Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymharu

cymharu

cymharu yn gyson y canlyniadau â'r gyllideb er mwyn darganfod camgymeriadau, rheoli gwaith aelodau o'r staff sy'n gyfrifol am wahanol adrannau, a darparu data at gyfer amcangyfrifon pellach at y dyfodol.

Yr oedd wedi gosod y safon iddo ef ei hun mor uchel fel yr oedd ei ddiffygion yn wastadol ger ei fron; ond edrychai ar eraill, nad oeddynt, yn ôl fy meddwl i, yn haeddu eu cymharu ag ef, gydag eiddigedd.

yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.' Rhaid cymharu'r dull awdurdodol, diymhongar hwn, sydd yn nodweddiadol o Hiraethog wrth iddo drin digwyddiadau sydd heb berthynas â'r rhai canolog, â'r dull anuniongyrchol a ddefnyddia i drin mater y briodas:

(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.

Ond wrth ystyried Elphin, ar y llaw arall, dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd a goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall.

Nid oedd prinder wicedwyr da - bechgyn fel Keith Andrew, Bob Taylor, Jimmy Binks a JT Murray - ac o ran gallu yr oedd David yn cymharu'n ffafriol iawn â hwy.

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Ychydig o ddatblygiad syniadol oedd yn y llythyron gyhoeddodd Hugh Hughes yn ei erbyn yn y Seren Ogleddol o'u cymharu â'i ysgrifau yn Seren Gomer bum mlynedd yn gynharach, ond cafodd le yn ei bapur ei hun i'w hegluro'n llawn ac yn fanwl.

Yn ystod Mawrth a dechrau Ebrill y maent yn cymharu ac yn y cyfnod hwnnw y maent yn hyfion ac eofn iawn.

Does ond angen cymharu'r penillion gyda'r cytgan am brawf o hynny.

Gellir cymharu'r ffyniant yn y diwydiant llongau yng Ngogledd Cymru yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r twf yn y diwydiannau glo, haearn a dur yn Ne Cymru.

Erthygl Saunders Lewis sy'n sefyll allan o blith y tair, er eu bod oll yn rhyfeddol o ffres o'u cymharu a'r rhan fwyaf o newyddiaduraeth wleidyddol hanner cant oed.

Dylid nodi cryn lwyddiant yn y maes dros y degawd diwethaf, yn enwedig ym maes llyfrau plant a phobl ifanc lle y gwelwyd y twf mwyaf, ac mae ansawdd a diwyg y llyfrau'n cymharu'n ffafriol â'r hyn sydd ar gael mewn gwledydd eraill.

Bydd sawl llyfr yn cael ei sgwennu am yr holl halibalw^. Mae rhai yn cymharu'r bennod annisgwyl hon yn hanes yr Ynys Werdd â chwyldro Ffrainc, a'r uchelwyr gorfalch yn cael eu dymchwel.

Petai gofod yn caniata/ u, ymarferiad dadlennol fyddai cymharu gweledigaeth Glanmor Williams ag un Charles Edwards, neu O. M. Edwards, neu Syr J. E. Lloyd neu Dr Gwynfor Evans neu Dr John Davies.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Er mwyn gwneud hyn byddech yn cymharu nodweddion y gwahanol fodelau:

Roedd wedi gweld tameidiau o ffilmiau o bryd i'w gilydd, yn y sinema ac ar y teledu, yn dangos yr Americanwyr yn dathlu, ond nid oedd dim a welodd yn cymharu â'r sylwedd.

Wedyn mae yna beth wmbredd o hanes digwyddiadau pwysig, yn rhyfeloedd a digwygiadau a mudiadau o bob math trwy holl orllewin Ewrop a llawer o'r hyn a elwir yn fyd gwareiddiedig lle mae'r bobl sydd wedi dysgu lladd ei gilydd yn byw o'u cymharu a'r darnau lle mae'r bobol sy'n bwyta'i gilydd yn byw.

Gellir dangos wedyn sut y mae'r gwerthiannau a gyflawnir yn cymharu â'r gyllideb:

Ni wyddai Shakespeare, Milton, a Dafydd ap Gwilym wedi eu rowlio i'w gilydd ddim byd amdani hi, yn y mater o ddychymyg, o'u cymharu ag estate agent.

Datblyga'r larfa yn bwpa naill ai yn, ar, neu ger y gwesteiwr ac ar ôl allddod bydd yn cymharu ac yn hedfan i ffwrdd i chwilio am westeiwr addas i gynhurchu'r genhedlaeth nesaf.AR LETHRAU'R WYDDFA - Dewi Tomos

Ond mân lwch y cloriannau oedd ei ddioddefiadau ef o'u cymharu â'r profedigaethau personol a'i lloriodd.

Cyfarfod cyhoeddus fydd hwn sy'n galw am Ddeddf Iaith Newydd ac yn cymharu sefyllfa Cymru gyda sefyllfa Gwlad y Basg.

Ond o'u cymharu a'r perfformiad ei hun dydi'r pedair awr o ymarfer ond megis chwinciad.

Mae hi'n werth dyfynnu enghraifft o'i waith cyfieithu, o'r Saesneg i'r Gymraeg y tro hwn, er mwyn cael cymharu'r fersiwn gwreiddiol a'r cyfieithiad ochr-yn-ochr.

Ar hyn o bryd dim ond pedwar gwesty pum seren sydd yma sy'n cymharu'n sâl iawn â Dubai.

Er enghraifft, y cwestiwn cyntaf a ofynnwn am gwmni yw pa faint o elw y mae wedi ei ennill, a sut y mae hwn yn cymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Testun diolch mawr oedd gan blant Bethesda o'u cymharu ‘ Jeffrey.

Annheg, efallai, yw eu cymharu ag arddull y Divine Comedy ond y mae yna debygrwydd yn y math o swn sy'n cael ei gynhyrchu.

Nid yw'r Dadeni Dysg na'r Chwyldro Protestanaidd ond digwyddiadau bach o'u cymharu ".

Roedd ci gan y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn yr ysgol a bydden nhw'n eu brolio a'u cymharu wrth siarad yn yr iard.

Gellir cymharu lle'r genedl yn y byd â lle'r teulu mewn cymdogaeth leol ac â lle cymdogaeth mewn cenedl.

Mae'r rhestr yn awr yn cyfateb i'r 'unigolion' gyda'r 'DNA' teithio gorau o'u cymharu â'r gweddill.

Mae'n cymharu ein cyrff presennol ni â phebyll, pethau dros dro, nad ydyn nhw ddim wedi cael eu hadeiladu i barhau.

Does dim siopau yma i'w cymharu â gwleddoedd Dubai ond mae'r ardal yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phum gwesty pedair a phump seren ar y gweill dros y flwyddyn nesa.

Yn sicr, byddwn yn edrych at weld cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y ddau Gyfrifiad o'u cymharu â Chyfrifiad 1991.

Mae dealltwriaeth seryddion wedi datblygu o'r cyfnod cynnar pryd yr oedd yn rhywbeth a seiliwyd yn bennaf ar ofergoel i amser Galileo a Newton, yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan roddwyd seryddiaeth a gwyddoniaeth yn gyffredinol ar sail 'gwyddonol', sef cymharu, arsyllu ac arbrofi.

Fe ofynnodd - - sut oedd Ffioedd y BBC yn cymharu.

Ran fynychaf, munudau hamddenol hyd yn oed yw'r rhai a dreulir o flaen y camerau o'u cymharu â berw'r ystafell newyddion ychydig funudau cyn amser darlledu.

Mae'n arwyddocaol fod Ankst eu hunain yn awyddus i'w cymharu eu hunain â charfan o gwmni%au annibynnol Lloegr sydd yn y maes heddiw - cwmni%au fel Too Pure, ClawFirst a Rough Neck, sy'n rhyddhau 'miwsig blaengar' ac sy'n driw i'r ethos annibynnol.

Mae 800 yn fwy o bobol o'u cymharu â mis yn ôl yn aros am driniaeth.