Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyffwrdd

cyffwrdd

Yn y saithdegau, roedd merched yn Lloegr yn arfer cyffwrdd y ddaear ar ôl gweld fan bost ac yn dweud, 'Cyntaf welwn, hwnnw garwn'.

Y mae ei genadwri, ei weinidogaeth, ei aberth a'i atgyfodiad yn cyffwrdd â holl drigolion y blaned.

Ymysg y coedydd cochion a melyn yma, ar ymylon y goedwig ac yng nghysgod y coed mae yna ddwy goeden fach, na feiddiwch eu cyffwrdd.

Roedd Tom yn osgoi cyffwrdd â hi.

Ond prin y gellir dweud eu bod wedi cyffwrdd â llywodraethwyr Cymru.

Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.

Yn aml, bydd y canolwr yn taro'r smotyn ar ganol y cae dair gwaith cyn i'r gêm ddechrau a bydd gôl-geidwad yn cyffwrdd neu gicio pyst y gôl yr un adeg.

Honnai hwnnw, meddai, fod y fwyell yr oedd y mab yn ei thrwsio ar y pryd wedi cyffwrdd rywsut â'r gwn a pheri i hwnnw danio.

Taenodd ei fysedd dros ei grudd ac yna teimlodd ei gwefusau yn cyffwrdd ei ên ac yna'n dod o hyd i'w wefusau ef.

Y mathemateg cymharol syml i Gaerdydd yw os enillan nhw eu dwy gêm gartre bydd neb arall yn y grwp yn gallu eu cyffwrdd nhw.

Gŵr Mrs Dixon yn ein cludo'n ôl, dyn clên ond mae wedi twchu gormod - ei fol bron yn cyffwrdd â'r olwyn ddreifio.

O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.

Yn amadawiad Mr HS Roberts collodd Llanfairfechan un o'i chymeriadau mwyaf lliwgar a diddorol, gwr ag yr oedd ei ddiddordebau yn cyffwrdd y rhan fwyaf o weithgareddau y cylch.

Mentrais osod un troed ar y drws, ac yna eisteddais arno a'm pennau-gliniau yn cyffwrdd fy ngên gan ddal fy anadl ac yn disgwyl suddo.

Gwyddoch beth rwy'n feddwl, mae'n siŵr, pan fo'r lloer a'r sêr yn ymddangos mor agos atom nes y gallwn eu cyffwrdd, bron.

Mae'n angenrheidiol i chwaraewr sicrhau bod blaen bysedd ei fenygyn cyffwrdd â'r ddaear ac yn pwyntio at y lle mae ei dîm yn eistedd pan fydd yn cychwyn allan i fatio.

Wnaiff cyffwrdd â phren marw, fel bwrdd neu ddrws mo'r tro gan fod hynny yn anlwcus iawn - y marw at y marw megis, a'r byw er mwyn byw.

Ac yr oedd yn addysg arbenigol mewn pynciau a oedd o ddiddordeb ysol i ddegau o filoedd o bobl, a phynciau o ran hynny a oedd yn cyffwrdd ag ansawdd bywyd a thynged pawb.

Medrwn flasu a chlywed arogl, clywed swn, cyffwrdd a gweld pethau o'n cwmpas.Gweld yw'r synnwyr pwysicaf.

Clywais sŵn adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr.

Ni welaf fod rhestr gweithgareddau'r Uned Rhaglenni Cyffredinol heddiw yn cyffwrdd ag unrhyw faes nad oedd yn cael sylw llawn chwarter canrif yn ôl Y mae yna un neu ddau o ddatblygiadau sy'n gwneud bywyd yn haws i'r cynhyrchydd efallai.

Synnai Glyn nad oedd yn cyffwrdd y llyw nac yn rhoi ei law ar y pilar a reolai'r awyren.

Dychrynais gymaint fel y neidiais o'm gwely heb feiddio cyffwrdd ychwaneg ynddi, i lawr y grisiau â mi fel corwynt ac ofn yn fy mharlysu.

Anodd meddwl am unrhyw agwedd o briodi nad yw Bethan Mair a Meleri Wyn James yn cyffwrdd a hwy ac er bod digonedd o'r math yma o gyhoeddiadau ar gael yn y Saesneg bydd o fendith i sawl pâr cael cyfrol fach fel hon wedi ei hanelu'n benodol at gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.

Penderfynais osod y tatws hadyd bron cyffwrdd ei gilydd ar wely o bridd cyffredin mewn bocsus.

Rhaid cyffwrdd mewn coeden fyw cyn mynd ar daith.

Ond yr oedd y cynyrfiadau hyn ar fin cyffwrdd Llyn hefyd.

Pedair awr yn ddiweddarach mae'r ysbryd yn well gyda brwdfrydedd anhygoel Cura wedi cyffwrdd pawb.

Y maent yn cyffwrdd â phob gwedd ar yr athrawiaethau Beiblaidd ond y maent yn nodedig oherwydd y canolbwyntio diflino ar Iesu Grist.

Roedd e'n disgwyl clywed clec bwledi unrhyw funud - yna'n sydyn teimlodd ei draed yn cyffwrdd â'r llawr yn rhyddid Gorllewin Berlin.

Pe byddai wedi cyffwrdd ƒ'r bechgyn byddai'n barod i neidio arno a'i daro i'r llawr, ac roedd Williams yn gwybod digon am anifeiliaid i sylweddoli hynny.

Un o'r elfennau hyn yn sicr iawn yw dawn bardd i sylwi â'r pum synnwyr - gweld, clywed, blasu, cyffwrdd, arogli: gweld a chlywed yn arbennig.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.

Mae'r hen ddeddf iaith yn gyfyngedig i'r sector cyhoeddus, ac nid yw'n cyffwrdd â darparwyr yn y sector preifat, fel y banciau, cwmniau ffôn, nwy, trydan, dãr.

Mae asid sylffwrig, asid hydroclorig ac asid nitrig oll yn niweidiol iawn, a phetaent yn cyffwrdd a'r croen, byddent yn ei ddinistrio.

Yr ateb yw, ar ôl profi hynny, y buasent yn tyfu nes cyffwrdd y gwydr a'r plastig yn rhy gynnar, rheini yn mynd mor oer ar noson rewllyd neu farugog nes difetha'r gwlydd (gwrysg) gyffyrddid.