Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrolau

cyfrolau

Oherwydd atgasedd y goludog ac adwaith Seisnig yn erbyn Lloyd George, pardduwyd y Cymry mewn cyfrolau fel Perfidious Welshman.

Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.

Y mae'r Athro Koutroubas hefyd yn fardd, yn cyhoeddi cyfrolau o gerddi mewn Lladin a Groeg.

Prin yr ystyriai, er hynny, mai 'i alwedigaeth ef oedd ysgrifennu cyfrolau ar egwyddorion cenedlaetholdeb.

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae cyfrolau ar hanes y teulu Bute a Chaerdydd, hanes y BBC yng Nghymru a hefyd ei lyfr awdurdodol Hanes Cymru, a gyhoeddwyd gan Penguin yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Tuedd cyfrolau fel hon, er pob ymdrech i fod yn wrthrychol, yw clodfori, yw cymryd yn ganiataol fod pob sillaf o eiddo'r bardd yn gampwaith.

Ymhen rhai blynyddoedd, er mawr syndod i Dr Tom, anfonodd Ward Williams air i'r coleg yn peri iddynt ddychhwelyd y cyfrolau iddo.

Awdur y Parochial Queries hyn oedd Edward Lhwyd, Ceidwad Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen, a oedd yn casglu defnyddiau ar gyfer cyfrolau a fyddai'n trafod hanes, iaith a naturiaetheg Cymru.

Gair eithaf bachog hefyd; yr oedd y cyfrolau i'w dychwelyd ar unwaith.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

Llyfr i blant yw hwn ac mae cyfrolau o'i fath yn ffordd ardderchog o gyflwyno barddoniaeth i glustiau bychain, ifainc.

Trwy ei syniadaeth gefnogol i'r Chwyldro Ffrengig, a fynegir yn y cyfrolau hyn, y daethpwyd i adnabod Iolo Morganwg fel 'Bard of Liberty'.

Daeth ychwanegiadau gwerthfawr ar adran llên gwerin fy llyfrgell gyda'r cyfrolau a sicrheais yn siop Galloway o gasgliad mawr William Davies y cigydd, Talybont.

Mae cynnwys y deunydd a osodwyd ar hysbysfwrdd yr eglwys nodedig hon yn llefaru cyfrolau.

Dyna hefyd at ei gilydd a wnai cyfrolau cynnar Kate Roberts a DJ Williams, er fod lle'r unigolyn ynddyn nhw eisoes yn cryfhau.

I'r ganrif newydd y perthyn cyfrolau glanwiath Cyfres y Fil - tua hanner cant ohonynt - yn cynnwys gweithiau llenorion Cymru yn fach ac yn fawr, llyfrau defnyddiol hynod hyd yn oed heddiw.

Pan mae sefyllfaoedd fel hyn yn codi, mae'r ffaith ein bod wedi ein hynysu yn siarad cyfrolau; ond nid amdano ni.