Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfer

cyfer

Mae gan Gristnogion eu gwahanol ffyrdd, ond mae gan,Dduw ei ffordd gywir ar ein cyfer hefyd.

(c) Ceisiadau a gweithrediadau amrywiol a ddirprwywyd i'r Prif Swyddog Cynllunio CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio iddo:- (i) Ganiatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- (iii)Anfon y sylwadau canlynol at Awdurdod y Parc ar ôl ymgynghori â'r aelod lleol:-

(c) Ceisiadau a gweithrediadau amrywiol a ddirprwywyd i'r Prif Swyddog Cynllunio CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio iddo:- (i) Ganiatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais llawn - adeiladu modurdy/ gweithdy preifat Cais llawn - estyniad ochr unllawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad cefn deulawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad unllawr i fwthyn a lleoli tanc nwy Cais llawn (diwygiedig) - estyniad unllawr i dŷ yn cynnwys modurdy Cais llawn - estyniad cefn unllawr i ffermdy Cais llawn - estyniad llawr cyntaf i dŷ i greu darpariaeth ar gyfer person anabl a modurdy newydd.

Petai gyda ni fodd i edrych i lawr ar Gymru i dynnu "llun pum-munud" o blant dan bump yn yr ysgol dros y wlad o Gaergybi i Gasgwent, fe welem mai amrywiaeth sy'n nodweddu'r ddarpariaeth ar eu cyfer.

Dyma'r cyfnod pan gollodd Cymru gannoedd o'i phobl ieuainc ddisgleiriaf, y bechgyn a'r genethod a ddaeth allan o'n colegau a'n prifysgolion, ac a orfodwyd i fynd dros y ffin i Loegr i chwilio am swyddi am nad oedd gwaith ar eu cyfer yng Nghymru.

Yn gyffredinol, gellir dweud yn null y Rhodd Mam mai dau fath o newyddion sydd: digwyddiadau a ddisgwylir, a stori%au annisgwyl na ellir darparu ar eu cyfer ymlaen llaw.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Mae rhaglen amrywiol wedi ei thynnu allan ar ein cyfer gan y pwyllgor.

Bellach, mae arna i ofn, mae toreth o reolau newydd eto ar ein cyfer ni sy'n defnyddio'r ffordd fawr, a alwaf, os caf fathu ymadrodd Cymraeg, y gyfundrefn 'dirwy ar y pryd'.

Gwyddai'r bugail yn dda am y boen o weld praidd newynog yn chwilio am borthiant a heb ei gael; gwyddai hefyd na chaent eu porthi oni ellid darparu ar eu cyfer yr Ysgrythur yn eu hiaith eu hun.

Amlwg felly ei fod yn un o'r boneddigion hynny yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a dalai gopiwyr am lunio casgliadau o farddoniaeth a rhyddiaith ar eu cyfer.

ar eu taith yno bu'n rhaid i henry richard ac elihu burritt alw ym mharis gan fod cyfarfod croeso wedi cael ei drefnu ar eu cyfer ac yno i'w derbyn roedd m.

Bydd rhaid iddyn nhw ddal i sefyllian yn y glaw oer hyd nes y daw rhywun o hyd i ryw fath o gysgod ar eu cyfer.

Ofer yw i ni yn awr ddannod i Iraq eu bod yn defnyddio yr arfau a ddarparwyd ar eu cyfer gan wledydd y gynghrair!

Gallai'r person a apwyntir roi ei holl egni i ddiwallu anghenion cymdeithasol ieuenctid a chydlynu rhwng y gwahanol fudiadau a chymdeithasau sydd eisoes yn darparu ar eu cyfer.

Ar hyn o bryd y mae PDAG yn cynghori'r system gyfan ar sail ymchwil ac adnabyddiaeth o bob agwedd ar addysg ym mhob sector, trwy ei gysylltiadau â'r gweithwyr yn y sefydliadau addysgol a'r asiantau cenedlaethol sy'n darparu ar eu cyfer, a thrwy gysylltiadau beunyddiol ag adrannau'r Swyddfa Gymreig.

Y mae'r Papur Gwyn yn cynnig tameidio'r cyfrifoldebau dros y system addysg yng Nghymru, felly, gan wneud yn anos sefydlu darpariaeth gyd-lynus o'r bôn i'r brig a fyddai'n rhoi hyder i'r disgyblion a'u rhieni fod y ddarpariaeth briodol wedi'u sicrhau ar eu cyfer.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Siarad ar eu Cyfer (Theatr Bara Caws) Sgript: Twm Miall; Cyfarwyddwr: John Glyn

Mae pryder cynyddol ynghylch y nifer cynyddol o blant sydd yn cael eu gwahardd o'r ysgolion ac na fydd darpariaeth ar eu cyfer nhw.

(iii)Caniatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais amlinellol - newid defnydd tir gwag ar gyfer diwydiant Cais llawn - arwydd wedi ei oleuo'n allanol Cais llawn - estyniad i falcon Cais amlinellol - tŷ annedd Cais llawn - manylion mynedfa a ffyrdd ystad, ac ail-leoli cyffordd ffordd gyhoeddus ar gyfer parc bwyd/amaeth gyda lladd-dŷ (Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd JR Jones ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Mae eraill yn crwydro'r haf ond yn bwrw'r gaeaf mewn halting sites, sef safleoedd arbennig y mae'r awdurdodau lleol yn eu darparu ar eu cyfer.

A, haleliwia, dyna'n union a gafwyd yn Siarad ar eu Cyfer, drama gyda nifer o negeseuon, ond nid pregeth.

Darparwyd disgos gwyllt ar eu cyfer gan aden ieuenctid y blaid gomiwnyddol.

Oni ddarpara ar ein cyfer ni 'yn hytrach o lawer'?

Gallwn yn awr edrych yn frysiog ar y prif weithgareddau y paratoir cyllidebau ar eu cyfer.

Yn ystod misoedd y gaeaf byddai Cyfarfod y Plant ar ein cyfer a chofiaf sôn am flaengarwch J.

Erbyn inni gyrraedd Llanilar yr oedd swper sylweddol wedi ei goginio ar ein cyfer.

Yr oedd angen mawr paratoi defnyddiau ar eu cyfer.

Felly, er mwyn ceisio'u paratoi hwythau i allu hyfforddi eu praidd bu raid cyfieithu i'w mamiaith ar eu cyfer lawer o lenyddiaeth grefyddol yr oes a ysgrifenasid yn Lladin yn wreiddiol.

Eglurodd mai dyma a fu'n gymorth iddo ddeall plant ac ysgrifennu mor llwyddiannus ar eu cyfer.

Gellid wedyn sicrhau bod cyrsiau addysg Gymraeg yn darparu'n briodol ar eu cyfer.

Er bod dadleuon o'r fath yn ymddangos, ar brydiau, yn ffuantus, mae'r broses dadansoddi ieithyddol hwn wedi bod yn llesol i'r maes, trwy ein gorfodi i edrych yn fwy manwl ar beth yw hanfod y maes, pwy yn union yw'r plant a sut yn union mae darparu'n effeithiol ac yn deg ar eu cyfer.

Wedi'r cyfan, roedd yn rhaid i'r dawnswyr sicrhau fod ganddynt ddau o bob un o'r nwyddau gwerthfawr a brynent - un ar eu cyfer hwy'u hunain ac un arall i'w estyn yn llechwraidd i swyddogion y tollau ym Moscow.

Lle cred yr AALl bod yr anghenion cymaint fel bod rhaid iddynt hwy, yn hytrach na'r ysgol, benderfynu ar y ddarpariaeth addysgol arbennig, yna mae'n ddyletswydd arnynt i wneud datganiad ffurfiol o AAA sy'n arenwi anghenion y disgybl ac yn gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer.

Roedd miliwn o Kurdiaid eisoes wedi cael mynediad i'r wlad ac yn derbyn gofal mewn gwersylloedd a godwyd yn arbennig ar eu cyfer.

I'r sawl sy'n gaeth i'w tai, darperir gwasanaeth pwrpasol ar eu cyfer hwythau hefyd, gydag ymweliad misol i'w cartref gan staff arbenigol.

Hen westy oedd wedi'i baratoi ar ein cyfer ni, a doedd dim system oeri yn agos i'r lle.

Mae'r delwedd ar eich retina hefyd ar ei phen i lawr, ond mae'r ymennydd yn dehongli hyn a gwybodaeth arall ar ein cyfer, ac yn dweud wrthym pa mor fawr yw pethau a pha mor bell i ffwrdd y maent.

Maddau inni'r camweddau hyn ac arwain ni i weld fod plant Cymru yn rhan o'n cyfrifoldeb am dy fod Ti wedi eu caru a bod bendithion yr iachawdwriaeth wedi eu harlwyo ar eu cyfer hwy fel ninnau, ond iddynt gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Wrth reswm, roedd y rhain wedi gweld dyddiau gwell, ac roedd hi'n anodd dod o hyd i ddarnau sbâr ar eu cyfer.

Yr oeddem ni awr a hanner yn hwyr yn cychwyn oherwydd bod pedwar blwch o offer allweddol yn rhy fawr i fynd ar y bws a threfniant arall yn gorfod cael ein wneud ar eu cyfer.