Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymwynas

cymwynas

Roedd yn wraig dawel a hoffus ac yn ddiolchgar am bob cymwynas a gofal yn arbennig yn ystod ei gwaeledd.

Mae chwithdod mawr ar eu hol yma ym Moelfre - buont yn barod bob amser eu cymwynas a'u gwasanaeth a'u cyfeillgarwch i ni, drigolion y pentref, ac i gylch eang o Fon a'r Gogledd.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Trodd y Priodor ato a gofyn: 'Fasa chi ddim yn gneud cymwynas â mi?'

Cred llawer o'r ymfudwyr o hyd eu bod yn gwneud cymwynas trwy wrthod dysgu'r Gymraeg a mynnu nad yw'r Cymry i'w cyfarch yn yr iaith.

Dyna oedd cymwynas amhrisiadwy ysgolheigion y Dadeni, a fanteisiodd ar ddyfais y wasg argraffu.

Fe'n cymhellodd inni fwynhau'n hunain ymhob dull posibl, ac i beidio â "chicio% Iwgoslafiaid, gan eu bod yn bobl syber a pharod eu cymwynas.

Yr oeddwn i bob amser wedi ystyried y gyfres, Llên y Llenor, yn llusern i oleuo'r darllenydd cyffredin - cymwynas werthfawr yn achos y llenor arbennig hwn.