Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfyngu

cyfyngu

Cyfyngu ar weithgarwch cyd-lynu PDAG

Cyfyngu ar ystyr "Addysg Gymraeg"

Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.

Mae swyddogion Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia am weld cyfyngu'r tymor rygbi rhyngwladol i gyfnod o chwe mis.

Cyfyngu ar y broses adnabod anghenion, sensitif, presennol

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

Yna, wrth egluro pam y mae'n cyfyngu ei sylwadau i faes glo y de ac heb drafod y diwydiant yn y gogledd, dywed mai un rheswm am hynny yw fod gan lowyr y gogledd ddau "ladmerydd" yn y ddau frawd T.

Mae trwch yr eira - cymaint a hanner medr o ddyfn- der - yn rhwystro'r baeddod rhag crwydro'r wlad ac felly yn eu cyfyngu i un ardal arbennig.

Ond 'roeddent yn cael eu cyfyngu gan fychander y 'Pastoral Fund'.

Cyfyngu ymateb i anghenion addysgol arbennig trwy'r Gymraeg

Wfftia (yn gwrtais iawn) Paul Bourget, 'un a gododd o'r werin, yn ceisio cyfyngu hawliau'r bobl, ac yn lladd ar y gyfundrefn addysg a'i manteision a fu'n achos mawr o'u llwyddiant eu hunain'.

Oherwydd cyfyngu'r goleuni o fewn craidd y ffibr mae'r atgyfnerthiad yn anferth.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda'i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Cyfyngir y dorf i 2,500 sydd yn ei dro yn cyfyngu incwm y clwb.

Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?

Nid oedd y Dirprwywyr yn cyfyngu eu hymweliadau i leoedd diwydiannol; byddent yn ymweld â phob sir, gan adrodd gyda'r un trylwyredd ar ysgolion mewn ardaloedd gwledig a'r cymunedau yr oeddynt yn eu gwasanaethu.

Mewn ymgais i atal y Palestiniaid rhag manteisio ar gyfnod o ryfel i greu rhagor o helynt, cafodd pawb ar diroedd y meddiant eu cyfyngu i'w cartrefi am bedair awr ar hugain y dydd, am ddyddiau ar y tro.

Nid yw Duw'n cyfyngu ei weithredoedd i gyfnodau neilltuol.

Fel y mae patrwm y geiriau'n datblygu a'r sgwariau'n cael eu llenwi, mae'r cyfle i chwarae â geiriau'n cyfyngu.

Ac felly mae'r ddeddf a gafodd ei phasio'n ddiweddar yn cyfyngu'r hawl gyfansoddiadol i loches yn yr Almaen i'r bobl hynny sy'n cyrraedd yn syth o'r wlad lle roeddent mewn perygl.

Ychydig iawn o gyfle oedd yna i fwynhau chwarae ac adloniant weddill y flwyddyn gan bod dathliadau o unrhyw fath yn cael eu cyfyngu i goffa/ u dyddiau gŵyl sant yr eglwys leol a'r Suliau.

Ond, fel sy'n addas ar gyfer Nofel y Mis, ni ddylid cyfyngu ei hapêl i'r ifanc yn unig.

Cyfyngu ar swyddogaethau ehangach PDAG

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.