Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfyd

cyfyd

Ychwaneger at drwch o streiciau drwch o eira, ac yn sgil hynny, cyfyd cwestiwn arall.

Cyfyd yr haul bob dydd yn y Dwyrain, a machlud yn y Gorllewin.

Cyfyd ei llef o'r tlotty, y carchar a'r bedd'.

Cyfyd cwestiwn arall yn sgil hyn: onid moethusrwydd braidd, felly, yw cynnwys dwy ysgrif yr un ar 'Mair Fadlen' ac ar 'Marwnad Syr John Edward Lloyd'?

Yn awr cyfyd y cwestiynau a fu'n ffrwtian dan yr wyneb ers blynyddoedd.

Eto cyfyd damcaniaeth Branwen Jarvis anawsterau: yn yr ail bennill, os Crist a olygir gan 'Arthur Iôr' sy'n arbed Mabon ac yna rywsut yn peri ei fwrw i 'fydafon geol y gelyn' yna ni ellir gwneud synnwyr o'r peth.

Tyd, Ifan, cyfyd ar fy nghefn i, awn ni am dro dros y fron fry a draw am fynwes y dwyrain, mi roith hynny gyfle i Mrs bach hwylio sgram o de inni.

Cyfyd braidd lwmp i'm gwddf yn awr wrth gofio'r awr.

Fel y gwyddom yn dda man mae nwydd yn prinhau cyfyd ei bris nes weithiau ei wneud yn brin, neu os parheir i'w ddefnyddio cwyd pris y nwyddau y mae'n rhan ohono tu hwnt i'r hyn mae'r cwmseriaid yn fodlon dalu.

Cyfyd holl ystumiau cymeriadau Meini Gwagedd, eu dicter, eu chwerwder, eu hachwyn di-ben-draw, yn sgil eu hanfodlonrwydd i dderbyn y ffaith mai hwy sydd yn creu eu hamgylchiadau.