Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfleus

cyfleus

Yma, doedd labeli cyfleus fel chwith a de ddim yn gwneud llawer o synnwyr; un o'r meini prawf oedd eich agwedd at y farchnad rydd - pa mor bell fyddech chi'n fodlon mynd.

Yno, roedd y plant â chwant bwyd a'r rhieni yn sychedig ac fe arhoswyd i brynu pryd o fwyd a pharciwyd y car, gyda'i lwyth ar do'r car, mewn maes parcio cyfleus.

Fel gyda gweddill y llyfrau, mae'r lluniau sy'n cyd-fynd a'r stori yn ddeniadol o syml a'r llyfr ei hun yn fach ac yn dwt ac o faint cyfleus i'w ddarllen yn y gwely.

Fe awgrymais i yn gynnar mai'r Bala a fuasai'r lle mwyaf cyfleus a chanolog, ac nid oes neb wedi codi gwrthwynebiad i hynny.

Maent hefyd am weld Twrci yn dod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd - bu meysydd awyr milwrol Twrci yn ganolfannu cyfleus iawn i alluogi awyrennau yr Taleithiau Unedig fomio Irác.

Mae'n rhaid i'r cyfleus-dodau ac i gwmnïau preifat yn gyffredinol ildio i alwadau pobl Cymru am ryddid.

Yna, wrth fwrdd mwy cyfleus na'r gist geirch sgrifennwn fy llythyrau a chael cryn hwyl wrth y gwaith.

Cadwai'r bobl geffylau a gwartheg, defaid a chŵn, ac arferent drin rhyw ddarn o dir cyfleus yn agos i'r ddinas a chodi ŷd arno.

I'r rhai hynny sy'n byw yng ngogledd Cymru, fe fyddai'r sioeau sy'n cael eu cynnal yn Mance- nion a Birmingham yn fwy cyfleus, wrth gwrs.

Os mewn troedigaeth grefyddol yr oedd ei ddiddordeb ef, onid achlysur cyfleus - ond sylfaenol amherthnasol - oedd y cyd-destun hanesyddol a ddewiswyd?

Mae'n naturiol, wrth gwrs, i ambell set hynod aros yn y cof, ond mae'n llawer mwy na lleoliad cyfleus i ddweud llinellau o'i gwahanol rannau, ac i'n darbwyllo ninnau bod digwyddiadau'r ddrama'n 'go iawn'.

Yna dechreuwyd a pharatoi bwydydd cyfleus poblogaidd megis teisennau briwgig, bysedd pysgod a selsig.

Os yw'r dyddiad neu'r lleoliad yn anghyfleus, cysylltwch â'r swyddfa er mwyn i ni drefnu'r cyfarfod nesaf mewn man neu ar amser mwy cyfleus.