Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrif

cyfrif

Mwynhewch ehangder y dychymyg ar bob cyfrif.

Llyfr cyfrif gyda phanelau sy'n llithro o ochr y dudalen.

o'r holl lythyrau a gyhoeddwyd yn y wasg yr wythnos diwethaf dim ond un oedd yn cyfrif.

Un tro yr oedd yr helfa ddefaid i lawr ar y caeau isaf yn barod i swyddog o'r Weinyddiaeth ddod i'w cyfrif yn fanwl.

Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.

Wedi'r cyfan, 'rwyf yn cyfrif.

A oedd yr hen geffyl yn medru cyfrif i chwech wrth glywed 'clic' y wagenni fel y tynhaent yn gynffon y tu ôl iddo?

Gwelsom fod y Cyfrif Elw a Cholled yn adrodd canlyniadau gweithgareddau'r busnes yn ystod cyfnod o flwyddyn, a'r Fantolen yn dangos adnoddau a goblygiadau'r busnes ar ddyddiad arbennig.

Mae'n enghraifft o fenthyciad i'w osgoi ar bob cyfrif os oes unrhyw siawns y gall eich incwm ostwng.

Y rheswm dros ddweud hyn yw y bydd eich rheolwr banc yn edrych yn fanwl ar eich cyfrif, ac yn eich helpu i benderfynu pa fath o swm sy'n rhesymol i chi fedru ei ad-dalu.

Yn aml, bardd crwydrol yw ef - fel y bu Waldo am lawer o'i oes (gan ymdebygu ar lawer cyfrif i Ieuan Brydydd Hir), - a'i gyfeillion yn niferus ac yn wasgaredig.

Yr oedd Herald yn cyfrif efo plant y Rhos yn yr America.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Honno yw'r aelwyd sy'n cyfrif; yr aelwyd sy'n sefyll yn ddigryn ar gonglfeini teyrngarwch a diolchgarwch.

Canlyniad hyn oll oedd iddynt gynnal parêd ar ôl parêd, er mwyn iddynt ein cyfrif sawl gwaith yn ystod y dydd, a chan fod tros bedair mil ohonom cymerai'r gorchwyl hwn amser maith.

Wrth ymladd etholiadau yr ydych yn creu gelynion, gelynion grymus, ond wrth gwrs dyna beth y mae'n rhaid i'r grŵp ymwthiol ei osgoi ar bob cyfrif.

Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

Os yw llawfeddyg yn gweld bod gwir angen am driniaeth lawfeddygol anodd, cymhleth a pheryglus ar y claf, a honno'n driniaeth nad oes ganddo fawr ddim profiad ynglŷn â hi, yna dylid, ar bob cyfrif, danfon y claf at lawfeddyg arall sydd wedi arbenigo yn y math yma o driniaeth.

O leiaf, roedden ni'n medru cyfrif ein bendithion.

Yna cyfrif hyd at saith cyn gollwng un arall.

Banc y TSB - yr oedd llythyr wedi dod i law yn esbonio pam nad oedd ffurflenni agor cyfrif a ffurflenni newid llofnodion ar gael gan Fanc y TSB.

Rwy'n cyfrif fy hun yn freintiedig iawn.

Y wers oedd fod yna rywbeth o'i le mewn cyfrif pobl fel unedau.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

Cyfrif yn dangos y ffigwr uchaf erioed (43%) o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.

Fe geir mewn sawl crefydd amheuaeth ynglŷn â gwerth cyfrif pennau.

Y mae effeithiau eithaf a gwaethaf yr arferiad mor eang ac amrywiol fel y mae yn amhosibl rhoddi cyfrif o'u nifer na mesur i'w hehangder."

Tybed nad y pris sy'n cyfrif yn y diwedd, beth bynnag fo cynnwys y bwydydd?

Gwrthodwyd ffurflenni Cymraeg i rai o'n haelodau a ddymunai agor cyfrif yn y banc.

Cyfrif pennau biau hi.

Nid yn unig ar anhrefn y cyfrif yn etholiadaur Unol Daleithiau y mae llygaid y byd ar hyn o bryd.

Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfrif cyflawn o'r perspectif hwn.

Nid yw cyfrif pennau yn gyfystyr â chyfrif gwerth.

Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Er mwyn cyfrif yr argost, y mae'n angenrheidiol gwneud amcangyfrif o'r treuliau anuniongyrchol ymlaen llaw, a phenderfynu hefyd ar gynllun neu sail i'w dosrannu.

Y mae'r flwyddyn yn gyfnod naturiol i'w ddewis er mwyn gwneud cyllideb ond bydd llawer o fusnesau (os ydynt o unrhyw faint) yn gwneud cyllideb am fis neu chwarter, ac yn gwylio'r perfformiad trwy gynhyrchu cyfrif a'i gymharu â'r gyllideb ar ddiwedd y mis neu'r chwarter.

Yn rhywle, mae Schumacher yn adrodd am y wers bwysig a ddysgodd pan oedd yn was ifanc ar fferm, mai peryglus oedd cyfrif gwartheg heb eu hadnabod.

Yn yr Alban problem economaidd a gwleidyddol ydoedd; yng Nghymru deuai ffactorau ysbrydol i'r cyfrif.

datganiad o sut y disgwylir i'r cyfrif edrych ar ôl digwyddiadau a gynlluniwyd.

Ym marn Chomsky, nid disgrifio'r hyn sydd eisoes wedi ei lefaru yw unig swydd gramadeg ond hefyd roi cyfrif am yr hyn y gellir ei lefaru - ei genhedlu - yn y dyfodol.

Ac o graffu ar yr arweinwyr, dylid gwneud cyfrif hefyd o'r blaenoriaid (neu'r diaconiaid) yn yr eglwysi.

Mae llawer o'n hacademwyr lleiaf wedi mynd i gredu hyn eu hunain, a dyna sy'n cyfrif fod cymaint o rigymu pert, eithaf clyfar o ran techneg, ond er hynny heb ronyn o welediad.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Pan ddown at fyd busnes, y mae'n bosibl inni wneud amcangyfrif (neu gyllideb, fel y'i gelwir yn gyffredinol) am y flwyddyn, a chymharu'r cyfrif elw a cholled ag ef ar derfyn y cyfnod.

Codem am hanner awr wedi chwech bob bore, ond nid oedd sôn am frecwast nes inni fynd ar barêd i gael ein cyfrif, ac yn aml byddai'n hanner dydd cyn bod y parêd drosodd, a ninnau bron diffygio.

Y maen'n wir i lawer o'r addysg honno gael ei thraddodi trwy gyfrwng y Saesneg, ac y mae'r Athro J Gwyn Griffiths yn ystyried fod hyn yn cyfrif am y prinder dylanwad clasurol a welir mewn barddoniaeth Gymraeg.

Mewn gair, rhaid gochel rhag prynu problemau rhywun arall ar bob cyfrif.

'Roedd ceiniogau yn cyfrif yn yr oes honno.

Ond ar ôl mynd yno ac iddi gyrraedd saith o'r gloch, yr oedd pawb yn edrych ar ei gilydd yn hynod o chwilfrydig, gan feddwl tybed beth oedd i fod a beth oedd yn cyfrif am eu bod yn cael eu hunain yn Ysgol Nant ar gam adeg megis.

Aeth y ddyletswydd deuluaidd hefyd yn beth dieithr yn ein cartrefi a chollwyd y parchusrwydd hwnnw at y pethau sydd yn cyfrif mewn bywyd.

Ni theimlai Harri awydd o gwbl am fynd, ac anogai Gwen ef i beidio â mynd ar un cyfrif.

Roedd pawb yn gwybod fod Portiwgal yn cael eu cyfrif fel Brazil Ewrop.

Yn wir roedd o mor denau roeddech chi'n gallu cyfrif ei asennau o ac er ei bod hi wedi tantro gymaint yn erbyn ei gael o, roedd gan Mam biti drosto.

Dylid darllen y drafodaeth hon ar bob cyfrif, yn enwedig oherwydd y manylu sydd ynddi ar hanes llunio'r pennill cyntaf.

Byddai adeiladydd, er enghraifft, yn ei chael hi'n fanteisiol i agor cyfrif arbennig ar gyfer pob contract y mae'n ymgymryd ag ef, er mwyn iddo fedru dweud pa elw neu golled a wna arno.

Gellir cymhwyso hyn a dweud fod rhai beirdd, ac yn eu plith, Waldo, wedi gweld y byd mewn golau heblaw golau dydd ac wedi eu hargyhoeddi mai'r byd wedi ei weld yn y golau hwnnw yw'r unig fyd sy'n cyfrif.

Cyfrif yn dangos fod mwy o dractorau na thyddynnod yng Nghymru, nifer y ffermwyr wedi gostwng o 40,000 ym 1945 i 20,000 ym 1971.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Elan Closs Stephens: "Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i fod yn agored ac o fewn cyrraedd y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, i roi cyfrif llawn am arian cyhoeddus rydym yn ei wario ar eu rhan ac i raglenni o'r safon uchaf posibl.

Fe ellir cyfrif yr argost fel canran o gost defnyddiau, neu o gost llafur, neu o'r ddau gyda'i gilydd; ffordd arall ydyw seilio'r argost ar faint o amser y defnyddir peiriannau ar y gwahanol dasgau.

Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.

Byddai'r rheolwr yn gyfrifol am gadw cyfrif manwl o'r holl bryniant yn ystod yr wythnos gan gadw gwyliadwriaeth fanwl ar y stoc yn ogystal.

Cynllunio'ch diet eich hun Cofiwch nad yw cyfrif caloriau yn ddigon.