Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfyng

cyfyng

Rhwng cyfyng furiau.

Mwynheais hefyd y stori gyntaf yn y casgliad, Dacw alarch ar y llyn, lle'r oedd mam a merch mewn cyfyng-gyngor wrth benderfynu wynebu'r dyfodol.

Gwedda arddull teledu'r cyfnod - arddull fwy theatraidd a mwy cyfyng i'r elfennau hynny o'r ddrama sydd yn chwarae gemau theatrig di-gynulleidfa mewn twll bychan ynysig.

Ie, cyfyng oedd adeiladau'r gof a'r ffenestri ar ben hynny mor gyfyng yn ogystal.

Ni ddefnyddiai'r gair fel sarhad cyffredinol a niwlog, ond mewn ystyr cyfyng a phenodol.

Rydych yn sefyll rwan wrth ochr y lle y byddem ni yn ei alw yn Graig y Cyfyng ac mae Craig Rhwng-ddwy-afon ychydig ymhellach.

Wrth fynd o'r waliau mawr, awyr-agored i waliau mwy cyfyng, mae'r sloganau'n newid cywair yn ogystal.

Roedd goliau Kluivert yn tynnur sylw - ond roedd o hefyd yn rhedeg llinell dda, yn dal y bêl i fyny a doedd o ddim yn poeni derbyn y bêl mewn lle cyfyng.

Heibio i'r paragraff cyntaf, ac wele: 'Oferedd i'w printio llawer o lyfrau, Blinder i'w cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus i'w dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus i'w croesawu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.' Pa arfau a feddwch i ddringo creigiau'r dychymyg hwn?

Ochr arall y geiniog yw i'r ddau gwmni mawr fod yn angau i nifer o siopau llyfrau llai - yn enwedig rhai sy'n gwerthu llyfrau arbenigol mwy cyfyng eu hapêl.

Cyfyng yw'r amrywiaeth tonyddol, ond mae yma gyfoeth o sensitifrwydd a theimlad.Yn rhannau uchaf yr awyr mae'r haenau paent yn dewach a'r llwydlas ar letraws yn awgrymu cymylau'n symud ac yn cyd-bwyso â llinellau esgyll y felin.

Cydnabuwyd mewn ysbryd hael iddo ymestyn dylanwad Plaid Cymru o ffiniau cyfyng y Gymru Gymraeg i weddill y wlad.

Er enghraifft pan oedd ef mewn cyfyng gyngor, "Ai gwell cysgodi?" Hynny cyn amser radio, wrth gwrs, i roi rhagolygon y tywydd a rhybudd o storm ar yr arfordir.

Mae'r ffaith fod y tir yn ymyloll hefyd yn golygu mai cyfyng iawn fydd unrhyw gyfle i arall gyfeirio i gynhyrchion "non-surplus", fyddai'n angenrheidiol dan yr adolygiad ar y Polisi Amaethyddol Cyffredinol sydd yn effeithio ar eidion, defaid a llefrith.

Datrys cyfyng-gyngor Enid a chywiro bywyd Geraint yw mater y 'rhamant'; dyna bwnc y drydedd adran y mae'r ddwy flaenorol wedi bod yn arwain ato.

Roedd hi'n ddau o'r gloch y bore ar y ddau yn mynd i'w caban a chan nad oedd y gwelyau cyfyng yn addas iawn ar gyfer gweithgareddau carwriaethol, rhoes Merêd y syniad o geisio ailgynnau nwydau Dilys o'r neilltu am y tro.

Pedwar ohonom ar silff fechan uwchben y dwr, a finna' hanner i mewn drwy'r lle cyfyng 'ma.

Rhoddwyd yr holl sector, yn unigolion, yn gwmniau a Chyngor y Celfyddydau mewn cyfyng-gyngor aruthrol.

Yno, wedi tri thymor yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn, bu Euros mewn peth cyfyng gyngor beth i'w wneud, a bu am ysbaid yn astudio Lladin a Hanes ar ei ben ei hun gartref.

Mae'r ymennydd bob amser yn ymdrechu i gadw gwres mewnol y corff y tu mewn i derfynau cyfyng drwy agor neu gau capilari%au'r croen fel y bo angen.

Cyfyng iawn oedd adeilad yr efail y rhan fynychaf.

Mae'n gorfod ei ailadrodd ei hun o hyd; cyfyng yw'r iaith sy'n medru dirnad yr Anfeidrol.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

Ar ol pystachu stwffio drwy rhyw le cyfyng mae'r ogof yn agor allan ychydig ac mae dwr y mor yn llenwi'r gwaelod, 'n ol a mlaen ac yn lluchio'r trochion i fyny weithiau.