Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyllid

cyllid

Gyda golwg ar sicrhau rheolaeth effeithiol ar y treuliau pasiwyd yn unfrydol nad oedd neb i ymgymryd ag unrhyw agwedd ar y gwaith ariannol heb ganiatâd y Pwyllgor Cyllid.

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

Gyda dyfodol nifer o'r sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau dan fygythiad, bydd angen i'r cyllid a ddyrennir ar gyfer project gydnabod yr holl gostau sydd ynghlwm wrth ei gyflawni, er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth o adnoddau i'r dyfodol.

Rhai o'r pynciau y cafwyd darlithoedd arnynt oedd Cyfundrefn Addysg Cymru, y Llysoedd Barn, Pwerau Cynghorau Lleol, Cyllid Cymru, a Phropaganda'r Blaid.

OND doedd dim cyllid ar gael i'w sefydlu ym 1975 nac ym 1976 nac ym 1977.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Gorfodwyd y Llywodraeth i wahodd CBAC i sefydlu Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg democrataidd, ond torrodd Wyn Roberts ei air i roi cyllid iawn i'r corff newydd.

HUGHES, ysgrifennydd y Pwyllgor Cyllid ar y pryd, sy'n dweud yr hanes.

O ble y daw'r cyllid hwn?

Nodwyd rhinweddau'r Pwyllgor Cyllid yn neilltuol.

Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad, boed ar ffurf cyllid, neu offer.

b) senedd gyflawn yn trafod pwnc gosod o ddiddordeb cyffredinol yn y bore, ac yn y sesiwn brynhawn, yn dilyn (bob yn ail) adroddiadau rhanbarthol neu weinyddol/cyllid.

Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn y cynnig a byddai Mr Hughes yn rhoi'r mater gerbron pwyllgor cyllid y Cyngor Dosbarth.

Disgwylir felly i swyddogion rhanbarth a gweinyddol/cyllid lunio adroddiadau manwl 3 gwaith y flwyddyn.

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Gosodir y cyfrifoldeb am benderfyniadau o'r fath ar ein gwleidyddion etholedig, sydd wedi dewis gwario cyfran helaeth o'r cyllid sydd ar gael ar ddatblygiadau yn ymwneud ag arfau, tra yr un pryd yn cwtogi ar yr arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil wyddonol bur.

Yn ei neges ati dywed Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad, 'Yn Lloegr y bwriad yw danfon y cyllid ychwanegol yn uniongyrchol at ysgolion, gan leihau unwaith yn rhagor swyddogaeth yr Awdurdod Addysg Lleol democrataidd.

Treuliwyd misoedd yn datrys y gwahanol broblemau - cyllid, argraffu, golygu, cyfraniadau.

yn fanwl i'r ddogfen ymgynghori, gan fynegai pryder neilltuol ynglŷn â'r diffyg arian newydd ar gyfer y cynllun, a'r ffaith ein bod yn parhau i ddibynnu ar Awdurdodau Lleol am ran (ac yn y man, cwbl) o'r cyllid.

Effaith hyn fydd ehangu a dyfnhau ei swyddogaeth gysylltiol, fel y llunnir adroddiad blynyddol sy'n dangos y modd y dyrennir cyllid, i wahanol swyddogaethau'r Grwp, fel y gall asesu'r pwysigrwydd a roddir i faterion yr amgylchedd, mewn perthynas â galw parhaus cymdeithas am fwynau, a mabwysiadu côd arfaethedig yr Adran ar ymarfer da.

Dyrennir cyllid ar gyfer staffio canolog y canolfannau ar wahân i'r cyllid a glustnodir ar gyfer projectau.

Yn y ddeddfwriaeth hon rhoddir grymoedd newydd i lywodraethwyr ysgolion a chyfundrefn o ddatganoli cyllid, sef Rheoli Ysgolion yn Lleol (RHYLL), sydd yn symud y penderfyniadau cyllido oddi wrth yr awdurdodau addysg lleol i ysgolion unigol.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif penodwyd John Griffith, Llanfair Is Gaer, Sir Gaernarfon, yn Dderbynnydd Cyllid Tiroedd dros y rhanbarth a Brenianllaeth Caer.

Nid oes a wnelo hyn â gallu'r naill fudiad neu'r llall, ond yn hytrach, â'r modd y sianelir cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd.

Llwyddwyd hefyd i sicrhau cyllid i gyflogi gweithiwr datblygu llawn-amser i Gyngor Henoed Gwynedd.

Dengys ein profiad ar hyn o bryd, tra bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gefnogol iawn i'n gwaith yn gyffredinol, nad yw eu cyllid hwy o anghenraid yn gallu ymestyn yn gymesur â'n gwasanaeth ni yn eu hardal wrth i hwnnw ehangu.

Mae'r strategaeth raglenni a'r cyllid cyhoeddus yn brawf pendant o ymrwymiad Awdurdod S4C i'r flaenoriaeth honno.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Aberdaron yn gofyn i'r Cyngor ystyried y posibilrwydd o resymoli y rhwydwaith llwybrau ac o ble y daw'r cyllid i wario cymaint arnynt.

O fewn y cyllid a glustnodir, yr Uned fydd yn gyfrifol am y gwariant, am unrhyw gytundebau â chyhoeddwyr masnachol, ac am y dewis rhwng cyhoeddi yn fewnol neu'n allanol.

'Rydan ni'n galw ar y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddarparu'r cyllid a'r arbenigedd i ddatblygu safleoedd plentyn-gyfeillgar yn Gymraeg, ' meddai Llew ap Gwent.

Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi gosod y cyfrifoldeb o gadw llygad barcud ar y treuliau ar ysgwyddau'r Pwyllgor Cyllid.

Penderfynodd y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg wneud safiad a mynnu cyllid iawn a grym gan y Llywodraeth.

Er mwyn gwneud hyn heb weld lleihad mewn nifer y teitlau bydd angen cyllid ychwanegol.

Gwasanaethodd ar y pwyllgorau canlynol, Ffyrdd, Iechyd, Lles, Adeiladau, Cyllid ac Addysg Amaethyddol, ac yn enwedig y Pwyllgor Addysg a oedd yn delio â materion lle'r oedd Edwin yn neilltuol gymwys i roi arweiniad.

Gwasanaeth cyflwyno busnes syn cyflwyno buddsoddwyr i gwmnïau syn ymofyn cyllid ychwanegol ac syn barod yn eu tro i gynnig cyfran ecwiti yn y busnes.

Cyllid i ddylunio a chyhoeddi'r ddau becyn ychwanegol

Dangoswyd y byddai angen £40m ac mai'r unig obaith oedd i'r Cyngor ffurfio Menter Cyllid Preifat.

Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny.

Yr oedd y Pwyllgor Cyllid (ar gyfarwyddyd y Pwyllgor Gwaith, cofier) wedi dal gafael haearnaidd ar dreuliau'r wþl a theimlais fod y sefyllfa yn edrych yn ddigon addawol i ganiatau rhywfaint o ymlacio.

Gan mai drwy'r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Sirol y sicrheir cyllid ar gyfer gwaith plant fel arfer, ceir problem neilltuol mewn siroedd sydd â nifer fawr o lochesau, efallai bump neu chwech yn hytrach na dim ond dwy neu dair.

Cytunodd Awdurdod S4C y bydd cyllid rhaglenni S4C am y flwyddyn 2000 4.4% yn uwch nag yn 1999, sydd eisoes 10% yn uwch na'r gwariant yn 1998.