Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfoeth

cyfoeth

Ond tymherwyd y cyfoeth diwylliannol hwn gan ei ysgolheictod diwinyddol.

Ac y mae dylanwad mudiadau protest a chymdeithasau amddiffyn o'r tu mewn a'r tu allan yn ysgogi ymwybyddiaeth amgenach na'r gwerthoedd yr oedd 'cyfoeth ffermwyr Llŷn' yn ei gynrychioli.

'Roedd y rhaglen gyntaf i gyflwyno'r pwnc, trwy gymharu cyfoeth a thlodi a thrwy gyflwyno y syniad o'r hyn sy'n normal - amgylchiadau a sefyllfaoedd y byddem ni yma yng Nghymru yn ystyried yn normal ond sy'n hollol wahanol i'r hyn a ystyrir yn normal yn y byd ar y cyfan yn nhermau incwm, tai, trafnidiaeth, hyd oes ac yn y blaen.

Ar sail y cyfoeth sy'n deillio o ddwy iaith hynafol, rhydd addysg Gymraeg gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a dyfnhau eu profiadau.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Hawdd deall ei dristwch o gofio y cyfoeth profiadau oedd ar gael i lenorion mewn diwydiant wedi ei lethu gan streiciau, anghydfod, brawdgarwch ac ymwneud pobl â'i gilydd mewn amgylchiadau a esgorai ar arwriaeth arbennig.

Trwy hynny fe droir meddyliau unigolyn yn feddyliau cymdeithas, ac oherwydd y cyfoeth sydd felly'n cronni ynddo bydd y meddwl cymdeithasol hwnnw yn rhoi maeth a golud i feddyliau'r unigolion sy'n cyfrannu iddo ac yn rhoi ehangder a dyfnder iddynt.

Pwrpas 'Polska' oedd dathlu cyfoeth diwylliannol gwlad Pþyl ar draws y canrifoedd, a hithau'n dri-chwarter canrif ers ei hailsefydlu fel gwlad annibynnol ar ôl y Rhyfel Mawr.

Ond nid oherwydd y bygythiad, yn gymaint ag oherwydd cyfoeth operatig y llais yr ufuddhaodd hi yn y bôn, a chyn agor y drws, trodd ei phen i roi cip arni ei hun yn y drych ar y silff ben tân.

Trwy gyfundrefn addysg a gadwai eu gorffennol yn guddiedig oddi wrthynt, ni wyddent ddim am y cyfoeth llenydddol enfawr sydd ar gael yn Gymraeg.

Nid porthmona merched roedd y newydd-ddyfodiaid hyn, merched gwyn neu ddu i foddio shechiaid Arabia, fel yn yr hen ddyddiau cyn i'r shechiaid fagu cyfoeth o'r olew.

Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Rowland Hughes, y ddau fel ei gilydd, am DM Jones: ei fod yn hanfod o Landeilo, fod ei fam yn Saesnes, ei fod wedi ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri ac wedi caei addysg glasurol dda yno ond heb ddim hyfforddiant yn y Gymraeg, ac mai yn Rhydychen wrth ddarllen yn ei oriau hamdden yr oedd wedi dod i werthfawrogi cyfoeth iaith a llenyddiaeth Cymru ac i ymserchu cymaint yn nhelynegion Ceiriog fel yr aeth ati i'w cyfieithu i'r Saesneg' Mae adroddiad OM Edwards o hanes dechrau'r Gymdeithas ychydig yn wahanol.

Mae'r ffosil Brachiopod composita i'w weld yn y creigiau yma hefyd - cyfoeth yn wir i'r casglwr brwd newydd.

Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.

Hanfod ein gwaith ni yw cadw i'r oesoedd a ddêl, nid y cyfoeth a fu, ond y glendid a fu.

Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd.

Weithiau yn unig y cawn iddo arfer y gair 'Cyfoeth' am 'Dalaith', ond y gair a ddefnyddiai gan amlaf yn ei drafodaethau ar y drefn farddol oedd 'Cadair'.

Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.

Yn awr, fel ag ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae arnom angen pobl sy'n fodlon gweithio a chreu cyfoeth i'r Almaen gyfan.

Ar wahân i'w grefft fel stori%wr, ei brif ogoniant yw cyfoeth naturiol ei iaith, ac yma gwelwn ddawn y bardd ar ei gorau.

Ac i Dduw y mae teulu dyn yn atebol am ddiogelu a meithrin y cyfoeth hwn.

Yr oedd cyfoeth o ddarluniau ynddo hefyd, o leiaf un ymhob rhifyn mewn lliw.

Ym mhob pwnc bydd angen nodi a yw cynllunio wedi arwain at y dilyniant, y cydbwysedd a'r cyfoeth priodol yn y ddarpariaeth gwricwlaidd ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Yr oeddent yn ddigon parod i weithredu'n amheus a threisgar er mwyn ychwanegu at eu cyfoeth a'u dylanwad.

Ar y naill law, rhydd gyfle inni werthfawrogi cyfoeth diwylliant Thomas Charles, ac ar y llaw arall, ei allu i ysgrifennu'n glir a chryno ar gyfer darllenwyr diaddysg.

Mae gen ti gyfoeth mwy o lawar þ cyfoeth y sawl y mae arwyddocâd iddo yn 'i gymdeithas ac y bydd collad ar 'i ôl pan ddaw diwadd y daith.

Ceir cyfoeth o gyfeiriadaeth ddysgedig, a llawer o ddyfalu ym mhob ystyr i'r gair hwnnw.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.

Byddem yn cadw ei gorchymyn nes dod adref, ond yna byddain rhaid egluro i Mam beth oedd y cyfoeth annisgwyl oedd gennym.

Eitha peth, meddai, oedd atgoffa cynghorwyr Caernarfon bod cyfoeth a ddaeth trwy Doc Fictoria a'r Cei Llechi wedi ei ennill ar gefn chwarelwyr y lechan las o Ddyffryn Nantlle a Llanberis.