Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhaliol

cynhaliol

Serch hynny, i fudiad a froliai ei fod yn anelu at chwyldroi amgylchiadau cynhaliol yr iaith Gymraeg, rhaid cyfaddef mai gwendid oedd y diffyg canolbwyntio ar syniadaeth.

Ffordd arall angenrheidiol ond anuniongyrchol o gynyddu cyfleoedd yw drwy ddatblygu cymorth cynhaliol.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Cyffyrddir yn ogystal a strategaethau dysgu gwahanol megis "hunan addysgu cynhaliol," trefnu nodiadau a'u symleiddio ar gyfer plant a phroblemau iaith sydd yn benodol i un pwnc; agweddau cyffredinol a welwyd wrth arsylwi mewn ysgolion sydd yn fwy eang eu hapel ac yn berthnasol i unrhyw athro.

Un canlyniad i hyn yw fod perygl datgymalu'r rhwydwaith o athrawon cynhaliol a sefydlwyd dros nifer o flynyddoedd mewn awdurdodau addysg lleol.

Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.

Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.