Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyhoeddiadau

cyhoeddiadau

Mae gennyf gof fel y byddai mam a finna yn galw yno lawer i nos Sadwrn i gael torth fawr, a chael paned o de ar y bwrdd bach crwn, a byddai y Beibl ganddi ar y silff pen tan, ac yn hongian byddai Almanac Robert Roberts Caergybi, a llyfr cyhoeddiadau y Methodistiaid Calfinaidd (roedd hi yn ofalus iawn o'r achos).

Os cewch anhawster recordio'r rhaglenni hyn, cysylltwch â Cyhoeddiadau Addysg BBC Cymru a gofynnwch am ein gwasanaeth fideo.

'Roedd hi'n ffordd digon hwylus a diogel i sicrhau pregethwyr i'r eglwysi ac i sicrhau cyhoeddiadau i'r pregethwr.

Mewn archfarchnadoedd, daeth pobl yn gyfarwydd â chlywed cyhoeddiadau megaffôn am y cynnydd diweddaraf mewn prisiau.

Fodd bynnag fe lwyddais i wneud y diolchiadau y cyhoeddiadau ac yna at y cyflwyno.

Ond eto, 'roedd 'i ffordd o roi cyhoeddiadau imi yn arbennig iawn.

Wrth gwrs, effemeral yw ansawdd llawer o'r cyhoeddiadau hyn - ffurf sydd yn llai tebygol o oroesi na chyfrolau rhwymedig.

Cyhoeddiadau Barddas.

Oherwydd ein bod am gael barn darllenwyr, teimlwyd mai'r dull mwyaf effeithiol o gyrraedd y gynulleidfa hon oedd trwy ddefnyddio cyhoeddiadau Cymraeg presennol.

Na, y cyhoeddiadau ar uchel seinydd yr orsaf a drôdd y lle yn uffern i mi.

Yn ogystal ceir cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig a gweinyddiaeth a rheolaeth yr amryw gymdeithasau bridiau - y rheolau, yr adroddiad blynyddol, y fantolen ariannol a meysydd cysylltieding eraill.

Fel y dengys y graff mae'r cyhoeddiadau yn y maes ar ôl i bobl gael gafael yn y peli 'bucky' wedi lluosogi'n rhyfeddol.

...paham mae cymaint o ysgrifenwyr galluog yn Nghymru, yn ysgrifio traethodau campus; ac hefyd yn llanw y cyhoeddiadau misol â gweithiau talentog (heb gael na Choleg, nac Athrofa, nac hyd yn oed ddiwrnod o Ysgol) mwy nâ'n cymydogion yn Lloegr, a'r Iwerddon, a gwledydd eraill?

Ymlaen â ni felly i drafod y Llên Gwerin Cyfoes yma, a hynny drwy edrych ar rai o'r straeon a'r credoau sydd yn cael eu hadrodd a'u sgrifennu heddiw, yn aml iawn o dan fantell straeon newyddion - (a pheidied neb â dweud fod golygyddion a gohebwyr yn ymarfer y ddawn o greu llên gwerin i werthu eu cyhoeddiadau).

Yn syml, felly, mae Kelly Jones wedi sylweddoli (fel pawb arall) fod cyhoeddiadau fel yr NME a Q yn cefnogi grwpiau nes eu bod yn dechrau denu miloedd o ddilynwyr, ac yn amlwg mae Stereophonics wedi cael llond bol ar y fath agwedd.

Fe fydd cyhoeddiadau swyddogol y Senedd yn ddwyieithog, fe gyhoeddir testun y Bwletin Swyddogol (yr 'Hansard') mewn Basgeg a Sbaeneg, ac fe fydd y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn wreiddiol.

I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.

Bara beunyddiol pob ymgeisydd am y weinidogaeth oedd sicrhau cyhoeddiadau ar y Suliau.

I'r mwyafrif o leygwyr, efallai mai catalogau sioeau yw'r mwyaf cyfarwydd o'r cyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid y fferm.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

Yr oedd ymfudo o Gymru i Awstralia ar raddfa lawer llai na'r un i America, ond yma eto gwnaed ymdrechion i ddarparu cyhoeddiadau cyfnodol ar gyfer yr ymfudwyr yn eu hiaith eu hunain.

Mae cyhoeddiadau gwyddonol yn bwysig yn hyn o beth.

Un rheswm am y duedd yw fod gan y beirdd eu hutgorn misol, sef Barddas, heb son am ddawn ffanfferaidd Alan Llwyd fel lladmerydd Cymdeithas Cerdd Dafod, a'i weithgarwch di-ben-draw fel bardd, golygydd a threfnydd Cyhoeddiadau Barddas.