Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrifol

cyfrifol

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

Nid creadur â'i dynged wedi ei rhagbenodi yw dyn, ond enaid cyfrifol â chanddo'r hawl i ddewis, i bennu ei dynged ei hun.

Yn wir, yn amser yr Archesgob Laud, canmolwyd y sawl a wnai hyn fel dinesydd cyfrifol a Christion da.

Mae bod yn Brifweinidog yn waith cyfrifol dros ben ond un o'r manteision yw cael cwrdd â phobl arbennig iawn.

Lewis y glynn i dat ai kant.' Mae pum mlwydd yn oedran amwys, wedi gadael babandod ac eto heb ddechrau datblygu'n oedolyn cyfrifol (ystyrid mai saith oedd yr oed pan fyddai plentyn yn dechrau meddwl ac ymddwyn fel oedolyn).

Yr oedd yn gysur mawr iddo wybod fod y plant yn gwneud cyfraniad pwysig i gymdeithas mewn swyddi cyfrifol.

Wrth drafod amodau'r swydd pwysleisiodd y pwyllgor cyfrifol yr anawsterau ariannol.

Curig Davies oedd yn fwyaf cyfrifol am grynhoi defnyddiau'r llyfrynnau dathlu a'u gweld trwy'r wasg.

Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi 'chwalu'r drefn bresennol.' Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith.

Nac oedd, byth, wrth gyflawni gwaith cyfrifol.

Cyfarfyddai o leiaf deirgwaith y flwyddyn ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am lunio polisi.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.

Sut y sefydlwyd Cymdeithas y Dafydd a phwy a fu'n fwyaf cyfrifol am ei sefydlu?