Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrannu

cyfrannu

Yn ôl Watcyn Wyn, ei ewythr Dafydd Williams a gynigiodd fod gweithwyr Brynaman yn cyfrannu tuag at gynhaliaeth yr ysgol.

Mae dinasyddion swyddogol ac answyddogol ein gwlad yn siarad sawl iaith ac mae hynny yn cyfrannu at gyfoeth ieithyddol ein gwlad.

Fe gafwyd adlais o'r hen Gastell Nedd ddoe, y pum blaen yn rhagori yn yr agweddau tynn ac yn cyfrannu tipyn yn y chwarae rhydd.

Felly, beth bynnag a ddywedir i'r gwrthwyneb, y mae'n cyfrannu i'r diwylliant Saesneg, gan haeddu cerydd ei gyd-Gymry o'r herwydd.

Gobaith criw yr Eisteddfod yw y bydd gweddill Cymru, o'r diwedd, yn gwerthfawrogi ardal sydd wedi cyfrannu cymaint.

Mewn gwirionedd, wrth ddarllen y llyfr, y mae dyn yn cael ei synnu fod cynifer o bobl amrywiol wedi cyfrannu at y dystiolaeth, nid yn unig trwy ysgrifennu a siarad, ond hefyd trwy weithredu.

Credwn fod Cadeiryddion y Pwyllgorau yn allweddol wrth greu amgylchedd lle mae aelodau o'r Pwyllgorau ac eraill sy'n cyfrannu iddynt yn teimlo'n gwbl rydd i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall yn ôl eu dymuniad.

Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.

Golyga'r cysylltiad yma ein bod yn gallu darparu gwasanaeth cyflawn yn y Gymraeg sy'n cyfrannu at

Cyfrannu erthyglau amrywiol ar weithgarwch CYD i'w cynnwys yng ngholofn Gymraeg y Llanelli Star.

Prif amcan y llys brenhinol a'r llys lleol ydoedd cyfrannu at gynhaliaeth eraill yn ysbrydol yn ogystal â materol.

ôl safonau'r llu gwyddorau sy'n cyfrannu tuag at astudiaeth o amgylchedd tanfor.

Soniai am streic setiwrs yng Ngogledd yr Unol Daleithiau, a phob setiwr yn y De'n cyfrannu tair doler yr wythnos at eu cadw allan.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

* bod y cwricwlwm yn cyfrannu at holl dwf a datblygiad pob plentyn, yn hyrwyddo eu datblygiad deallusol, emosiynol, cymdeithasol, corfforol a diwylliannol.

Mae'r Grwp am ddod â newyddion am frwydrau pobloedd, mudiadau a ieithoedd eraill i dudalennau'r Tafod. Os oes gennwch chi newyddion i'w cyfrannu at y tudalennau – gorau'n byd.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Mae cynyrchiadau'r BBC yn cyfrannu'n sylweddol i 20 Rhaglen Uchaf S4C bob wythnos.

Nid hawlio y mae nad oes elfennau eraill sy'n cyfrannu tuag at yr ymdeimlad cenedlaethol ymhlith y Cymry, eithr yn hytrach mynn y diflannai yr ymdeimlad a'r ymwybod hwnnw gyda diflaniad yr iaith.

Nid yn unig yn cyfrannu i gylchgronnau y mae Eiry hefyd yn paratoi siartiau personol.

Fe a Steve James, a sgoriodd 53, yn cyfrannu 101 am yr ail wiced.

Trwy hynny fe droir meddyliau unigolyn yn feddyliau cymdeithas, ac oherwydd y cyfoeth sydd felly'n cronni ynddo bydd y meddwl cymdeithasol hwnnw yn rhoi maeth a golud i feddyliau'r unigolion sy'n cyfrannu iddo ac yn rhoi ehangder a dyfnder iddynt.

Yn ystod y pedair blynedd y bu+m yn cyfrannu erthyglau garddio i'r cylchgrawn soniais droeon am fethiant rhai planhigion i lwyddo ym mhresenoldeb gwynt hallt o'r môr.

Maen nhw'n cwrdd bob nos Wener, pob un yn cyfrannu pum peso tuag at gynnal ty yr athrawon Cymraeg.

Roedd y system addysg ar ddeg lefel, ac roedd myfyrwyr y ddau ar bymtheg o golegau ymarfer dysgu hwythau'n gorfod cyfrannu i'r economi.

Cyflwynodd Newyddion raglenni arbennig ar yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf o stiwdio arbennig yn Neuadd y Ddinas, tra bu'r Gohebydd Ewrop Bethan Kilfoil yn cyfrannu'n fyw y tu allan i'r Swyddfa Gymreig.

* cyfrannu gwybodaeth i'r rhai sy'n darparu addysg yrfaol ac arweiniad gyrfaol

* Cyfrannu

At hyn wrth gwrs, mae wedi cyfrannu gweithiau i antholegau, llunio nofelau a cherddi i oedolion ac ennill y gadair genedlaethol ddwywaith, yng Nglynebwy a Chaernarfon.

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

Cyfrannu'n Ariannol Disgwylir ichwi gyfrannu rhyw gymaint yn ystod y flwyddyn, e.e.

'Roedd T. Gwynn Jones a T. H. Parry-Williams wedi cyfrannu i'r cylchgrawn.

Y flwyddyn ganlynol, roedden ni'n paratoi CD amlgyfrannog arall o'r enw O'r Gad, ac fe ofynnon ni iddo fo a fyddai o'n hoffi cyfrannu cân.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Clywais fod un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Ethiopia wedi cyfrannu i'r ddefod pan oedd yn bump oed, a chanfÉm, gyda braw, fod offrwm croenwyn yn cael ei ystyried yn arbennig o lwcus.

Rhan o waith beunyddiol y golygyddion yw mynd ar ofyn y gohebwyr lleol sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r newyddion a ddaw i law.

Mae hyn wedi esgor ar nifer o ymholiadau a negeseuon o gefnogaeth o bob ran o Gymru a'r byd (neges o Senegal ydi'r un mwyaf annisgwyl hyd yma!), ac mae nifer wedi cyfrannu'n ariannol wedi darllen y tudalennau.

Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.

Bydd Beks yn cyfrannu bob wythnos i BBC Cymrur Byd.

Cyfranogi yn y Cwrs Asesir pob myfyriwr ar y cyfraniad a wnaeth i'r cwrs, gan gynnwys cyfrannu'n gadarnhaol i drafodaethau, parodrwydd i helpu trefnu achlysuron arbennig, arddangosfeydd o waith y myfyrwyr, etc.

Creadur gwrthrychol, amhersonol, yw'r gwyddonydd ar y model hwn, yn cyfrannu dim at natur y darlun.

Ond hyd yn oed os na lwyddodd Joshua Thomas i wneud Bedyddiwr o Penri, yr oedd yn cyfrannu at atgoffa'r Cymry amdano.

A phe bai Ieuan Gwynedd wedi cael byw, efallai'n wir y byddai wedi cyfrannu'n helaethach i fywyd Cymru na Henry Richard a Thomas Gee.

Nid oedd modd ei chadw rhag cyfrannu i ymdrech y Cynghreiriaid Gorllewinol.

Glenda Jackson sy'n cael sylw Aled Islwyn y mis hwn yn y gyfres achlysurol hon sy'n bwrw golwg ar rai o'r merched hynny sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant y sinema...

Mae BBC Cymru hefyd wedi cyfrannu'n helaeth at Radio 3, gan gynhyrchu rhaglenni megis Artist of the Week, Composer of the Week ac Opera in Action.

Mae hynny'n golygu fod cenhedlaeth yn codi sy'n hynod anwybodus am y Beibl a'i athrawiaethau ac am y traddodiadau Cristionogol sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd mor gyfoethog at fywyd Cymru.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Parry-Williams wedi cyfrannu i'r cylchgrawn.

Fel 'undeb â Christ' y dehonglir y cyfrannu hwn yn nhraddodiad y Gorllewin tra sonnir am theosis neu 'ddwyfoli' yn nhraddodiad y Dwyrain.

Ac ni all yr hanesydd anwybyddu'r ffaith fod y math yma o ddisgyblaeth wedi cyfrannu mewn ffordd greadigool at fagu cadernid cymeriad ymhlith miloedd yn y gymdeithas.

Roedd sôn rhyw dro am un aelod yn cyfrannu yn Sbaeneg yn unig...

Mae'n briod â dyn cyfoethog yn Llundain, ac mae'n cyfrannu i gylchgrawn Harpers & Queen.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.

Beth sy'n fy nghyffwrdd i bob blwyddyn yw gweld plant yn cyfrannu eu pres poced eu hunain i'r gronfa a hefyd fel mae pobol sy'n aml heb lawer o bres eu hunain yn cyfrannu'n hael i Blant Mewn Angen," meddai.

Madog yn para i ddod i'r eglwys yn gyson ac yn cyfrannu'n hael, ac yn mynychu ambell i gyngerdd, a Luned yn cadw fwy neu lai i'r bwthyn.

Hawliant droi diwrnod o'i phum niwrnod hi yn ddydd Saesneg cyn cyfrannu at ei chynnal hi'n anrhydeddus.

Yn yr ardaloedd fu'n rhai di-Gymraeg yn draddodiadol ond lle mae twf aruthrol wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dysgu Cymraeg i oedolion yn cyfrannu at y twf a'r bwrlwm ac yn elfen bwysig wrth sicrhau bod y plant sy'n dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol yn cael y cyfle i'w siarad hi y tu allan.

Yr wythnos ddiwetha', a dim ond tua phythefnos ar ôl tan y perfformiad ar nos Sadwrn gynta'r Eisteddfod, roedd hi'n amlwg fod y plant yn mwynhau ac wedi gwerthfawrogi cael cyfrannu at y syniadau.

Mae yna gryn dipyn o gynnwrf wedi bod am y cynnyrch gan fod yna doreth o artistiaid eraill yn cyfrannu at y casgliad sydd bellach yn dipyn o draddodiad gan y grwp.

Ond er mor syml y rhediad mae'r manylion a gynhwysir a'r awyrgylch a gre%ir yn cyfrannu at ddatblygiad y stori oherwydd trwyddo rhed llinyn beirniadaeth o gymeriad Geraint yn ei ymagwedd a'r math o ddifyrrwch sy'n mynd â'i fryd.