Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfieithiad

cyfieithiad

Hefyd fe fyddai hyn yn ffordd o sicrhau mai un fersiwn Cymraeg fyddai, ac nid cyfieithiad gan aelod o un tueddiad gwleidyddol a chyfieithiad arall gan aelod o dueddiad gwleidyddol arall.

Cyfieithiad Saesneg o holl gerddi Dafydd ap Gwilym, gyda nodiadau.

Ef a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiwygio iaith y Beibl Cymraeg cyn cyhoeddi argraffiad 1620 ohono yn dilyn cyfieithiad cyntaf Morgan.

Gwelai'r gwladweinydd pa beth a ddylid ei wneuthur er mwyn argyhoeddi llywodraeth y Frenhines Elisabeth fod rhaid cael caniatâd a chefnogaeth swyddogol er mwyn llunio'r cyfieithiad.

Yr oedd y gwaith yn gofyn teimladrwydd bardd, a gwybodaeth gŵr a fedrai fanteisio ar holl adnoddau'r Gymraeg ac am fod y ddeupeth hyn mor gytu+n yn natur Morris-Jones y gwnaeth ef y fath wrhydri o'r cyfieithiad hwn.

'Roedd y gŵyn yn ymwneud â methiant y Cyngor i baratoi cyfieithiad o rai o'r dogfennau perthnasol y gofynnodd yr achwynydd amdanynt yn ogystal â honiad bod aelod o'r Cyngor wedi torri'r côd ymddygiad wrth ymdrin â'r cais cynllunio.

Cyfieithiad i'r Saesneg o stori hwyliog i blant am daith gwrach drwy Gymru gyda'i pheiriant tywydd anhygoel.

Fyddai cynnig cyfieithiad o'r alanas yr oeddwn i ar fin ei weld ddim yn hoelio sylw'r gwylwyr, nac yn gwneud stori dda.

Rhydd Tegla gopi o'r gwreiddiol a'r cyfieithiad ochr yn ochr yn Y Llenor (gweler ~r Atodiad).

Yn olaf, dyma gyfnod o waith prysur ymhlith yr alltudion yn paratoi trosiad Saesneg newydd o'r Beibl; cyfieithiad a ddaeth yn enwog iawn fel 'Beibl Genefa% ac a fu'n fawr ei ddylanwad yn Lloegr.

Mae cael y cyfieithiad yn agoriad llygad - nid i ddeall y cerddi, ond i weld cerdd o safbwynt rhywun arall.

Mae hi'n werth dyfynnu enghraifft o'i waith cyfieithu, o'r Saesneg i'r Gymraeg y tro hwn, er mwyn cael cymharu'r fersiwn gwreiddiol a'r cyfieithiad ochr-yn-ochr.

Cyfieithiad talfyredig yw'r canlynol o araith o roddodd MARIAN

Cyfieithiad o'r Mabinogion a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1948.

Cyfieithiad i'r Saesneg o hunangofiant Gwynfor Evans.

Mae'n bleser cynnwys cyfieithiad o'r hanes am Mrs Morgan yn y Llais.

Un o ganolbwyntiau'r marina yw gwesty o'r enw El Viejo y el Mar, sef cyfieithiad o deitl clasur Hemingway.

O baratoi'r 'Hansard', gyda'r cyfraniad yn yr iaith wreiddiol ar chwith y dudalen, a'r cyfieithiad i'r iaith arall ar y dde, fe fydd yr Hansard ei hun yn ddwyieithog ac fe fydd modd gweld pa iaith a ddefnyddiwyd gan y siaradwr.

Dilynwyd y cyfieithiad hwn gan lawer o rai eraill yn yr un cylchgrawn.

Cyfieithiad o gyfrol Kate Roberts, Haul a Drycin.

Y mae'n ddi-os i Morgan weld yn y cyfieithiad hwn gychwyn rhagorol i'r dasg o gael fersiwn Cymraeg o'r Ysgrythurau seiliedig ar yr ieithoedd gwreiddiol.

Fodd bynnag, yn anffodus, yn y cyfarfod hwnnw yng Nghaerfyrddin, doedd y gwasanaeth cyfieithu ddim yn gweithio am gyfnod oherwydd nam technegol yng nghyflenwad y trydan, ac mae'r Hansard sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn rhoi'r cyfieithiad Saesneg yn unig, nid y gwreiddiol Cymraeg.