Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymysgedd

cymysgedd

Aflawen, fel yfed cymysgedd o'u dewis ddiodydd, seidr a llaeth enwyn, fyddai deuawd parhaus gan yr yfwyr cedyrn hyn.

Mae'n bwysig bwyta cymysgedd cytbwys o fwyd sy'n rhoi'r holl faethynnau angenrheidiol i chi yn ogystal a chwrdd a'r gofynion calori-isel er mwyn colli pwysau.

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Er y gwelwyd datblygiadau mewn sawl maes, mae angen i BBC Cymru bellach ailddynodi ei rôl ai sefyllfa mewn marchnad ddarlledu syn newid yn gyflym, wrth i ddatblygiadau technolegol gynnig cymysgedd o ddewis i'r gwylwyr ar gwrandawyr, ar deledu digidol ar hyn o bryd, ar radio sain digidol cyn bo hir, ac yn fuan drwy wasanaethau arlein.

Rhag ofn y gall unrhyw afiechyd gwreiddiau fod wedi ymsefydlu yn y bagiau tyfu mae'n ddoeth peidio dyfnyddio cymysgedd felly o gompost ar gyfer yr un math o blanhigion, neu eu perthnasau.

Cymysgedd sydd yma o gerddi caeth a rhydd gyda rhai ohonynt yn y mesur gwers rydd cynganeddol.

Yr oedd y mudiad gwlatgarol yn gryf yng Ngalilea er gwaethaf neu oherwydd y cymysgedd hiliol a diwylliannol a oedd yno.

Erbyn heddiw mae modd rheoli'r pryfyn trwy chwistrellu neu dywallt gwenwyn pryfed ar y cefn ond erys trochi'r defaid mewn cymysgedd o ddŵr a'r gwenwyn priodol am funud cyfan y ffordd fwyaf o gaw'r clafr dan reolaeth.

Mewn un ganolfan yn rhanbarth Arsi gwelsom sut y caiff hadau eu rhoi mewn silindrau bach plastig sy'n cynnwys cymysgedd o bridd a gwrtaith.

Cymysgedd dyfrllyd o olew, siwgr a blawd soya yw'r prif bryd.

Ar yr ystadau hyn gellwch gael cymysgedd o wahanol fathau o dai.

O'r rhain ffurfiwyd tîm yn cynnwys cymysgedd o wynebau newydd yn ogystal â rhai cyfarwydd.

Yr oedd cymysgedd o draciau o'r tair albym, yn ogystal â chân neu ddwy sydd hyd yma yn anghyfarwydd.

Cymysgedd o gytseiniaid a llafariaid sydd ei angen greu gair.

Gellir bwydo'r glaswellt a lladd chwyn ar yr un taeniad trwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd cemegol sy'n cynnwys gwrtaith a chwynladdwr yn yr un cymysgedd.