Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyffuriau

cyffuriau

Ef oedd awdur rhaglen ymarfer, Building the Classic Physique the Natural Way a bun hyfforddi llanciau ifanc yn y grefft gan gredu y byddain fodd i'w helpu wrthsefyll temtasiwn cyffuriau.

Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.

Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y pentref ar y dechrau oherwydd ei natur di-flewyn-ar-dafod ond cafodd ei derbyn yn well ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu fod Mark yn gwerthu cyffuriau i blant ysgol.

Yn ôl adroddiadau o'r Eidal mae chwaraewr canol-cae Juventus a'r Iseldiroedd, Edgar Davids, wedi methu prawf cyffuriau.

Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.

Bu Mark yn y carchar am werthu cyffuriau.

'Mae rhywun yn defnyddio Afon Ddu i guddio cyffuriau.

Ychydig iawn o amynedd oedd gan awdurdodau'r ysbyty â'r math hwn o ynfydrwydd, ac yn hytrach nag ymddiried ynddynt hwy penderfynodd ef geisio cael y cyffuriau angenrheidiol yn ddirgel, a thrin yr aflwydd ei hun.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

Cyhoeddwyd fod John de Lorean, perchennog y cwmni ceir a fu'n hapfasnachu swyddi yng Ngogledd Iwerddon gydag arian y Llywodraeth, wedi'i brofi'n ddieuog o drafnidio cyffuriau yn yr Unol Daleithiau.

Yn y cyfamser mae Mr Hughes yn galw cyfarfod brys i drafod problem cyffuriau'r ysgol.

Mae helynt cyffuriau eisoes wedi codi ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd.

Cymeriad digon amheus oedd Derek ar y cychwyn - bun gwerthu cyffuriau a chafodd ei ddal yn dwyn.

Y mae'r anobaith a'r dicter a ddaw yn sgil y dirywiad cymdeithasol hwn yn mynegi ei hun yn aml trwy gyfrwng fandaliaeth, alcoholiaeth, cyffuriau a thrais etc.

Yna roedd hi i fod i fynd draw i'r fferyllfa i nôl cyffuriau arbennig roedd ar Jonathan Burfoot eu hangen, gan ei fod yn gwaethygu'n gyflym, druan.

Yn dilyn cyfaddefiad Frank de Boer ei fod wedi prawf cyffuriau, mae prif swyddog Cymdeithas Pêl-droed Yr Iseldiroedd wedi dweud y dylid rhoi prawf cyffuriau i bob aelod o'r garfan ryngwladol.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae cyffuriau gweddol effeithiol tuag at hwnnw wedi eu darganfod ond, serch hynny, mae'n hanfodol fod y frech hefyd yn cael sylw addas.

Cyffuriau oedd wrth wraidd hyn unwaith eto.

Wedi i Emma ddechrau cael gafael ar y gwir, cyfaddefodd Madog ei fod wedi bod yn gwerthu cyffuriau a'i fod yn diodde o effaith hir-dymor cymryd gormod o gyffuriau.

Nid ydynt bellach yn gwneud llawer o'r moddion eu hunain, gan fod y rhain yn cael eu paratoi ar raddfa fawr gan gwmniau cyffuriau mawrion.

Mae Mark, fel ei dad, wedi treulio cyfnod yn y carchar a hynny am werthu cyffuriau i blant ysgol - defnyddiodd fan hufen iâ i guddio ei fusnes twyllodrus.

Dynion drwg sy'n delio mewn cyffuriau ...

'Cyffuriau!' meddai'r ddau ar yr un gwynt.

Yna daeth gwyrth drwy ddefnydd cyffredin o benisilin, cyffuriau antibiotig eraill a'r brechiadau proffylactig.

Fe wnaethom ni'r meddygon ein gorau iddo, a defnyddio'r cyffuriau diweddaraf i gyd, ond i ddim pwrpas.

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cyffuriau ym mis Tachwedd, creodd yr adran Addysg y gyfres Know Your Poison, sydd wedi derbyn canmoliaeth o sawl ffynhonnell ers hynny am ei thriniaeth realistig o gyffuriau, cyfreithlon ac anghyfreithlon.

Cofiai amdani'n dwyn cyffuriau cysgu i Stuart pan oeddan nhw'n dechrau canlyn.