Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrwng

cyfrwng

iaith ffurfiol mewn sefyllfa ddosbarth ond iaith fwy anffurfiol gyda grwpiau ac unigolion, - cyfrwng swyddogol y dosbarth yn ystod y cyfnodau athro-ganolog ond mamiaith y disgybl neu gynnal/datblygu'r ail-iaith yn ol anghenion yr unigolyn yn y sefyllfa plentyn-ganolog.ii) Ceisiwch osgoi gorlwytho'r drorau uchaf.

Does dim digon o safleoedd sydd wedi eu bwriadu ar gyfer plant, ac felly dydy plant ddim yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfrwng newydd.

Rhaid sicrhau, felly, fod y cyfleoedd gorau ar gael i blant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cartrefi.

'Roedd cyfrwng y ffilm hefyd yn mynd o nerth i nerth; hwn oedd y cyfnod pan oedd Hollywood yn ei anterth.

Mae ymroddiad Eryl i gyfrwng y theatr yn amlwg, ac mae yntau'n ymddangos yn gyfforddus gyda'r cyfrwng hwnnw.

O ran adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg, gan na ellir ar y cyfan ddiwallu'r angen cyson amdanynt yn fasnachol, dylid parhau i ystyried y galw a chydweithio er mwyn ei ddiwallu.

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Pwysleisir hefyd natur ac addasder y cymorth y mae'n ofynnol i'r ysgolion ei roi gan gynnwys adnoddau addas fel cyfrwng dysgu.

Nid y cyfrwng a'i gwnaeth yn 'ddewin' ond ei feistrolaeth dros y cyfrwng.

Darparu ysgolion cyfrwng Cymraeg

Ond y cyfrwng newydd, y vers libre a'r ymdeimlad barddonol gwahanol - dyma wir gyfrinachau'r gerdd.

dadlennwyd manylion am y ganolfan addysg busnes a rheolaeth cyfrwng cymraeg pan lansiwyd cynllun strategol ar ei chyfer gan fenter a busnes yn aberystwyth.

Proses ddamweiniol bron oedd hi, ac yn wir, parhaodd Lladin yn ei bri fel cyfrwng mynegiant ochr-yn-ochr a'r cynnydd yn yr ieithoedd brodorol, o leiaf mewn rhai meysydd.

Fel roeddwn i'n dweud, cyfrwng sarhad a sen rhyfedd iawn - gwisgo megis mewn anrhydedd enw eich gelyn.

Mae mabwysiadu polisi sy'n datgan mai Cymraeg yw cyfrwng addysg adran y plant bach yn hollol anhepgorol os yw Cymraeg y Cymry i'w chadw'n loyw.

Rhaid hefyd sicrhau fod rhieni yn cael yn ddigymell wybodaeth gyflawn am fanteision addysg Gymraeg, ac am y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir yn lleol, sirol a chenedlaethol.

Rhoddir cryn bwyslais yn athroniaeth cenedlaetholdeb - fel y'i mynegir, er enghraifft, yn nramâu Saunders Lewis, yr oedd Kitchener yn fawr ei edmygedd ohonynt - ar y ffaith fod angen cymdeithas ar yr unigolyn fel cyfrwng i gyflawni ei natur.

Ond mewn cyfrwng newyddion, ni thâl ystyriaethau felly.

Tybed a fyddech chwi'n cytuno mai gywyddoniaeth a'i llawforwyn weithredol, technoleg, fu'r cyfrwng pennaf i newid, yn wir, drawsnewid, ein byd a'n cymdeithas, byth oddi ar Chwyldro Wyddonol yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg?

Ond nid cyfrwng adloniant yn unig oedd ffilm.

Mae lle i berson gyda'ch math chi o gyfrifoldeb gael ei apwyntio yng ngweddill ysgolion uwchradd Cymru, yn arbennig felly yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf, os yw addysg ddwyieithog i lwyddo.

Yr anghenraid i gynllunio cwrs, beth bynnag yw'r cyfrwng - boed teledu neu ystafell ddosbarth - yw cynllunio'r camre.

Iaith y canu oedd Profenseg neu la langue d'oc, dit aujourd'hui l'occitan, ond yr oedd ei diriogaeth wreiddiol yn ehangach na Phrofens, oblegid cynhwysai hefyd Languedoc, Aquitaine (gan gyfrif Limousin, Perigord, etc) ac Auvergne, a defnyddiwyd yr iaith fel cyfrwng canu gan y beirdd i'r deau o'r Pyrenees, gan y beirdd Catalanaidd ar y naill law a chan feirdd gogledd yr Eidal ar y llaw arall.

Y patrwm crefyddol hwn oedd cyfrwng artistig Cymraeg y ganrif ddiwethaf, yn ogystal a'i sail yn foesol a deallusol.

Y ceffyl oedd cyfrwng cludo boneddigion y Canol Oesoedd, ond yn Lives of Saints from the Book of Lismore fe ddyry'r golygydd enghreifftiau.

Un o brif broblemau'r cyfrwng arbennig hwn ydi'r ffaith fod yna gymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth ddawns.

Fel y mae'r ddrama gerdd hon yn cynnwys drama gerdd, ac fel y mae'r bobol ifanc wedi bod yn ymarfer perfformiad am bobol ifanc yn ymarfer perfformiad, mae'r neges a'r cyfrwng yn un.

Ac yn y diwedd pobl oedd wedi cael cyfrwng, pa mor ffaeledig bynnag, i siarad gyda nhw eu hunain, yn ei golli.

Beti George Llwyddodd Beti George ac Euron Griffith i gadwr cyfrwng sgwrsio yn fyw ac yn iach gydau priod slotiau Beti ai Phobl ac Ie Ie, gyda'r ddwy gyfres yn llawn bywyd gyda gwesteion diddorol ac amrywiol.

Yr 'iawn' oedd y cyfrwng, boed yn weithred neu'n dâl, a wnaed er mwyn eu cymodi.

Mae darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg effeithiol a hygyrch yn hanfodol ar gyfer cynnig sylfaen dda o Gymraeg i blant sy'n siarad Cymraeg ac i blant sy'n dysgu siarad Cymraeg.

Os ydym am sicrhau fod pobl ifanc yn gwbl rugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mae'n amlwg fod yn rhaid darparu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog iddynt.

(a) Nifer yr ysgolion uwchradd yn defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng

Dylid gwneud arolygon rheolaidd o'r ddarpariaeth cyfatebol o adnoddau yn yr ysgolion cyfrwng Gymraeg er mwyn mesur i ba raddau mae'r cyfle yn gyfartal i bob disgybl sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Un o ser mwyaf disglair byd y teledu ar hyn o bryd yw'r gŵr dwys, pryd tywyll sy'n honni ei fod yn meddu ar allu goruwchnaturiol i ddefnyddio'r cyfrwng er gwella afiechydon ac anhwylderau o bob math.

Y cyfrwng yw'r neges, chwedl Marshall McLuhan.

Cyfrwng yw'r rhagymadroddion, yn y lle cyntaf, i gyfarch a rhyngu bodd noddwyr ac arweinwyr cymdeithas; ac yn yr ail le, a hyn sydd bwysicaf o ddigon, i roi cyfle i'r awduron eu hunain egluro eu bwriadau a'u cymhellion.

Mater o fentro yw dysgu iaith, o gymryd siawns gyda'r cyfrwng er mwyn cyflwyno neges.

Dyna ogoniant y cyfrwng newydd hwn, hwylustod y cysylltiad, cymaint gwell na'r post tost.

Dylid ceisio diffinio'n gliriach natur y 'cyfle cyfartal' o safbwynt darpariaeth adnoddau, er enghraifft mewn perthynas ag adroddiadau o'r 'Educational Publishers Council' ar gyflenwad adnoddau mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Fel arfer, er mai'r iaith swyddogol yn unig oedd cyfrwng yr ysgolion uwchradd, dwyieithrwydd oedd y drefn yn yr ysgolion elfennol.

Beti George Llwyddodd Beti George ac Euron Griffith i gadw'r cyfrwng sgwrsio yn fyw ac yn iach gyda'u priod slotiau Beti a'i Phobl ac Ie Ie, gyda'r ddwy gyfres yn llawn bywyd gyda gwesteion diddorol ac amrywiol.

ac i'r Royal Court yn y pum degau a'r chwe degau, yn gweithio gydag Olivier, Gielgud a mawrion y theatr Saesneg ar gyfnodau allweddol yn natblydiad y cyfrwng.

Fe arferid edrych arni fel cyfrwng diddanwch munud awr yn unig, ond gan fod teledu'n cynnig y diddanwch hwnnw bellachd wedi mynd heibio er pan enillo, gall y nofel fentro plymio i'r dwfn a dehongli pethau yn ogystal ag adrodd stori.

Er mwyn ateb gofynion y cyfrwng daw'r hanfod newyddiadurol o gwtogi a chywasgu yn bwysicach nag erioed.

Babi annwyl iawn oedd y cyfrwng newydd yng ngolwg Sam ac yr oedd yn ei fwydo â danteithion o bob math.

Hon oedd oes aur y cyfrwng newydd, y radio.

Ond nid yw gwaith paratoi deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg yn waith masnachol y medrir disgwyl i'r cyhoeddwyr hynny gynnig yn gyffredinol amdano.

Yn yr orsedd hon eglurodd Iolo Morganwg beth oedd pwrpas Beirdd Ynys Prydain, sef adfer cerdd dafod, y cyfrwng, meddai, a ddiogelodd y Gymraeg rhag llygru, a hyrwyddo'r mesurau rhydd i hyfforddi'r werin.

O'r braidd y bydd Eingl-Gymro a brofodd rywfaint o rinwedd y Saesneg fel cyfrwng barddoni byth yn gildio i'r demtasiwn hon i'w ladd ei hun.

Yn sgîl y Ddeddf Diwygio Addysg, arfaethir cynnig i ddisgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf brofiadau cyfrwng Cymraeg, fel y bo modd iddynt ennill hyfedredd lawnach nag erioed.

* Dylai asesu statudol, a chyhoeddi'r canlyniadau, gael ei hepgor yn Gymraeg ar gyfer disgyblion ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf yn union fel y mae asesu'r Saesneg yn cael ei hepgor mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

Fe'm trawyd yn rhyfedd ar fy ymweliad cyntaf ag Ysgol Haf o'r Blaid fod pobl yn tybio mai plaid wleidyddol oedd y cyfrwng priodol ar gyfer gweithredu uniongyrchiol, pa un a oedd y weithred honno yn un y gellid ei chyfiawnhau ai peidio.

Ar yr un pryd, ceid llawer o swyddi cyffredin mewn tref a phentref lle defnyddid y Gymraeg yn gyson fel cyfrwng naturiol cyfathrebu, megis mewn siop, gweithdy a swyddfa.

Achos sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw bod iaith yn ffenomenon cymdeithasol yn ei hanfod, ac nad yw iaith wir yn fyw onis defnyddir yn naturiol fel cyfrwng cyfathrebu mewn cymunedau lleol.

Mae gan ddarlledu cyfrwng Cymraeg a di-Gymraeg botensial enfawr i effeithio ar agweddau a phatrwm defnyddio'r iaith Gymraeg gan y cyhoedd.

Ar hyn o bryd mae 525 o ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i dros 82,000 o blant.

Yn Skol Louarn Veig Trebern (Herve/ Trebern bach yn mitsio) hanes llai dramatig a gawn, ond â blas llawn cystal arno, lle crisialir atgofion plentyndod yr awdur, wedi eu haddasu ond ychydig ar gyfer cyfrwng llenyddol.

Y wasg oedd y cyfrwng a gyflwynai'r newyddion gyntaf, hyd nes i'r radio ddatblygu gwasanaeth newyddion cyflawn.

Cyflwynwyd Canrif o Brifwyl mewn pedwar cyfrwng; teledu a radio yn ystod Chwefror a Mawrth 2000, a mewn arlein a dau lyfr.

Cyfeirient yn barhaus at 'rywbeth' arall ar wahân i grefydd fel cyfrwng i sefydlu trefn amgenach.

Serch hynny, er i'r Diwygiadau Crefyddol fod yn un cyfrwng i waredu llawer o hen chwaraeon, defodau ac arferion Cymreig, ni pheidiodd y traddodiad o adrodd chwedlau a stori%au.

Diflannodd y cyfamod yn mwyafrif ein heglwysi a hwnnw oedd y cyfrwng cyhoeddus i warchod y ffin.

athrawon ail iaith yn y sector cynradd, ac athrawon cyfrwng yn yr sector uwchradd.

Araf ar y cyntaf oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'w chofleidio ond ni buont yn hir cyn sylweddoli ei mantais fel cyfrwng addysg.

Mae hi'n amhoisbl atgynhyrchu yr un tric mewn cyfrwng a all gymryd diwrnodau neu fisoedd hyd yn oed i gynhyrchu drama.

Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif.

Mewn ardaloedd eraill, megis cymoedd y de lle mae'r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gellir rhagweld y byddai dileu cyfrifoldeb strategol yr awdurdod lleol yn llesteirio'r fath dwf yn y dyfodol.

Yn y cyfnod hwn edrychid ar addysg elfennol i'r ferch fel cyfrwng i'w pharatoi i fod yn wraig tŷ a mam effeithiol.

Yn y cyfrwng hwn yn union y daeth T Gwynn Jones i'r maes gyda'i astudiaeth o Rieingerddi'r Gogynfeirdd, a chan dderbyn rhai o awgrymiadau'r ysgolheigion a fu'n gweithio ar Ddafydd ap Gwilym a gwrthod eraill ohonynt, ceisiodd ddangos fod yn y 'rhieingerddi' yr un math o farddoniaeth ag a geir yng ngwaith y Trwbadwriaid, a bod rhai o arferion y Trwbadwriaid gan y beirdd Cymraeg.

Oherwydd mai Cymraeg oedd cyfrwng addysg yn yr ysgolion Sul, yr oedd yn rhaid wrth ategion i hyfforddi'r disgyblion yn nodweddion yr iaith.

Athrawon yn yr ysgolion Diwan, sef yr ysgolion cyfrwng Llydaweg, oedd nifer o'r Llydawyr hynny.

Ond wrth gwrs adlewyrchiad o wrthdaro cymdeithasol ac o gydbwysedd grym o fewn y gymdeithas honno ydi pob gwasg a phob cyfrwng torfol.

'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.

Yr ysgol bentref fu'r cyfrwng pwysicaf i ddatblygu'r ymwybyddiaeth hon o berthyn i'r gymuned leol.

Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.

Rhyddiaith oedd cyfrwng dewisol rhai eraill.

Cyfrwng Tiriogaethau

HMS ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg

Ymhellach, mae'n rhaid i'r cyfrwng beidio a bod mor adweithiol nes dadelfennu molecylau cymhleth o fewn y toddiant.

Mae'r cyfrwng sy'n cael ei ddefnyddio yn amrywio hefyd megis inc, siarcol a phastel.

Yn wir, gwelodd esblygiad y dull hwn o sgrifennu newid chwyldroadol ers i'r awdur hwn droi at y cyfrwng.

Cyfrwng i fynegi teimladau personol yw barddoniaeth i ni heddiw, ac felly gallwn ymateb yn haws o lawer i gerdd fel hon nag i'r cerddi mawl confensiynol.