Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyflogau

cyflogau

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

Gyda'r cyflogau mor isel, dim ond dynion a oedd yn analluog i ymgymryd â gwaith arall oherwydd henaint neu lesgedd oedd yn cael eu denu i fod yn athrawon.

'...' , meddai, '...' , a hynny oherwydd, yn ei farn ef, y cyflwr o dlodi yr oedd y gweithwyr eu hunain yn gyfrifol amdano, am eu bod mor ddidoreth ac mor ddigywilydd o gnawdol ar adeg pan oedd eu cyflogau ymhlith yr uchaf yn y deyrnas.

Ar y cyd felly yr oedd cyflogau - hynny yw, cyfartaledd enillion wythnosol - wedi cynyddu ryw dair gwaith.

Mae staff mewn canolfan arall, canolfan First Line, sy'n gwerthu ffôns symudol, wedi cael gwybod y bydd eu cyflogau'n gostwng.

Cyfartaledd cyflogau wythnosol gros (œ) fel canran o'r cyfartaledd ym Mhrydain.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

Cyraeddasai cyflogau'r dyffryn hwn y gwaelod isaf.

Ond yn yr ardaloedd gweithfaol newydd, roedd y cyflogwyr yn ysu am wneud ffortiynau, yn barod i dalu cyflogau uchel, ac eto'n edrych ar eu gweithlu fel bwystfilod, yn methu cynnig iddynt amodau cymdeithasol teilwng i fyw.

Yn ôl - - efallai mai'r broblem yw fod y cyflogau uchaf heb godi digon.

Gosododd allan ystadegau profadwy yn dangos beth oedd y cyflogau wythnosol i weithwyr â sgiliau neu heb sgiliau ganddynt, gan geisio llunio cymhariaeth costau byw, i brofi bod rhieni'n ennill digon i dalu am addysg plant.

Tua diwedd mis Gorffennaf, cytunodd y prif gwmnfau llongau i gydnabod Undeb y Morwyr a rhoi cyflogau uwch i w aelodau.

Cyfeiriodd yr adroddiad hwnnw at y tlodi, y cyflogau isel a'r diffyg cyfleoedd a nodweddai'r cymunedau.

Cyn diwedd streic y Cambrian, penderfynasai Undeb y Morwyr ymwrthod â gwaith o fis Gorffennaf ymlaen, nes bod perchnogion y llongau yn cydnabod yr undeb ac yn talu cyflogau mwy rhesymol.

Fel y cwympodd gwerth cyflogau yn ystod y blynyddoedd dilynol, heb unrhyw leihad yn yr oriau gwaith, gwelid mwyfwy o ymryson a streicio ar lefel leol.

Roedd y cyflogau yn llawer rhy isel i ddenu athrawon da.

Hefyd mae cyflogau merched lawer yn is na chyflogau dynion yng Ngwynedd, Cymru a Phrydain, gan adlewyrchu'r ganran uchel o ferched mewn gwaith rhan-amser a'r diwydiannau gwasanaeth sy'n cynnig cyflogau is.

Mae cyflogau fan hyn dipyn yn llai nag ydyn nhw ar dir yr Israeliaid.'

Fe wnaeth - - y pwynt sylfaenol fod cyflogau cynhyrchwyr wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf wrth ystyried chwyddiant a chredydau gwyliau.

Cychwynnodd Cynog Dafis yn Gymraeg gan ofyn pa gynlluniau sydd gan y Prif Ysgrifennydd i adolygu cyflogau athrawon.