Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfran

cyfran

Glei stagnohwmic, gyda cyfran uchel o ddefnydd organic, sy'n ffurfio yn yr ucheldir ac yn yr iseldir priddoedd stagnoglei sy'n datblygu.

Adeiladwyd cyfran helaeth o stoc tai cyngor yr ardal yn ystod y cyfnod hwn a hynny'n bennaf gan y cyn-gynghorau trefol.

Er mawr loes i Harri Gwynn ceryddwyd ef gan nifer o wþr blaenllaw y genedl am feddwl derbyn y fath ychwanegiad i'w gyflog a dywedwyd wrtho mai ei ddyletswydd oedd ad-dalu cyfran sylweddol ohono.

Mewn siroedd megis Dyfed, lle mae cyfran uwch o dir da ceir mwy o bwyslais ar gnydau a gwartheg godro.

Er bod Cymry Cymraeg yn ffurfio cyfran sylweddol o ddarllenwyr cylchgronau llenyddol Saesneg Cymru, fel yr Anglo-Welsh Review a Planet, ac er (neu efallai oherwydd) bod adran Saesneg gan yr Academi Gymreig, ychydig iawn o gydberthynas ac o gyd-drafod sydd wedi bod rhwng y ddwy lenyddiaeth.

Y disgwyl yw y byddan nhw'n pennu cyfran benodol o'r arian ar gyfer prosiectau hefyd.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Mae priddoedd mawnog yn cael eu nodweddu oherwydd y cyfran uchel o ddefnydd organig.

Er bod y system honno wedi cael ei seilio ar iawnder cymdeithasol, bellach ni fedrai hyd yn oed fwydo cyfran helaeth o Archentwyr.

Barn yr adroddiad yw bod "cyfran dda ohono'n gysylltiedig â themâu a thopigau sy'n adlewyrchu diddordebau'r plant.

Cyn gynted ag yr oedd y Blaid yn dechrau ymladd etholiadau ar raddfa eang, ac ar adegau yn ennill cyfran sylweddol o'r bleidlais, yr oedd ei swyddogaeth fel grŵp ymwthiol yn dirwyn i ben.

Gosodir y cyfrifoldeb am benderfyniadau o'r fath ar ein gwleidyddion etholedig, sydd wedi dewis gwario cyfran helaeth o'r cyllid sydd ar gael ar ddatblygiadau yn ymwneud ag arfau, tra yr un pryd yn cwtogi ar yr arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil wyddonol bur.

Heddiw, mae'n wybyddus nad oes gan Mawrth ond odid atmosffer tenau o garbon deuocsid sydd yn gallu cadw neu ddal gafael mewn cyfran fechan o wres yr haul.

Mae cyfran fechan yn aros yma a hyd yn oed yn bridio yng Nghymru, e.e.

Yn ystod cyfnod yr alltudiaeth, adferwyd nifer helaeth o ddeddfau llym y ddwy ganrif flaenorol, yn enwedig y rheini oedd yn ymwneud a lladrata - trosedd a fu'n gyfrifol am alltudio cyfran helaeth o'r carcharorion a gludwyd i Awstralia.

Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod cyfran uchel o dir Cymru'n cael ei ddefnyddio i gadw defaid a'r ffaith ei bod yn bosib cynnal rhifau cymharol uchel o ddefaid ar y tiroedd hyn.

Yn aml ffurfir dosbarth gallu cymysg o blant a fydd yn derbyn rhan helaeth o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd ffurfir dosbarthiadau o ddysgwyr da a fydd yn derbyn cyfran o'u haddysg drwy'r Gymraeg.

Mae'r RSPB wedi cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd rhagorol ar y pwnc hwn mewn cyswllt â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae cyfran ohono wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Mae mwy nag erioed o gynyrchiadau teledu Saesneg wedi derbyn cyfran uwch o'r gynulleidfa nag a gafwyd i raglenni rhwydwaith a ddarlledwyd ar yr un pryd.

Yn ogystal â defnyddio'r gohebwyr lleol fel ffynhonnell, bydd cyfran o bob bwletin yn tarddu o'r adran newyddion ei hun.

Bydd cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg y dyfodol wedi dysgu'r iaith mewn cylchoedd meithrin ac yn yr ysgol.

Mae'r Bloc yn cynrychioli cyfran helaeth iawn o'r Que/ be/ cois mewn modd nas cafwyd o'r blaen.

Y mae cyfradd poblogaeth weithiol y pedwar dosbarth (hynny yw y cyfran o'r boblogaeth sydd ar gael i weithio) gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.

Gwedd ddryslyd a fyddai i hanes Gorsedd y Beirdd pe baem yn ceisio ei adrodd gan anwybyddu'r ffaith mai'n daleithiol neu'n 'gadeiriol' y gweithredai'r mudiad yn y dechrau ac yn ystod cyfran helaeth o'r ganrif ddiwethaf.

Gellir cael grantiau gan Gyngor y Celfyddydau, Cyndeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, Cronfa Gulbelkin, cyfran o'r trethi, Cyngor Sir Clwyd, Yr Awdurdod Datblygu, ac ati, tuag at gynnal ac atgyweirio'r Stiwt.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Ymysg plant ysgol, mae cyfran sylweddol o blant sy'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol heddiw yn defnyddio'r iaith yn ystod oriau ysgol yn unig.

Hyd y gwn, dyw'r ysgolheigion heb weithio ar y cysylltiad rhwng patrwm y pleidleisio yn y ddwy refferendwm, ond mi led-greda'i fod cyfran uchel o'r rhai a bleidleisiodd dros y Cynulliad ymhlith y lleiafrif a bleidleisiodd dros ddod allan o'r Gymuned.

Oherwydd eu tueddiad i fod yn wlyb ac asidig mae cyfran uchel o briddoedd Cymru yn addas ar gyfer tyfiant porfa arw neu barhaol yn unig.

Gwasanaeth cyflwyno busnes syn cyflwyno buddsoddwyr i gwmnïau syn ymofyn cyllid ychwanegol ac syn barod yn eu tro i gynnig cyfran ecwiti yn y busnes.

Er clod iddo, sicrhaodd Gadaffi - ar y dechrau, beth bynnag - fod cyfran o gyfoeth yr olew yn cael ei rannu'n deg rhwng y bobl.

Drwy ddefnyddio cerdyn, gwnaed yn siwr fod pawb yn medru prynu cyfran teg o nwyddau angenrheidiol am brisiau isel.

Gwelir fod y ganran o dir pori da yn lleihau mewn siroedd megis Gwynedd a Phowys, lle ceir cyfran uchel o dir mynyddig o radd isel.

Aseiniadau yn Gymraeg Dylai'r sawl sydd yn derbyn yr Atodiad Cymhelliant i ddysgu yn Gymraeg wneud cyfran sylweddol o'r gwaith yn Gymraeg gan gynnwys o leiaf: