Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cylchoedd

cylchoedd

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

O gwmpas y rhain y tyfodd cylchoedd barddol bywiog Cwmaman a Brynaman, a thrwy eu dylanwad hwy a cholofn farddol Caledfryn yn Y Gwladgarwr, y meistrolodd cynifer o'r beirdd y cynganeddion.

Cychwynnodd ar hyd honno, ar ôl ychydig gamau drysodd y trywydd, a dechreuodd Smwt symud o gwmpas mewn cylchoedd unwaith eto.

Buan y daeth y cyfreithwyr, y gweinyddwyr a'r dosbarthiadau breiniol i ystyried siarad Cymraeg mewn cylchoedd swyddogol fel her i awdurdod y ddeddf ac felly fel bygythiad i awdurdod y wladwriaeth.

Gan fod y tafarndai a chlybiau yn fannau cyfarfod mor boblogaidd i ieuenctid y fro mae'n hanfodol bwysig i ni geisio cyflwyno'r Gymraeg mewn modd mor ddeniadol â phosibl i'r cylchoedd hyn.

Eisteddai'r plant mewn cylchoedd, yn ailadrodd sloganau:

Tywysogion oeddem yn ein cylchoedd ein hunain.

Mae wedi llwyddo i gadw'r safonau gwyddonol uchaf a meithrin yr iaith Gymraeg mewn cylchoedd newydd.

Bydd cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg y dyfodol wedi dysgu'r iaith mewn cylchoedd meithrin ac yn yr ysgol.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Fe eisteddai'r plant mewn cylchoedd yn ailadrodd sloganau.

Ymdroellai cylchoedd o arogleuon amhleserus o'i gylch.

Mewn llawer o atlasau ceir siartiau(neu graffiau) cylchoedd.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

Mae angen cymryd camau breision ymlaen yn awr o ran hybu cydweithrediad rhwng cylchoedd o ysgolion gwledig cyfagos i'w datblygu fel unedau academaidd cryf.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.

Dyrchafai hynny fri y teulu ymhlith bonedd eraill llai ymwthiol yng ngogledd Cymru ar y naill llaw a'r cylchoedd ffasiynol yn Lloegr ar y llaw arall.