Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfoedion

cyfoedion

Fel y gweddill o'm cyfoedion byddwn yn mynd i'r Seiat ar nos Fawrth, a chofiaf yn dda am y Parch JH Pugh y Gweinidog yn fy nghynghori a'm siarsio i fod yn hogyn da.

"...rhan gyflawn o'n cyfundrefn addysg ac mae gan blant ag anghenion addysgol arbennig yr un hawl â phlant eraill i gael yr un ystod lawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm â'u cyfoedion."

Enghreifftiau eraill o gefnogaeth cyfoedion yw'r grwpiau Hunan-Eiriolaeth (Self-Advocacy), Cynghreiriau Pensiynwyr a mudiadau cyn-gleifion o'r gwasanaethau seiciatryddol, megis y grwpiau Survivors.

A dyma efallai bwrpas y straeon hyn, sef cadarnhau rhai o gredoau sylfaenol ein cymdeithas, ac i'n rhybuddio rhag crwydro ymhell oddi ar lwybrau derbyniol ein cyfoedion.

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

y rhai sydd yn cael trafferthion i ddeall y gwaith, - y rhai a allai droi'n wrthnysig ac yn anodd i'w rheoli, (yn arbennig felly os yw diffyg dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd ymysg cyfoedion, neu yn ddiweddarach yn eu gyrfa uwchradd, pan fo dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd), - y rhai galluog sydd angen eu hymestyn;yn bendant nid un o'r diwinyddon defnyddiol fel y 'Dr Goodwin, Dr Owen, Dr Gill, Marshall, Hervey, Usher' a'r lleill, yn Anglicaniaid a Phiwritaniaid, y cydnabu Williams Pantycelyn ei ddyled iddynt: mewn chwarter canrif o ddarllen ni ddeuthum ar draws un Methodist o'r genhedlaeth gyntaf a ynganodd ei enw hyd yn oed.

Nid yn unig yr oeddwn i a'm cyfoedion yn ddigon ffodus i gael y cyfle i wrando ar Lloyd y Cwm a'i debyg o dro i dro, ond fe ddeuem ar draws aml i berson cyffelyb ar ddyddiau'r wythnos hefyd.

Mae tîm dan 21 Cymru yn wynebu eu cyfoedion o Wlad Pwyl y prynhawn yma.

Fel llaweroedd o'm cyfoedion 'roeddwn wedi cynilo rhai punnoedd ers dyddiau ysgol trwy fod yn gadi yn y golff.