Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymhwyster

cymhwyster

Nid oedd digon o gyfleoedd i ieuenctid ar ôl iddynt orffen addysg Gymraeg: dylid sicrhau gwell cyfleoedd iddynt ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith drwy wneud y Gymraeg yn fwy hanfodol fel cymhwyster ar gyfer swyddi.

Cen Williams Mae'r Coleg yn cynnig cyfres o ddiplomau i athrawon uwchradd a chynradd mewn amrywiol feysydd astudiaeth gan fod yr athrawon hynny wedi mynegi awydd am gyrsiau a fyddai'n datblygu eu harbenigedd ac yn cynnig cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Yna, wrth i gyfleoedd amlhau daeth llif o actorion ifainc o golegau gyda nifer ohonyn nhw o'r farn fod addysg yn well cymhwyster na phrofiad.

Ymhellach, cefnai'r disgyblion ar ddysgu iaith gyda theimladau negyddol, sef nad oeddent hwy'n ddigon da i fynd ymlaen â'r gwaith ac y byddent, o barhau, yn methu ag ennill cymhwyster a fyddai'n cael ei gydnabod yn gyhoeddus.

Gofynion Mynediad Cymhwyster dysgu (Tystysgrif Athro, Gradd B.Add., Gradd BA/B.Sc.etc.