Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyffyrddiad

cyffyrddiad

Trwy ysbryd glân ei Feistr Mawr yr oedd cyffyrddiad y meddyg enaid yn perthyn iddo!

Mae llawer rheswm rhag i dwll 'fynd allan'; o bosib fod y fuse wedi torri, neu ei fod yn wlyb ac felly yn araf iawn yn llosgi, neu efallai nad yw'r ddau ddyn wedi ei osod mewn cyffyrddiad â'r powdr.

Mae ei ffrog gotwm ysgafn yn esmwyth i'r cyffyrddiad, ac mae 'na gymaint o hapusrwydd ynof.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

'Moire' roedd dyn yr Emporiwm wedi galw'r peth, ac roedd hi wedi credu y byddai Niclas yn hoffi'r cyffyrddiad bach Ffrengig yn yr enw.

Ni soniais wrth neb fy mod wedi derbyn cyffyrddiad y Crist byw drosti.