Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfrwys

cyfrwys

dyn cyfrwys iawn, gwyliwch o pan awn ni'n nôl .

Perthyn i'w thad yr oedd hon, cyfrwys yn ei ffordd fach wirion, yn ddirgelaidd fel yntau.

Ac eto, un cyfrwys ar y naw ydi'r temtiwr, un a fedr siarad â llais cymhellgar trwy ddangos pa mor foesol ydi'r aberth.

Edrychwch ar Brifysgol Jerwsalem heddiw a'r Hebraeg a oedd yn iaith farw hir oesoedd cyn Crist yn gyfrwng ei holl hyfforddiant yn y gwyddorau mwyaf cyfrwys a modern.

Ond yr oedd y gwrachod yn ddigon cyfrwys i weld drwy ein hystryw ni.

Gellir dadlau, mae'n wir, fod ei charedigion wedi sicrhau mynediad iddi i ysgolion y wladwriaeth drwy gynllunio strategaeth ac ymarfer tactegau cyfrwys i drechu'r rhagfarn na fynnai weld yr iaith ond fel gwreiddyn stwbwrn '...' .

Dyn cyfrwys oedd Vatilan, fel y dichon ichi amau eisoes, a dyn drwg iawn.

Dyna'r hen ____ (berwai Wiliam wrth gofio amdano'n awr) yn gwrthod rhoi clwt iddo ryw brynhawn yn yr haf, yn ei ddull cyfrwys.

Hwyrach eu bod yn gyn-filwyr a bod cynllunio cyfrwys yn rhan o'u cynhysgaeth.

Ac yna amwyster cyfrwys y Modd Gorchmynnol sy'n cyfuno'r argraff o awdurdod ac apêl.