Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfraniadau

cyfraniadau

Codwyd dwy fil o bunnau mewn cyfraniadau, a'r bwriad yw gofyn i Lys-gennad Prydain yn Nicaragua i ddyblu'r swm ar gyfer prosiectau ar yr arfordir.

Rhaid i farn gytbwys ynglŷn â diwylliant Ffrianc ac Ewrop yn ei chrynswth, wrth gwrs - gydnabod cyfraniad y Chwyldroadwr a'r Ceidwadwr, y Chwith a'r Dde i'w gwareiddiad, a chydnabod hefyd werth a dilysrwydd cyfraniadau'r ddwy garfan.

Lle bo'r safonau'n anfoddhaol, bydd disgyblion yn ddihyder wrth siarad ac yn methu cyfathrebu'n effeithiol; dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt o'r hyn a glywant ac ni allant gynnal sgwrs estynedig; cyfyngedig yw'r rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflwyniadau a thameidiog yw eu cyfraniadau at drafodaeth grŵp a dosbarth.

Gwyddom ei fod yn falch o weld cyfraniadau to ieuanc Carreglefn.

Gydol y rhaglen cafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan y Dr Geraint Jenkins ac Elwyn Edwards, y ddau ohonynt yn cael eu disgrifio fel awduron.

Saesneg bob gair oedd cyfraniadau'r holl gynghorwyr eraill, ac er bod y cadeirydd yn honni bod yn 'Gymro da' ni ddaeth gair o'r heniaith dros ei wefusau y prynhawn hwnnw.

Mae traed yr awdur ar y ddaear ac mae'r diweddglo yn nodi cyfraniadau'r cyfryngau mwy cyfoes i'r Gymru rydan ni'n byw ynddi.

Byth oddi ar amser cyfraniadau nodedig Johannes Weiss ac Albert Schweitzer at yr astudiaeth o Iesu Hanes bu'n rhaid i'r ysgolheigion hynny a fu'n credu fod yr astudiaeth yn debyg o ddwyn ffrwyth dderbyn y gwirionedd nad oes fodd deall pwrpas a gwaith yr Iesu heb roi lle canolog i'w ddisgwyliad eschatolegol.

Trwy'r cylchgrawn hwn yn bennaf y dylanwadodd Gruffydd ar fywyd llenyddol a chymdeithasol ei gyfnod a llwyddodd i sicrhau cyfraniadau oddi wrth bob ysgolhaig, llenor a bardd o bwys.

O ganlyniad i ddatganoli cafodd y rhaglen wleidyddol Maniffesto ei hymestyn i awr o hyd o fis Medi a pharhaodd y drafodaeth ar faterion llosg yn y gyfres hynod lwyddiannus, Pawb ai Farn, a oedd yn cynnwys cyfraniadau e-bost byw gan aelodau o'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Dros y blynyddoedd mae John Griffiths a Kevs Ford wedi cydweithio gyda Datblygu, Ty Gwydr, Tystion ac Anweledig a nifer o artistiaid eraill ac yn yr albwm newydd mae cyfraniadau gan Lauren Bentham, Geraint Jarman, Sian James, Gai T, Ceri C, Jaffa ac MC Sleifar.

Daeth cyfraniadau gwerthfawr o sawl cyfeiriad, a cheisiwyd ymgorffori'r rhain yn y ddogfen hon.

Treuliwyd misoedd yn datrys y gwahanol broblemau - cyllid, argraffu, golygu, cyfraniadau.

Maen debyg mai hwn fydd y cyfle olaf i glywed cyfraniadau Euros Rowlands fel aelod llawn fel drymiwr ar newyddion ydy bod Pete Richardson o'r grwp Topper yn ymuno efo Gorkys i gymryd ei le.

Cynghorau lleol yn cael yr hawl i roi cyfraniadau ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelid y Brifwyl yn eu hardaloedd nhw.

Dylai'r ysgol gynnwys y disgyblion a'u rhieni mewn trafodaethau am anghenion y disgyblion, a chael gweithdrefnau ar gyfer comisiynu cyfraniadau gan asiantaethau allanol lle bo angen hynny.

O ganlyniad i ddatganoli cafodd y rhaglen wleidyddol Maniffesto ei hymestyn i awr o hyd o fis Medi a pharhaodd y drafodaeth ar faterion llosg yn y gyfres hynod lwyddiannus, Pawb a'i Farn, a oedd yn cynnwys cyfraniadau e-bost byw gan aelodau o'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.

Byddai bywyd cenhedloedd Ewrop a'r byd hefyd rywfaint yn dlotach, canys y cyfraniadau a ddaeth trwy'r traddodiadau cenedlaethol a gyfansodda wareiddiad Ewrop.

A yw eu cyfraniadau'n llywio rhaglen ddysgu'r disgybl?

Ond ar ôl y cam annisgwyl cyntaf hwn y mae'r cyfraniadau'n dod yn nes at gynnal delfrydau'r maniffesto, yn enwedig trwy gyfraniadau'r golygydd ei hun.

Dylid ystyried sut y cynllunnir gwaith; cydbwysedd y dulliau addysgu a threfniadaeth y dosbarth; ansawdd cyfraniadau'r athro; cyflymder a phriodoldeb y gwaith ar gyfer oedran a gallu'r disgyblion; y cynnydd a wneir tuag at ddarllen cyson ac ysgrifennu estynedig; darpariaeth ar gyfer drama, addysg y cyfryngau a gwybodaeth am iaith; defnyddio technoleg gwybodaeth a'r llyfrgell.

Pan y mae cyfraniadau o greulonder ac haelfrydedd mor anghyfartal nid rhyfedd i rinwedd fynd yn isel."

Adroddodd yr Ysgrifennydd mai'r unig ohebiaeth dderbyniodd oedd cyfraniadau.

* gadw trefn a rheolaeth ar yr hyn a gyflwynir ac a ddysgir trwy benderfynu ar agweddau megis: -faint o'r gwaith y dylent hwy ei gyflwyno, -beth sydd yn addas i'r disgyblion ei wneud ac a fydd yn dangos dealltwriaeth o'r prif syniadau a chysyniadau, -faint o amser sy'n addas ar gyfer eu cyfraniadau hwy a faint ar gyfer cyfnodau plentyn-ganolog, -reoli cyflymder yr addysgu/ dysgu a chadw'r dosbarth gyda'i gilydd i astudio'r un maes er y gellid cyflwyno gwaith gwahaniaethol o'i fewn;

A yw cyfraniadau rhieni a staff o asiantaethau eraill yn cael eu cydgysylltu'n effeithiol fel bod y disgybl yn cael rhaglen ddysgu gydlynus.