Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrifon

cyfrifon

Dyma'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn wrth astudio'r cyfrifon.

Bydd y moddion a ddefnyddir i ddehongli'r cyfrifon a dod o hyd i esboniad ar sefyllfa busnes yn amrywio yn ôl ei natur arbennig.

Ac er ei chasineb at waith papur, yn union fel y disgrifiasai Watcyn Lloyd hi, 'roedd wedi bod wrthi am dridiau cyfan bythefnos ynghynt yn gwneud dim ond cynorthwyo Sioned i ymgynefino â'r busnes a chael trefn ar y cyfrifon.

Try'r fentr yn ddiwydiant proffesiynol, rhwng gweithgaredd June yn trefnu archebion dros y ffon gyda chwsmeriaid fel Mr Sainsbury, Dave yn dosbarthu'r cynnyrch gefn nos ar ei fotobeic, a Mona yn teipio'r cyfrifon.

Y mae rhai eitemau yn y cyfrifon sy'n eu cynnig eu hunain ar unwaith fel rhai allweddol.

Ond fe welir nad ydyw'n bosibl dod o hyd i Gostau Tasg drwy gyfrwng y cyfrifon ariannol.

Dyna paham y mae'n arferiad i ddangos yn y cyfrifon y ffigurau cyfatebol am y flwyddyn flaenorol, ac yn wir bydd llawer o gwmni%au cyhoeddus yn ychwanegu tablau o ffigurau allweddol dros gyfnod o, efallai, ddeng mlynedd.

Bydd y cyfrifon ariannol yn cofnodi'r gwerthiannau o ddydd i ddydd fel y digwyddant.

Clywais ambell adlais o'r cythrwfl a ddilynodd cyhoeddi'r cyfrifon am gyfnod go hir cyn iddynt dawelu.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

Cyfrifon Costio a'r Cyfrifon Ariannol

Disgwylir gweld cyfrifon y gronfa yn cael eu cadw ar wahân i weddill y gwariant ar y projectau.

Aeth y daith yn hwy na'i ddisgwyl, a threuliodd ei amser yn gwneud cyfrifon ariannol yn ei ben, a chael ei fod, hyd yn hyn, beth bynnag, wedi ymgadw'n gysurus o fewn ei ffiniau gwario am y dydd.

Rhaid cofio ei bod yn bosibl i'r amcangyfrif ei hun fod yn ddiffygiol, a bod angen ei gywiro cyn symud ymlaen i gymharu'r cyfrifon terfynol ag ef.

Bydd rhywun yn sicr o ofyn pam, os oedd yr elw mor uchel, y mynegwyd y fath syndod pan ddatgelwyd y cyfrifon.

Nid oes pwynt mewn dyblygu gwaith drwy gadw ail set o lyfrau i bwrpas costio os gellir cael y wybodaeth o'r cyfrifon ariannol, gydag efallai ychydig o gofnodion ychwanegol.

Mewn rhai achosion gyda rhywfaint o gymhwyso ar y llyfrau y mae'n bosibl gweithredu system o gostio y tu mewn i'r cyfrifon ariannol.

Pwrpas cyfrifon ydyw cyflwyno gwybodaeth a fydd yn caniata/ u i'r rheolwyr, y cyfranddalwyr, neu unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y cwmni neu fusnes, wneud penderfyniadau.

Bydd y sawl sy'n cymryd rhan yng ngwaith awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau elusennol yn gyfarwydd â'r drefn o wneud amcangyfrif am y flwyddyn, ac un ffordd i edrych ar sefyllfa'r sefydliad ydyw drwy gymharu'r cyfrifon ar derfyn y nwyddyn â'r amcangyfrif a wnaethpwyd ymlaen llaw.

Syfrdanol hefyd yw adroddiad Syr Thomas Wyn, Glynllifon, Archwiliwr Cyfrifon Cymru wedi i'r Llywodraeth gymryd gofalaeth Ystad y Goron.

Dehongli Cyfrifon

Os yw busnes yn cynhyrchu un math o beth yn unig, gellir cael y wybodaeth i benderfynu Costau Uned o'r cyfrifon ariannol gan nad oes angen dadansoddi'r gwariant mor fanwl ag mewn ffurfiau eraill.

Barn Cynog Dafis, yr AC lleol, yw y dylid cyhoeddi'r cyfrifon gan fod arian cyhoeddus eisoes wedi ei wario.

Y mae cymaint o waith dadansoddi'r gwariant a'i briodoli i'r gwahanol dasgau nes ei bod yn amhosibl i'w cynnwys yn y llyfrau; dan yr amgylchiadau hyn, y mae'n rhaid cadw set o lyfrau costio ar wahân i'r cyfrifon ariannol.

Mae nifer o gwmniau wedi bod yn anfon cyfrifon yn Gymraeg (mater gwahanol i'r "Return" sy'n rhestru manylion Cyfarwyddwyr ac ati) ers blynyddoedd i D^y'r Cwmniau, ac wedi cael eu gwrthod.

'Ella 'mod i'n anghywir,' cynigiodd yn betrus, 'ond hyd y gwela i mae cadw'r cyfrifon yma'n mynd i gymryd llawer llai o amser nag yr oedd ych tad yn 'i awgrymu.

Er enghraifft, os ydym yn gwybod faint y mae glofa yn ei gynhyrchu, gall fod yn fater eithaf hawdd, trwy gynllunio'r cyfrifon yn briodol, i gyfrif cost tunnell o lo.

Dangosai'r cyfrifon fod y cwmniau'n medi elw dihafal ac yn talu llog di-ail i'w cyfranddalwyr.

Wrth ddadansoddi'r cyfrifon, un nod yw dirnad achosion cyfnewidiadau.