Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyflenwad

cyflenwad

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Technegol y derbyniwyd cwynion parhaol am y cyflenwad dŵr ar yr ystad uchod.

Yn ei ffordd ddiymhongar ond di-flewyn-ar- dafod, fe siaradodd am ei gwaith yn yr ardal lle nad oedd dim cyflenwad o ddŵr glân na charthffosiaeth.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

Ond rydyn ni'n cael ein siomi gyda'r bwyd; does yna ddim cyflenwad trydan yn Jijiga heno.

Agorodd y bag i ddatgelu cyflenwad llawn o fatris!

Fydd dim rhaid i ni esgyn i wynab y dþr o hyd i nôl cyflenwad arall o aer.

Dadleuir felly i esblygiad y ffurfiau uwchradd gael ei ohirio am oesoedd maith hyd nes bod cyflenwad digonol o ocsigen wedi ymgasglu yn yr amgylchedd a phrosesau metabolig wedi datblygu digon i fanteisio ar hyn.

Bydd hyn o fudd nid yn unig i wylwyr a gwrandawyr gwasanaethau BBC Cymru ond hefyd i S4C, gan y byddwn yn ychwanegu at ein cyflenwad presennol o raglenni newyddion a materion cyfoes.

Gyda thrydan, bydd y cyflenwad yn gyrru gwefr cyson i'r batri i'w gadw'n iachus.Dylid prynu batri defnydd trwm ar gyfer cwch neu garafan, a gofalu cael clampiau modern i'w gysylltu yn hytrach na'r hen glipiau crocodil, sy'n gallu sbar- cio.

ù Cyflenwad annigonol o dai yn lleol.

Y mae lefel incwm cyflogaeth lawn yn newid o flwyddyn i flwyddyn fel canlyniad i newidiadau yn y cyflenwad llafur, ac i'r cynnydd mewn cynhyrchaeth llafur.

Drwy gymorth Grant yr Iaith Gymraeg, dan nawdd y Swyddfa Gymreig, sicrhawyd cyflenwad cynyddol o werslyfrau mewn amrywiaeth o feysydd i leddfu rhywfaint ar anghenion addysg Gymraeg.

Y mae ambell gwmni'n edrych am gyfieithiadau o ddramâu o safon cydnabyddedig, sydd o leiaf yn cyfoethogi'r cyflenwad pitw o ddramâu sydd ar gael yn y Gymraeg.

O'r diwedd daeth yn bosibl cael cyflenwad digonol o'r Beibl Cymraeg.

'Doedd y cyflenwad hwnnw ddim yn ddigon bellach ar gyfer holl ofynion y ddinas a mannau cyfagos.

Ond nid gwaith hawdd oedd gwneud hynny gan fod y cyflenwad o bregethwyr yn llawer iawn mwy na'r galw yr amser hwnnw.

Oddi mewn i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru mae Uned Iaith Genedlaethol Cymru CBAC yn cynhyrchu a chyhoeddi cyflenwad helaeth o adnoddau dysgu ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau ac ar gyfer pob Cyfnod Allweddol.

B CYHOEDDI - sef atgynhyrchu neu ddyblygu nifer o gopi%au o'r adnawdd, marchnata, gwerthu, dosbarthu, storio, a sicrhau cyflenwad i'r dyfodol.

(vi) dim newid ychwaith yn y cyflenwad llafur, y stoc cyfalaf, na chyflwr technoleg, ac, fel canlyniad, gallu cynhyrchu'r economi (neu lefel cynnyrch cyflogaeth lawn) hefyd yn aros yn ddigyfnewid;

Sefyllfa Argyfyngus Cyflenwad Mawn?

Ond gan fod y gwesty hefyd yn fan cynhadledd Foslemaidd bwysig am gyfran o'r wythnos, trefnwyd i'r cyflenwad gael ei droi 'mlaen er cysur y mullahs a'u gwragedd a'u cynrychiolwyr.

Yn y gweithdy y llunnid yr olwynion; 'roedd yn rhaid cael cyflenwad da o olau, ac os byddai'r diwrnod yn dywyll, 'roedd y rhwystrau'n fwy.

Mae hyd y tymor tyfu hefyd yn amrywio'n flynyddol gan ddylanwadu ar y tymor pori, cyflenwad ac ansawdd porthiant gaeaf a'r angen i ddod ag anifeiliaid o dan do.

Nodwyd bod angen creu cyflenwad digonol o athrawon bro i ymweld ag ysgolion yn yr ardaloedd Seisnig.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.