeth a charbon.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Wrth gwrs, ar yr aelwyd rhaid oedd cyfeirio at bob un yn barchus wrth ei gyfenw.

oedd y ffordd y disgrifiodd arolygwr ffatri y plant yng ngogledd Lloegr yn siarad, ac fe geir arolygwyr Pwyllgor y Cyngor byth a hefyd yn cyfeirio at yr hyn nad oedd yn ddim ond brygawthan parablus i'w clustiau, pan oedd y plant mewn gwirionedd, mae'n siwr, yn adrodd barddoniaeth neu ddarllen rhyddiaith yn weddol ddeallus.

Esboniodd aelodau o'r Gymdeithas eu bod eu bod yn gwrthod yn llwyr gyd-ddatganiad y mis diwethaf rhwng 'Orange' a'r quango, y Bwrdd Iaith, lle bu cyfeirio at 'ystyried' y 'posibiliadau o ddefnyddio'r Gymraeg'.

Am iddo gael ei fagu yn Llanbabo byddai'r Morrisiaid yn rhai o'u llythyrau yn cyfeirio at William Jones wrth yr enw Pabo.

Yn ei ewyllys y mae Rowland yn cyfeirio at "my dear brother and cousin Richard Vaughan".

'Neis iawn,' atebodd yntau'n hurt gan feddwl ei bod yn cyfeirio at y gusan.

Ond er fod teitlau amryw o'r rhain, fel y lluniau, yn cyfeirio at fannau penodol, cyfleu awyrgylch ac ymateb personol yw nod yr artist, yn hytrach na chofnodi'n union yr hyn a welodd.

Yn y gyfrol Atgofwn, mae Kate Roberts yn cyfeirio at y tŷ llaeth helaeth y tu ôl i'r gegin yng Nghae'r Gors, a'i resiad o botiau llaeth cadw gyda llechi crynion ar eu hwynebau.

Tynnai'r rhain oll nerth a swcwr at eu hamcanion o'r cynnydd mewn masnach, addysg, celfyddyd, diwylliant a balchter gwladol a lleol y buwyd yn cyfeirio atynt eisoes.

Yr unig un o'r rhain sy'n cyfeirio at stori'r Ddelw Fawr yw "Dan.

Gwelwn blismon yn cyfeirio trafnidiaeth ar stryd brysur, ac groesais ato rhwng y ceir.

Ac ni ellir osgoi cyfeirio at bolisi%au llywodraeth mewn gwahanol gyfnodau at iaith.

Y mae David Ellis ei hunan mewn dau englyn ac un llythyr yn cyfeirio at dri bachgen hoff o'r ardal a fu farw yn y Rhyfel - tair addewid a dorrwyd.

Y mae geiriau Iesu yn y Swper Olaf yn cyfeirio at gyfamod newydd ac at waed fel symbol o'r cyfamod newydd hwnnw.

yr oedd robert griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod david hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd cerdd dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peiriannegol yr oedd yn aelod ohoni yn llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni am ei allu fel cerddor.

Bu cryn bwyslais ar y ffaith nad yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cyfeirio athrawon at ddulliau dysgu ac addysgu.

Ym Mhatagonia y'i ganed a doedd dim yn well ganddo nag adrodd hanesion - gwir a dychmygol dybia i - am ei blentyndod a'i lencyndod yn y Wladfa, yn enwedig ar brynhawn Gwener pan fyddai ambell un mwy hirben na'i gilydd yn ein plith yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud sylw a fyddai'n cyfeirio meddwl 'Pat' i'r cyfeiriad iawn.

At Eseia y mae'n cyfeirio.

'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.

Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth".

Credai llawer yng nghyfnod fy machgendod i mai cyfeirio at y wyrth hon a wnâi'r rhigwm:

Cyfeirio y maen nhw at y bobl hynny syn ymddangos fel pe gallen nhw fod yn hoyw ond sydd yn strêt mewn gwirionedd.

Pan symudodd Ifan Parry o Eil o Man i Benrhos, ty bychan ar ben lon Cerrigcamog, dyma John Rowlans yn cyfeirio at Ifan Parry fel 'Arglwydd y Penrhos'.Dyna Catrin Owan, Lon Las gwraig John Owan a wisgai gap pig gloyw bob amser, er mwyn i bawb wybod mai enjiniar oedd o ar y mor, ac nid llongwr.

Bu cyfeirio'r holl sylw ac hyfforddiant at bawb ond y nhw.

Yn aml, mae Bob yn cyfeirio at Tasmania fel gwlad y chwys.

Cyfeirio y mae at yr Esgob William Morgan a'r Esgob Richard Parry.

Clywais leisio c^wyn nad yw'r hysbysebion, y pecynnau gwybodaeth, a'u llythyrau cysylltiol, yn cyfeirio at gymwysterau ieithyddol.

Cyfeirio'r wyf at bryddest T.

[Mae'r rhifau'n cyfeirio at y tudalennau a'r llinellau]

Ymddengys fod un enw arall yn Llechylched sy'n cyfeirio'n benodol at lwybr Afon Caradog.

Clywais i fy hun, fwy nag unwaith, bobl yn cyfeirio ato fel 'y dewin Sam Jones.' Ys gwn i a oes arnom ni'r Cymry ryw angen seicolegol dwfn am fod o'r fath yn ein plith.

Hyrwyddo: Yn gyffredinol, gellid cyfeirio gweithgareddau hyrwyddo'n fwy penodol at yr amgylchedd.

Ni ellir cyfeirio'n hawdd at eu nodweddion unigol heb esbonio eu dylanwad ar eu gilydd.

Yn yr ardal lle'r wyf yn byw yn awr clywaf y genhedlaeth hynaf yn cyfeirio yn aml at y dioddef a'r cyni a brofasant y dwthwn hwnnw.

Y tebyg yw felly mai "golosg", "charcoal" yw ystyr glo yn yr enw Cwm-y- glo a bod yr enw yn cyfeirio at grefft golosgi - crefft a oedd yn bwysig ac yn weddol gyffredin yng Nghymru gynt.

Ac mi roeddwn i wedi ypsetio cymaint, mi es at ryw blisman oedd yn cyfeirio traffig ar gongl Pendis yn y fan yna, a dyma fi'n deud wrtho fo: "Maddeuwch i mi," medda fi.

Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.

Nid oes angen ond cyfeirio at adroddiadau Arolygwyr i wrthbrofi hyn.

Mae'r ail ddeddf iaith yn cyfeirio at hawliau ieithyddol cwsmeriaid yn y farchnad, fel cydnabyddiaeth o realiti bywydau pobl Catalonia.

Yr ydym yn deall yn burion beth yn hollol a feddylir pan sonnir am fardd o'r radd flaenaf: cyfeirio yr ydym at unigolion cwbl unigryw megis Goethe neu Ddafydd ap Gwilym.

Yn rhifyn mis Ebrill o'r Seren Ogleddol cyhoeddwyd nodyn yn cyfeirio at anghydfod yn nhref Caernarfon a fyddai'n arwain at ymadawiad disymwth allanwr arall, Josiah Thomas Jones, o'r dref.

"Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith tra byddo ei gŵr yn fyw." Os yw "ded¶tai% yn cyfeirio at gwlwm priodas, byddem yn disgwyl i "ou ded¶tai% (nid yn rhwym) olygu'r gwrthwyneb, sef rhyddid o'r cwlwm priodas.