Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymunedol

cymunedol

Dylai'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ariannol digonol i brosiectau diwylliannol cymunedol fel bod cyfle i ddiwylliant a chelfyddyd ffynnu ar lefel gymunedol yn ogystal â chenedlaethol.

Derbyniant grantiau cymharol fach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae eu bodolaeth yn dibynnu'n fwy ar werthiant, hysbysebion lleol, a gweithgareddau codi arian lleol, sydd ynddynt eu hunain yn isgynhyrchion cymunedol pwysig.

Symudodd i Aberystwyth, yn teimlo ei fod angen newid, a thrwy weithio ar brosiect cymunedol ac aml-gyfrwng ym mhentref Cribyn, croesodd y bont rhwng byd celfyddyd gain a'r theatr, gan weithio am dair blynedd wedyn gyda Chwmni Cyfri Tri.

Tynnwyd sylw yn arbennig at y defnydd o sain, lliw ac animeiddio ar safle Ysgol Santes Tudful, ac at fanylder y gwybodaeth cymunedol safle Ysgol Llanrug.

I ffurfio Cynllun Addysg Cymunedol -- mewn trafodaeth a phawb yn y Sir, i ddamgos sut y gall pob ysgol, coleg a mudiad gwirfoddol gydweithio â'i gilydd.

Cyd-ddatblygu nodion cwricwlwm lleol e.e. Astudiaethau Cymunedol.

Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.

Yn y sector cynradd mae gyda ni ganran uchel iawn o ysgolion cymunedol bychain.

Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol.'. Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru.

Dyma farn Roy Kranz golygydd papur newydd cymunedol Glue yn Boston, America.

Syniad arall sydd gan y cwmni ydy sefydlu elusen o'r enw Gwynfryn Cymunedol fydd yn canolbwyntio ar feithrin ac annog talentau newydd yng ngwreiddiau'r Sîn Roc Gymraeg.

Galwn ar y Cynulliad i ddileu y Quangos sy'n gweithredu yn y maes yma a chryfhau gallu ymarferol ein cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain drwy gefnogi mentrau cymunedol gydag adnoddau digonol.

Ond y pentref unigol (a'r gweithle) yw sylfaen bywyd cymunedol naturiol neu anffurfiol y mwyafrif o drigolion ac, ar y lefel hon y creir ymwybyddiaeth o berthyn i gymuned organig ac amlochrog o'i gwrthgyferbynnu â pherthyn i fudiad neu garfan diddordeb arbennig.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Dylai'r corff hwnnw gynnwys mudiadau sydd yn hybu'r Gymraeg ynghyd â mentrau iaith cymunedol.

Wedi colli'r ffocws, byddai'r weddillion o fywyd cymunedol yn mynd yn Saesneg er y byddai gan unigolion hawliau cynyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ar faterion swyddogol - 'role-reversal' llwyr.

Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.

hyrwyddo rhwydweithiau cymunedol newydd.

Mae'n rhaid cydnabod ar yr un pryd fod cyfleoedd sylweddol ar gael yn yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau cefnogaeth ariannol ac ymarferol drwy gysylltu'r Gymraeg â byd gwaith a datblygiadau cymunedol.

Oherwydd o be wela' i, mi rydach chi dros Gymraeg sydd wedi ei hysgaru o'i gwreiddiau cymunedol a thros Gymraeg fydd heb unrhyw rym yn y dyfodol.

Dangosodd y cais y byddai yna fanteision eraill i'r cynllun yn ogystal â chael ysgolion newydd a hynny o ran adfywiad a thwristiaeth, yr amgylchedd, cyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

Ond ar ôl pwysau oddiwrth y Cyngor Iechyd Cymunedol, mae'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans newydd wedi cadarnhau yr wythnos yma bydd yr arian i wneud y gwaith ar gael.

Er mwyn cyflawni'r nod yma, bydd rhaid i'r Cynulliad sicrhau seiliau cymunedol cryf i'r iaith Gymraeg ar draws Cymru gyfan, ac, yn yr ystyr yma, y mae lles y Gymraeg yn mynd law yn llaw â lles gorau holl gymunedau Cymru.