Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyffroi

cyffroi

'Wales' oedd popeth ac aeth ymlaen i'n cyffroi ni drwy wawdio pob un o chwaraewyr Lloegr yn eu tro gyda sylwade fel, "Larry Lloyd!

Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.

"Dyna ryfedd," meddai Orig, "ond mae'r ddau beth sydd wedi'n cyffroi ni yr wythnos yma yn digwydd yng nghanol nos.

Cyhoeddai Cradoc fod gorthrymu'r tlodion yn un o'r pethau oedd yn cyffroi llid Duw yn union fel yr oedd Morgan Llwyd yn cyhoeddi barn ar eu gorthrymwyr, "Gwae chwi yr vchelwyr drwg ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ôl i ddestryw.

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Ac yr oedd hynny'n cyffroi amheuon yr awdurdodau.

Mae'r hinsawdd o newid o fewn llywodraeth yng Nghymru a'r DG, ac yn y farchnad ddarlledu, yn cynnig sialensau mawr i ni a ddylai ein cyffroi yn hytrach na'n brawychu.

Ar ben hynny yr oeddent yn cyffroi diddordeb yn nodweddion yr iaith, ei gramadeg, ei horgraff a'i chystrawen.

"Rhyw ddwy filltir," oedd yr ateb a'r plant yn dechrau cyffroi o feddwl eu bod ar gyrraedd.

Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o'u gwahanrwydd, a defnyddio gair J R Jones, fel Cymry.