Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynharaf

cynharaf

Rhaid dylanwadu'n gadarnhaol ar eu hagweddau a'u defnydd o'r iaith o'r cyfnod cynharaf, i sicrhau y byddant hwythau'n trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant ac yn ei defnyddio fel iaith y teulu.

Yr Athro Brekham, pennaeth Sefydliad Bywydegol yn Vladiuostok, a wnaeth rai o'r arbrofion cynharaf.

Yn ei ffurfiau cynharaf mudiad yn galw am grefydd ddyfnach, am hunan-ddisgyblaeth llymach ac am fywyd moesol ar lefel uwch nag a welwyd yn y Brifysgol er dyddiau John Wesley ydoedd.

Y caniad cynharaf lle cyferchir un o abadau mynachlog Nedd sydd yn hysbys yw cywydd Ieuan Tew i ofyn gwartheg dros Owain Dwnn.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Yn y rhan yma o India, beth bynnag, ffurf cwch gwenyn sydd i gytiau'r gwehlion - yr un ffurf a'r tai cynharaf y gwyddom amdanynt yn y Gymry Geltaidd.

Fel pob plentyn atgofion am yr Ysgol Sul yw'r rhai cynharaf.

Cyfuniad o'r ffactorau penodol Almaenig hyn a digwyddiadau ehangach megis y rhyfel yn Fietnam oedd thema un o areithiau cynharaf Schneider.

Ymhle felly, y ceir y cyfeiriadau cynharaf at Arthur wrth ei enw?

Yn achlysurol yn arbennig yn achos y cynlluniau cynharaf, byddai grwpiau bychain o athrawon o'r un fryd yn dod at ei gilydd, i weithio'n annibynnol ar eu cynlluniau eu hunain Dyna'n sicr oedd hanes grwp Caer Efrog - gydweithio gan nifer o athrawon a oedd yn adnabod ei gilydd yn dda.

Mae marwnadau i arglwyddi ymhlith y cerddi cynharaf yn y Gymraeg, ac mae'n amlwg fod cryfder y traddodiad hwnnw'n ffactor bwysig yma.

Gan fod dyn wedi byw yn agos at natur a'r adar a'r anifeiliaid gwylltion ers ei ddyddiau cynharaf, mae'n naturiol bod llawer o'r chwedlau byrion hyn yn defnyddio rhai o nodweddion cymeriadau o fyd natur.

Mae dechrau'r gân yn arbennig yn gwneud i rywun feddwl am stwff cynharaf Cerys a'r criw, ac mae'r modd mae llais Gethin yn symud o un uchelseinydd i'r llall yn effeithiol tu hwnt.