Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfieithydd

cyfieithydd

Pan ailgyhoeddwyd The Penguin Book of Welsh Verse, dewisodd y cyfieithydd, Tony Conran, ddarlun gan Paul, Heraldic Wales, i'w roi ar y clawr.

Benthyciwyd offer cyfieithu Coleg Aberystwyth a daeth Mr Hywel Jones oddi yno i weithredu fel cyfieithydd.

Efallai mai ym mhenillion Omar Khayyâm y gwelir egluraf ei ddawn ddihafal fel cyfieithydd barddoniaeth.

Yn ôl ein cyfieithydd, mae e'n ychwanegu y bydd yna filwyr a phlismyn o hyd, ond y bobl fydd yn eu rheoli.

Roedd ei Saesneg hi'n weddol ond drwy'r cyfieithydd y daethon ni i wybod ei hanes trist.

Efallai nad ydym bob amser yn sylweddoli lawn cymaint ag y dylem y fath gyfuniad prin o gynwysterau y mae'n rhaid wrthynt mewn cyfieithydd ysgrythurol.

Yn y Gymraeg y siaradai, gallasai fod yn ben tost i'r cyfieithydd ar y pryd ond mae'n siwr iddo gael y cwbl ymlaen llaw a throsi'r wybodaeth i'r iaith fain yn rhugl a rhwydd.

A thebyg bod y cyfieithydd ar y pryd wedi deall hynny.

Mae llawer o fudiadau ac asiantaethau eto i ddarparu gwybodaeth ar dap, cyfieithydd neu systemau dolen.

Ac eithrio I Timotheus, Hebreaid, Iago a I ac II Pedr, a gyfieithwyd gan yr Esgob Richard Davies, a'r Datguddiad, a gyfieithwyd gan Thomas Huet, William Salesbury oedd cyfieithydd cynnwys y ddwy gyfrol, ac ef a olygodd y cyfan hefyd.

Dim ond dechrau Tachwedd, ar ôl derbyn llythyr gan y cyfieithydd, y cafodd wybod pam - roedd yr awdurdodau yn ei amau o fod yn ysbi%wr Prydeinig, ac am gyhuddo'r cyfieithydd o crimes against the state.

Gwerthfawrogiad o un o ysgolheigion mwyaf y Gymraeg a fu'n cynorthwyo William Morgan, cyfieithydd y Beibl.

Cofiaf un bore, a ninnau ar barêd yn cael ein harolygu gan ddau swyddog Siapaneaidd, i un ohonynt sefyll o fy mlaen i a gofyn, gyda help y cyfieithydd, "Beth dybiwch chi fydd eich tynged yn y diwedd?

Wedi ei eni yn 1567 yr oedd John Davies mewn cysylltiad agos â William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac yn un o'i gynorthwywyr.

Mae'r llyfr bach hwn yn cynnwys nifer o enghreifftiau o'i waith fel cyfieithydd emynau, yn eu plith gyfieithiad nodedig o dda o 'Dyfroedd Bethesda' Thomas William.

Roedd y cyfieithydd yn gwybod, ond roedd e'n gwrthod dweud wrtha'i!' Yn y diwedd, daeth cynrychiolwyr o lywodraeth Iran ac o fudiad y Red Crescent.

Rhoddir i William Morgan le amlwg yn hanes Cymru fel cyfieithydd yr Ysgrythurau, ac oblegid i hynny'n bennaf y cyfrifir bod ei yrfa'n bwysig yn hanes y genedl.