Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfnewid

cyfnewid

Milwyr y ddwy ochr yn cyfnewid anrhegion ac yn chwarae pêl-droed ar ddydd Nadolig.

Os nad oedd modd talu'r iawn mewn arian, gellid cyfnewid nwyddau am y caethion neu gyflawni aberth anifail er mwyn eu rhyddhau (Num.

Arhosai'r rhai yn y naill giw yn amyneddgar i brynu tocyn, ac yr oedd y rheini yn y ciw arall yn disgwyl cyfnewid eu tocynnau am rai o'r ychydig nwyddau oedd ar gael.

Cyfnewid papur efo Mrs Kent gyda'r nos.

Bydd sefydlu CANOLFAN GWYBODAETH/CYFNEWID GWYNEDD ym Mangor yn help mawr i hwyluso'r gwaith hwn.

Yn y fasnach drionglog hon, cludid nwyddau a gynhyrchid yn ardaloedd diwydiannol Lloegr i orllewin Affrica a'u cyfnewid yno am gaethweision.

Ond y tu ôl i'r triawd, neu y pedwarawd destlus yma, mae yna rwydwaith annirnadwy o gymhleth, gyda llu o ddylanwadau, bach a mawr, yn effeithio ar bob digwyddiad a phob cyfnewid sydd yn bodoli rhyngddynt yn barhaol.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Gellir gofyn, serch hynny, a ellir cyfnewid dwr am ryw doddiant arall.

Ond ma'r ddou ddyn yn cyfnewid syniade'n lled amal yn yr offis 'na dwi'n credu - ti'n gwbod y math o bethe ma' nhw'n 'u trafod...'

Cedwir symudiad y darn trwy gyfrwng saith berf arall sydd yn cynnwys dau gyfnewid o ran person, o Robin i'r forwyn, ac yna i'r feistres, a sawl cyfnewid o ran ansawdd: 'Cymrodd', 'Deallodd', 'ymddigiodd',

at fyd cig a gwaed a meidrolion, byd sy'n cyfnewid ac ymlygru.

Pwrpas hyn yw i'r mudiadau ddysgu oddiwrth ei gilydd, cyfnewid gwybodaeth a gweld a oes cyfle iddynt weithio ar y cyd.

Bydd yn rhaid i Baulch fodloni ar le mewn tîm cyfnewid cryf lle bydd ei brofiad yn allweddol.

Trefnu lleoliad cyfnewid yn yr ysgol.

Er i'r cyfnewid cyhuddiadau hyn ymylu ar ryfel preifat rhwng y golygyddion o dro i dro, gan dueddu gadael y darllenwyr mewn penbleth ar yr ymyl, cyfrannodd at y broses o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â mater yr Eglwys Sefydledig.

Mae Cura yn cyfnewid geiriau gydag aderyn crawclyd arall a hynny, rywsut, yn cael pethau i gychwyn eto mewn ysbryd eithriadol o dda ymhlith cantorion sydd wedi sefyll yn hir ar lwyfan.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.

Mae meithrin grwpiau o'r fath felly yn bwysig - a) er mwyn cyfnewid profiadau cydymdeimladol seiliedig ar wir brofiadau.