Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrin

cyfrin

Yn ôl Murry (a theg ychwanegu yn y fan hon nad yw bob amser yn glir ai aralleirio Keats ynteu datgan ei fam ei hun y mae) yr oedd cyswllt cyfrin rhwng y meddwl barddonol a'r ymwybod crefyddol.

Rhybuddiwyd y Dirprwywyr i ddal sylw manwl ar yr ysgolion Sul yng Nghymru, ac roedd yr ymraniadau enwadol yn siwr o fod yn eithaf cyfarwydd i Ysgrifennydd Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar addysg ...

Daeth yr alwad, a chredais mai dyna arweiniad cyfrin Rhagluniaeth; ac nid oes gennyf le i amau tiriondeb ei llaw na diddosrwydd ei haden.

Sylfaen y cyfan o'r ad-drefnu hwn yw'r rhif cyfrin y meddyliodd y biwrocratiaid amdano.

Nod Cyfrin neu nonsens.

O ludw'r hen aelwydydd - tywynodd Tanau dros y gwledydd, O bennau'r bryniau beunydd - rhoi cyfrin Oleu fu gwerin y gwael fagwyrydd.

Ac ar ddalen deitl y gyfrol honno y gwelwyd yn argraffedig am y tro cyntaf y Nod Cyfrin y byddid yn ei weld yn ddiweddarach yn arwyddnod ar sgroliau cyhoeddi gorseddau Beirdd Ynys Prydain.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.