Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyflwynodd

cyflwynodd

Yn ystod yr wythnos cyflwynodd Adam Walton sioe ar gyfer y gynulleidfa roc a chyflwynodd Kevin Hughes sioe gerddoriaeth nosweithiol o'r siartiau.

Cyflwynodd Breiddyn fi i Lewis Olifer a goleuodd wyneb hwnnw.

Cyflwynodd Idris Cox ac Ithel Davies ddatganiadau o gefnogaeth ar ran y Blaid Gomiwnyddol a mudiad Y Gweriniaethwyr.

Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ei hymateb i'r canllawiau newydd ar berthynas y Gymraeg a'r gyfundrefn gynllunio i'r Swyddfa Gymreig heddiw.

Yn Tywysog Ola Cymru, cyflwynodd y ddarlledwraig Elinor Jones, y canwr Dafydd Iwan, yr hanesydd Richard Wyn Jones a'r awdures Angharad Tomos eu safbwyntiau personol ynglyn â'r teulu brenhinol.

Cyflwynodd Newyddion raglenni arbennig ar yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf o stiwdio arbennig yn Neuadd y Ddinas, tra bu'r Gohebydd Ewrop Bethan Kilfoil yn cyfrannu'n fyw y tu allan i'r Swyddfa Gymreig.

Fe'm cyflwynodd i Tomi ac i ŵr Pen y bryn, a thra cydnabyddai ei genedl ei dyled iddo cydnabyddai yntau angen y rhai ifainc am gefnogaeth a chymorth a chalondid, megis pe bai'n barod, nage yn awyddus, i fyw drachefn yn y genhedlaeth newydd gynyrfiadau creu.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Thalia a'i phriod Ian Campbell eu holl bapurau gwleidyddol i'w cadw'n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ddydd Sul mynychodd wasanaeth i gofio am Ddewi Sant a ddydd Llun cyflwynodd berfformiad o Dylan Thomas yn Under Milk Wood.

Gan greu awyrgylch nos Sadwrn, cyflwynodd DJ ieuengaf erioed BBC Radio Wales, Leanne Pearce (Precious) sy'n 20 oed, y rhaglen House Party.

Cyflwynodd y cynhyrchwyr annibynnol Antena Canrif o Brifwyl ar S4C a BBC Radio Cymru.

Cyflwynodd Mabon a Ffederasiwn Glowyr De Cymru dystiolaeth fanwl am weithredoedd bwystfilaidd y polîs, ond yn wastad cawsant ateb pendant a boneddigaidd oddi wrth Churchill: 'Na', nid oedd sail ddigonol i gyfiawnhau cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.

Ar ran yr eglwys cyflwynodd y Parchedig Huw John Hughes ddeheulaw'r gymdeithas iddynt ac roedd ei eiriau o anogaeth a chyngor yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa yn ogystal a'r bobl ieuainc.

'Rhys, o'r ysgol,' cyflwynodd Seimon.

Yn Tywysog Ola Cymru, cyflwynodd y ddarlledwraig Elinor Jones, y canwr Dafydd Iwan, yr hanesydd Richard Wyn Jones ar awdures Angharad Tomos eu safbwyntiau personol ynglyn âr teulu brenhinol.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.