Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cylchdaith

cylchdaith

Mae'r corff sy'n rheoli snwcer, y WSA, ar fin cyhoeddi eu hymateb i gynlluniau TSN i ffurfio cylchdaith newydd o gystadlaethau fydd yn cynnwys Pencampwriaeth Byd fydd yn cael ei chynnal yr un pryd â Phencampwriaeth y Byd Embassy y flwyddyn nesa.

Mae'r Cymry Garry Houston, Mark Pilkington, Steven Dodd a Mark Mouland yn gwybod os gwnan nhw barhau yn eu safleoedd presennol yn rownd ragbrofol olaf y gylchdaith golff Ewropeaidd yn Sbaen y bydd gan bob un docyn ar gyfer cylchdaith Golff Ewrop y tymor nesa.

Ac roedd hwnnw wedi bod yn crwydro ar draws mynyddoedd Pumlumon o fewn cylchdaith o bymtheng milltir i'w gartref ers naw mis crwn.

Mae'r Cymry Garry Houston, Mark Pilkington, Mark Mouland a Stephen Dodd yn cystadlu yn rownd ola y gystadleuaeth ragbrofol ar gyfer Cylchdaith Golff Ewrop y tymor nesaf.

Mae TSN (The Sportsmasters Network) wedi cyhoeddi eu bod wedi prynu cwmni Cuemasters ac am gychwyn cylchdaith fydd yn cynnwys deg o bencampwriaethau - rhai yn Ewrop a'r Dwyrain Pell.

Mae cwmni Sportsmaster, TSN, wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer cylchdaith snwcer newydd y tymor nesa.