Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhwysfawr

cynhwysfawr

Nid oes un catalog cynhwysfawr o'r adnoddau addysgol ar gael.

O ran chwaraeon, cafwyd darllediadau cynhwysfawr o fyd pêl-droed yng Nghymru gan BBC Cymru, o'r lleol i'r rhyngwladol, yn ogystal â dangos gêmau'r ddau brif glwb rygbi, Caerdydd ac Abertawe.

Mae'n annog pob pennaeth heddlu i sefydlu polisi%au cynhwysfawr a'u gweithredu, fel y bydd eu holl swyddogion yn sicrach o'u safle pan elwir hwy i sefyllfa o drais yn y cartref.

Penderfynodd Cyngor Llŷn y blynyddoedd rheini, cyn iddo gael ei foddi yn Nwyfor, fod angen un cynllun cynhwysfawr ar gyfer y dosbarth cyfan a dewiswyd Llyn Cwmstradllyn fel prif gronfa.

Archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R.S. Thomas, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, erthyglau a llyfrau beirniadol, cyfweliadau a deunydd clywedol.

ffordd orau o wneud hynny yw yng nghyswllt polisi cynhwysfawr a chydlynol ar gyfer delio â phroblemau cymdeithasol ac economaidd ardaloedd arbennig trwy amryw ddulliau sydd yn briodol i ansawdd amgylcheddol y Parciau.

Ar 15 Ionawr 1996 cyhoeddodd y Bwrdd ganlyniadau arolwg cynhwysfawr o agweddau'r cyhoedd tuag at yr iaith Gymraeg.

Fel y dadleuodd Cymdeithas yr Iaith yn ei dogfen Dwyieithrwydd Gweithredol, rhaid i'r Cynulliad ddatblygu polisi iaith cynhwysfawr ac integredig a sefydlu fframwaith i roi'r polisi hwnnw ar waith.

Yna cyfrifoldeb PDAG yw cydlynu'r holl geisiadau, eu gosod mewn trefn blaenoriaeth a llunio rhesymoliad cynhwysfawr cyn eu cyflwyno i'r Swyddfa Gymreig.

Mae'r ugain gweithiwr llawn amser a'r pump aelod staff yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i'r pentrefwyr a gweddill trigolion Arfon.

Ceir darllediadau byw hefyd o drafodaethau allweddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar deledu BBC Cymru, ac mae menter ar y cyd ag S4C ar ei sianel ddigidol, S4C2, yn darparu darllediadau cynhwysfawr, yn Gymraeg a Saesneg.

Mae Cymdeithas yr Iaith hithau yn y broses o wneud arolwg o'r posibiliadau ledled Ceredigion a Chaerfyrddin gan ddanfon holiadur (mwy cynhwysfawr nag eiddo Cyngor Ceredigion) at lywodraethwyr pob ysgol wledig yn y ddwy sir.

Mae syniadau a chynllun cynhwysfawr ar gael yn Llawlyfr Deddf Eiddo.

Cafwyd darllediadau byw cynhwysfawr ar y teledu ar radio gan BBC Cymru.

Roedd yn barod iawn i ddweud nad oedd dim ateb cynhwysfawr i'w gael, dim ond nifer o geisiadau bychain yma a thraw i ddatrys problemau bychain ar hyd a lled gwlad mor anferthol ac mor amrywiol...

A dyna'n union fel mae'r gwyddonydd yn gweithio; ceisio patrymau sy'n gwneud synnwyr o'r hyn mae'n sylwi arno ac sydd yn ddigon cynhwysfawr i dderbyn y newydd, rhaid chwalu'r patrwm ac adeiladu un arall.

Yn BBC Choice Wales News at Ten ceir adroddiad cynhwysfawr o straeon amlycaf y dydd.

Creadigaethau ei feddwl felly yw'r ddeddf neu'r ddamcaniaeth; disgrifiad cynhwysfawr o'r hyn mae wedi sylwi arno a'i fesur.

Nid am mai'r "ddeddf" sy'n rheoli'r symudiadau, ond am ei bod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r hyn sy'n digwydd.

Waeth beth arall ddigwyddith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yr wythnos nesaf, fe ellir dweud i sicrwydd y bydd hi'n Eisteddfod hanesyddol, oherwydd fe fydd gan S4C Digidol y ddarpariaeth deledu fwyaf cynhwysfawr a fu erioed o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol.

Mae adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn parhau i ddarparu rhaglenni a dadansoddiad cynhwysfawr o'r Cynulliad Cenedlaethol ac o weithgareddau yn San Steffan.

Diau i'w gyfeillgarwch a Lhwyd fod yn ddylanwad ar Rowlands ac yn addysg iddo, ond yr oedd wrth reddf yn fyfyriwr darllengar, cynhwysfawr ei ddiddordeb.

(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i baratoi adroddiad ysgrifenedig manwl ar y papur ymgynghorol a'i gyflwyno i'r Pwyllgor nesaf er mwyn rhoddi ystyriaeth lawn i'r mater ac anfon sylwadau cynhwysfawr i'r Swyddfa Gymreig.

Datblygiad mawr arall - arlein y tro hwn - oedd lansio gwefan Jyst y Job yn cynnig gwasanaeth addysg Gyrfaoedd cynhwysfawr i bobl ifanc syn ceisio paratoi am waith yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg.

Mae brandio holl gynnyrch BBC Cymru ar S4C wedi ei gryfhau mewn modd cynhwysfawr a brwdfrydig.

Cafwyd darllediadau byw cynhwysfawr ar y teledu a'r radio gan BBC Cymru.