Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfryw

cyfryw

gyfieithu'r testun yn ffyddlon ac inni yn y mannau anodd esbonio'r cyfryw yn gwbl ddidwyll.

Ond nid yw'r beirniaid wedi condemnio Gŵr Pen y Bryn am beidio a mynd i'r afael a'r Rhyfel Degwm fel y cyfryw.

Yn ffodus cyhoeddwyd Cyflwyniad Byr ar wahan i'r ddogfen ac amgaeaf gopi o'r cyfryw i'ch sylw.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Ni ddaeth y cyfryw beth i feddwl y Cymry.

Go brin fod Vaughan wedi rhoi unrhyw help iddo gyda'r cyfieithu fel y cyfryw.

Gair camarweiniol yw 'addurniadau' yma, gan ein bod yn ystyried y cyfryw bethau, er yn wledd i lygad, yn rhai nad oes raid wrthynt.

Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Fe daerid fod y cyfryw ymgyrch yn lladd ein siawns i ddenu ffatrïoedd Seisnig i'r ardaloedd gwledig Cymraeg; a diau mai felly y byddai.

Ceir cyflwyniad nodedig i ganu'r Cywyddwyr fel y cyfryw ym Morgannwg yn y cywydd a ganodd Gruffudd Llwyd i'w hannerch.

Dyna ddangos dyfnder ei ymroddiad: adduned i'r cyfryw gyfeiriad.

Yn naturiol, yr oedd yn rhaid i'r cyfryw arweinydd gael adnoddau i gynnal ei fyddin, ac fe'u cafodd, i ryw fesur o leiaf, trwy ysbeilio'r Eglwys a'r mynaich o'u heiddo, ac yn arbennig o'u da.

Fodd bynnag, gellir dadlau yn erbyn hyn gyflwr anghrediniol ac ystyfnig y meddwl anianol, a phechod y cyfryw yn ymwadu â'i briod/phriod.

Y bwriad yn y pen draw oedd olrhain '...' Cyfrol idiosyncratig yw hi; cymharol ychydig o sylw a roddir i gerddi Keats - fel y cyfryw?

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a'r Trysorydd, i roddi caniatâd y Cyngor, fel lanlord, i unrhyw estyniad neu newid saerni%ol i eiddo dan les neu i osod arwydd ar y fath eiddo cyn belled â bod y cyfryw waith neu arwydd wedi derbyn hawl cynllunio neu, os nad oes angen y fath hawl am unrhyw reswm, nad oes gan y Prif Swyddog Cynllunio wrthwynebiad iddo.

Eglurodd Dad nad oedd ganddyn nhw ddim byd yn erbyn cŵn fel y cyfryw.

Canodd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i wirioneddau, ac efallai fod mesur ymateb ambell ddarllenydd i'w farddoniaeth yn dibynnu ar ei allu i ymateb i wirionedd fel y cyfryw.

Testun: Ni chafwyd cystadleuaeth Medal Ryddiaith fel y cyfryw.

O'r cyfryw fradwraeth!

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Y broblem, wrth gwrs, ydi nad yw'r cyfryw Fwrdd wedi gwneud dim dros y Gymraeg.

Gel y rhoddid pwyslais arwyddocaol ar gysylltiadau teuluol tebyg fu ymateb y beirdd i gyd-briodas rhwng y cyfryw uchelwyr a'r dolennau cyswllt a ffurfid ar dir cymdeithasol.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Os, drwy'r cyfryw salwch neu anallu, nad yw'r Artist yn gallu cwblhau ei waith gall y Cynhyrchydd derfynu Cytundeb Gwaith yr Artist drwy dalu i'r Artist yr holl daliadau sy'n ddyledus hyd at ddyddiad y salwch neu anallu.

(b) Mynychu unrhyw gyfarfod arall a awdurdodir gan y Cyngor, neu bwyllgor neu is- bwyllgor o'r Cyngor neu gyd-bwyllgor o'r Cyngor ac un neu fwy o awdurdodau eraill, neu is-bwyllgor o'r cyfryw gyd-bwyllgor, yn amodol ar ei fod yn gyfarfod i ba un y gwahoddwyd o leiaf ddau aelod o'r Cyngor.

Awgryma'r pwyslais hwn ar arbenigrwydd Israel, sy'n seiliedig ar y ffaith fod Duw trwy ei hethol yn ei gosod ar wahân i'r holl genhedloedd eraill ac nad ydyw ychwaith yn berthnasol i drafodaeth ar genedligrwydd fel y cyfryw.

Fel y gwelwyd eisoes, nid y coleg fel y cyfryw a noddodd yr awdur, nac unrhyw arweinydd crefyddol, ond yn hytrach leygwr o'r enw Gruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahaearn.

Cyn trafod y daliadau eu hunain, rhaid yn gyntaf arolygu agwedd y Methodistiaid at lenyddiaeth fd y cyfryw, callys y mae a wndo'u hagwedd gryn lawer â'u dull o fynegi'u meddyliau, a chryn lawer hefyd ~ dirnadaeth eu darllenwyr ohonynt.

Trafod y Gosodiadau a'r Dulliau gwarantedig, a hefyd Dulliau y Clerwyr yng nghyfnod y dirywiad, fel y soniwyd yn ddiweddar, a bydd yn drafodaeth agored, a rhyddid i bawb sôn am un neu ragor o'r cyfryw ddulliau.

Ond, wrth gwrs, cyffredinoli'n ofnadwy ydyw sôn am gerddoriaeth fel y cyfryw.

(a) Mynychu unrhyw gyfarfod o'r Cyngor neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor, neu unrhyw gorff arall i ba un y gwneir apwyntiadau neu enwebiadau iddo gan y Cyngor, neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r cyfryw gorff.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.

ni olygai hynny eu bod yn gwrthwynebu rhyfel fel y cyfryw, ac arwydd o hynny oedd y dathliadau a drefnwyd ganddynt ar ôl buddugoliaeth prydain ym mrwydr mrwydr.

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.

Trwy awgrym, cysylltwyd dilynwyr John Frost ag eithr nid Siartaeth fel y cyfryw ydoedd, ond y llygru a'r bwystfileiddio oedd wedi eu gorfodi ar y bobl.