Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymwynasgar

cymwynasgar

Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.