Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfoethogi

cyfoethogi

Nid tamaid i aros pryd mohono, mae addysg feithrin o safon yn cyfoethogi datblygiad y plentyn cyfan ac fe all gyfrannu at godi safon ei berfformiad academaidd cyffredinol.

Darparu deunydd cyfoethogi gwreiddiol yn y Gymraeg i ategu'r ddarpariaeth greiddiol mathemateg ar sail themau trawsgwricwlaidd.

Fodd bynnag, diolchwn am bob darganfyddiad a wnaed, ac a wneir o gyfnod i gyfnod, sy'n ysgafnhau ac yn cyfoethogi bywyd dyn.

Gellir dweud mai da yw gweithgareddau sy'n gogwyddo at greu cymundod, ac yn cyfoethogi bywyd cymdeithas, ac yn meithrin cymdogaeth dda; ac mai drwg yw gweithgareddau sy'n malurio cymdogaeth a chymdeithas.

Dylai'r anrhydedd o agor y Llyfrgell fynd i rhywun sydd wedi cyfoethogi ein bywydau.

Pe gallwn gael elw o'u cyfarfod, yna fe fyddai fy ngweledigaeth, a'm gweinidogaeth yn cael eu cyfoethogi.

Rhywun sydd wedi gwneud defnydd o adnoddau'r Llyfrgell er mwyn cyfoethogi bywyd ein cenedl.

Ni allaf sôn am sefydlu Canolfan y De heb gyfeirio at brofiadau arbennig iawn a gefais fy hun wrth ymwneud â'r Weinidogaeth Gyfryngol ac â'r Crist presennol - profiadau sydd wedi cyfoethogi fy mywyd ysbrydol.

Caiff y ddwy blaned eu cyfoethogi gan y straeon newydd hyn.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Y mae ambell gwmni'n edrych am gyfieithiadau o ddramâu o safon cydnabyddedig, sydd o leiaf yn cyfoethogi'r cyflenwad pitw o ddramâu sydd ar gael yn y Gymraeg.

Gobeithiwn y byddwch yn datblygu'n athrawon ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn ceisio hybu dysgu gwyddoniaeth fel profiad sydd yn cyfoethogi'r unigolyn ac fel pwnc sydd o bwys yn ein bywyd beunyddiol ac yn berthnasol iddo.

Gellid gweddio'n fwy deallus am y sefyllfa, a gellid adeiladu pontydd newydd a olygai cyfoethogi eglwysi dwyrain a gorllewin Ewrob.

Er cydnabod mai hwy oedd y prif ddylanwad addysgol yng ngogledd Cymru a'u bod wedi cyfoethogi'r bobl yn ddiwinyddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, roedd eu cyfraniad ym mhob maes arall yn brin iawn.

Rhan o'r amrywiaeth sy'n cyfoethogi bywyd Cymru yw'r cymdogaethau lawer a fedd eu cymeriad arbennig hwy eu hunain.

Ymateb cyntaf i eiriau fel llyfrau, ffynhonnau, dysgawdwyr a goleuadau yw un o werthfawrogiad; mae llyfrau yn cyfoethogi dyn, ffynhonnau'n ei adnewyddu, dysgawdwyr yn ehangu'i wybodaeth, goleuadau yn ei arwain yn y tywyllwch.